Etholiad Cyffredinol 2024 – y canlyniadau

Yr ymateb o Gymru a thu hwnt wrth gyfrif pleidleisiau etholiad San Steffan

Croeso i Blog Byw Etholiad Cyffredinol 2024 golwg360.

Byddwn ni’n dod â’r diweddaraf i chi ar ôl i’r gorsafoedd pleidleisio gau, gan gynnwys canlyniadau, y diweddaraf o rai o’r canolfannau cyfrif, a’r holl ymateb o bob cwr o Gymru a thu hwnt.

Gydol nos Iau ac oriau mân fore Gwener, bydd criw o ohebwyr, golygyddion, colofnwyr a sylwebwyr yn dod â phigion o bob cyfeiriad ynghyd yma, ac yn cadw golwg ar y sefyllfa yng Nghymru a thu hwnt yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Yn ogystal â golygyddion a gohebwyr golwg360, bydd yr academyddion Dr Huw Lewis (Prifysgol Aberystwyth) a Dr Edward Jones (Prifysgol Bangor), colofnwyr golwg360 Huw Prys Jones a Dylan Wyn Williams, sylfaenydd Golwg Dylan Iorwerth, y sylwebydd Elin Roberts, y colofnydd ac awdur Jason Morgan, a mwy yn cynnig dadansoddiadau a sylwebaeth hefyd. A bydd ambell un mewn etholaethau ledled Cymru wrth i ni agosáu at gyhoeddi’r canlyniadau.

Prif benawdau’r etholiad:

  • Llafur wedi ennill mwyafrif yn yr Etholiad Cyffredinol, Keir Stamer ar ei ffordd i Rif 10.
  • Y darlun llawn yng Nghymru – Llafur ar 27 sedd, Plaid Cymru â phedair a’r Democratiaid Rhyddfrydol gydag un.
  • Plaid Cymru wedi cipio Ynys Môn a Chaerfyrddin, a dal gafael ar Ddwyfor Meirionnydd a Cheredigion Preseli.
  • Alun Cairns o’r Ceidwadwyr yn colli sedd Bro Morgannwg i Kanishka Narayan o Lafur
  • Llafur gydag Andrew Ranger yn cipio etholaeth Wrecsam gan Sarah Atherton o’r Ceidwadwyr
  • Canlyniad olaf Cymru – Y Ceidwadwr David TC Davies yn colli’i sedd i Lafur yn Sir Fynwy.
  • Y Democratiaid Rhyddfrydol yn cipio Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe gan y Ceidwadwyr. 

Canlyniadau llawn etholaethau unigol Cymru ar waelod ein tudalen Etholiad.

07:45

Mae’r canlyniadau yn agosau at eu diwedd bellach – dim ond naw sedd sydd ar ôl i’w cyhoeddi. Mae pedair o’r rheiny yn yr Alban, un yng Ngogledd Iwerddon a’r gweddill yn Lloegr.

07:19

Mae’n debyg y bydd nifer seddi’r SNP yn syrthio o 48 i 8 yn dilyn yr etholiad.

Dyma oedd ymateb Rhun ap Iorwerth i ganlyniadau gwael yr SNP wrth siarad â golwg360 ar ôl y cyfri yn Ynys Môn fore heddiw, gan gymharu’r system i Gymru.

“Be sydd gennym ni mewn gwirionedd ydi dwy system etholiadol a dau gyd-destun gwleidyddol gwbl wahanol,” meddai.

“Mae’r SNP, drwy y llwyddiant mawr sy’n mynd ôl dim yn bell o ugain mlynedd erbyn hyn, a’r ffaith eu bod wedi bod yn arwain llywodraeth a’r heriau mae hyn ei olygu – ydi, dyma ydi ruddemau gwleidyddiaeth yn aml iawn, ond dwi’n hyderus iawn y bydd y SNP yn gallu ail-adeiladu.

“Mae’r neges dros annibyniaeth wrth gwrs yn parhau yn gryf iawn yno.”

06:50

Canlyniad mawr … Liz Truss yn colli mwyafrif o fwy na 26,000. Dim ond 630 oedd ynddi ond mae’n chwalfa go iawn. Ac un o’r rhai a aeth a’i phleidleisiau hi oedd ymgeisydd annibynnol o’r enw James Bagge, dyn a’i dad-cu a’i fam-gu yn Gymry Cymraeg o Ddyffryn Teifi!

06:49

Cadarnhad bod Liz Truss, oedd i weld yn hwyr i’r cyhoeddiad yn King’s Lynn & West Norfolk, wedi colli’i sedd.

Treuliodd Liz Truss ychydig dros 40 diwrnod fel Prif Weinidog yn 2022, a bu ei chyfnod yn llawn ansefydlogrwydd economaidd.

Does yna’r un cyn-Brif Weinidog wedi colli’u sedd yn y Deyrnas Unedig yn y cyfnod diweddaraf, ac yn 2019 roedd gan Liz Truss fwyafrif o tua 25,000 o bleidleisiau. 630 o bleidleisiau oedd rhyngddi hi a Terry Jermy, Aelod Seneddol newydd Llafur, yn yr etholaeth eleni.

06:40

Y BBC yn dweud eu bod nhw wedi cael “arwydd cryf” bod Liz Truss, y cyn-Brif Weiniodog, wedi colli’i sedd. Dydy’r canlyniad heb gael ei gyhoeddi eto. 

06:35

Yn ol cyn Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, mi fydd Keir Starmer yn well Prif Weinidog nag yr oedd wrth arwain yr wrthblaid. Mi ddywedodd wrth y BBC y byddai ei gryfderau yn “dod i’r amlwg” yn y swydd.

Yn y cyfamser, mae arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew R T Davies, wedi dweud bod angen iddyn nhw ymddiheuro am y pum mlynedd diwetha’.

06:30

Ar ôl noson lwyddiannus dros ben i Blaid Cymru yn Ynys Môn, siaradais efo Rhun ap Iorwerth am lwyddiant Llinos Medi yn cipio’r sedd i’r blaid am y tro cyntaf ers etholiad 1997 o dan Ieuan Wyn Jones:

“Mi oedd o’n deimlad bendigedig i weld hi’n ennill, a do mi wnes i ryw fath o wenu i fi fy hun yn meddwl ar un adeg o’n i yn mynd i fod yn sefyll yn y fan honno,” meddai.

“Fel arweinydd Plaid a ffrind a rhan o’r tîm iddi hi yma yn Ynys Môn oedd gen i ddim byd ond balchder dros Linos a dw i’n dymuno yn dda iddi hi.”

I rai ohonoch chi sydd ond wedi codi, dyma oedd y canlyniadau yn llawn:

Plaid Cymru (Llinos Medi) – 10,590

Ceidwadwyr (Virginia Crosbie) – 9,953

Llafur (Ieuan Môn Williams) – 7,619

Reform UK (Emmett Jenner) – 3,223

Gwyrddion (Martin Schwaller) – 604

Lib Dems (Leena Farhat) – 439

Plaid Cymru: “Canlyniad arbennig ond gwaith adeiladu at etholiad nesaf y Senedd”

Rhys Owen

Dyna eiriau Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, wedi iddyn nhw ennill pedair sedd, gan gynnwys yn Ynys Môn

06:26

Mae’r SNP wedi cael noson ddifrifol yn yr Alban, efo’r disgwyl y byddan nhw’n colli 39 o’u 48 sedd. Ond mae canrannau’r bleidlais yn adrodd stori ychydig yn whanol – ar hyn o bryd, maen nhw ar 30% o’i gymharu a 37% i Lafur, sydd ar fin ennill llwyth o seddi yn ol, yn enwedig yn ardal Glasgow a Chaeredin.

06:23

Mae James Cleverly, yr Ysgrifennydd Cartref o hyd ar hyn o bryd, wedi cadw ei sedd yn Braintree – yn wahanol i 10 aelod o’r Cabinet. Wrth gydnabod noson anodd i’r Ceidwadwyr, mi ddywedodd bod angen osgoi “atebion tenau i broblemau cymhleth”. Cyfeiriad siwr o fod at y frwydr sydd ar fin dechrau am enaid ei blaid,

06:06

Draw yng Ngogledd Iwerddon, mae bellach yn amlwg mai Sinn Féin yw’r blaid fwyaf yn San Steffan. Mae’r blaid weriniaethol wedi ennill saith sedd, a dydy hi ddim yn bosib i’r DUP unoliaethol orffen gyda mwy o seddi na Sinn Féin.

Dydy Aelodau Seneddol Sinn Féin ddim yn cymryd eu seddi yn Nhŷ’r Cyffredin.

Sinn Féin yw’r blaid fwyaf yng nghynulliad Stormont ac ar lefel cynghorau lleol Gogledd Iwerddon.