Etholiad Cyffredinol 2024 – y canlyniadau

Yr ymateb o Gymru a thu hwnt wrth gyfrif pleidleisiau etholiad San Steffan

Croeso i Blog Byw Etholiad Cyffredinol 2024 golwg360.

Byddwn ni’n dod â’r diweddaraf i chi ar ôl i’r gorsafoedd pleidleisio gau, gan gynnwys canlyniadau, y diweddaraf o rai o’r canolfannau cyfrif, a’r holl ymateb o bob cwr o Gymru a thu hwnt.

Gydol nos Iau ac oriau mân fore Gwener, bydd criw o ohebwyr, golygyddion, colofnwyr a sylwebwyr yn dod â phigion o bob cyfeiriad ynghyd yma, ac yn cadw golwg ar y sefyllfa yng Nghymru a thu hwnt yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Yn ogystal â golygyddion a gohebwyr golwg360, bydd yr academyddion Dr Huw Lewis (Prifysgol Aberystwyth) a Dr Edward Jones (Prifysgol Bangor), colofnwyr golwg360 Huw Prys Jones a Dylan Wyn Williams, sylfaenydd Golwg Dylan Iorwerth, y sylwebydd Elin Roberts, y colofnydd ac awdur Jason Morgan, a mwy yn cynnig dadansoddiadau a sylwebaeth hefyd. A bydd ambell un mewn etholaethau ledled Cymru wrth i ni agosáu at gyhoeddi’r canlyniadau.

Prif benawdau’r etholiad:

  • Llafur wedi ennill mwyafrif yn yr Etholiad Cyffredinol, Keir Stamer ar ei ffordd i Rif 10.
  • Y darlun llawn yng Nghymru – Llafur ar 27 sedd, Plaid Cymru â phedair a’r Democratiaid Rhyddfrydol gydag un.
  • Plaid Cymru wedi cipio Ynys Môn a Chaerfyrddin, a dal gafael ar Ddwyfor Meirionnydd a Cheredigion Preseli.
  • Alun Cairns o’r Ceidwadwyr yn colli sedd Bro Morgannwg i Kanishka Narayan o Lafur
  • Llafur gydag Andrew Ranger yn cipio etholaeth Wrecsam gan Sarah Atherton o’r Ceidwadwyr
  • Canlyniad olaf Cymru – Y Ceidwadwr David TC Davies yn colli’i sedd i Lafur yn Sir Fynwy.
  • Y Democratiaid Rhyddfrydol yn cipio Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe gan y Ceidwadwyr. 

Canlyniadau llawn etholaethau unigol Cymru ar waelod ein tudalen Etholiad.

17:44

Mae Jo Stevens, Aelod Seneddol Dwyrain Caerdydd, wedi cael ei phenodi’r Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

A dyma aelodau eraill o Gabinet Keir Starmer:

Ysgrifennydd Gwladol yr Alban: Ian Murray

Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon: Hilary Benn

Ysgrifennydd Diwylliant: Lisa Nandy

Ysgrifennydd yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig: Steve Reed

17:29

Reform yn ennill pumed sedd wedi’r ail-gyfrif yn Basildon South ac East Thurrock, a hynny gyda mwyafrif o 98 pleidlais.

16:51

Mae ambell aelod arall o’r Cabinet wedi’u henwi.

Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau: Liz Kendall

Ysgrifennydd Trafnidiaeth: Louise Haigh

Ysgrifennydd Gwyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg: Peter Kyle

Ysgrifennydd Busnes a Masnach: Jonathan Reynolds

Rydyn ni dal i aros am enwau Ysgrifennyddion Gwladol Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Jo Stevens, Aelod Seneddol Dwyrain Caerdydd, oedd Ysgrifennydd Gwladol yr Wrthblaid cyn yr etholiad.

16:10

Ychydig mwy o’r Cabinet…

Gweinidog Addysg: Bridget Phillipson

Ysgrifennydd Iechyd: Wes Streeting

Ysgrifennydd Cyfiawnder: Shabana Mahmood

Ysgrifennydd Ynni: Edward Miliband

16:09

Y Cynghorydd Aled Thomas

Mae Aled Thomas, fu’n sefyll dros y Blaid Geidwadol yng Ngheredigion Preseli, wedi dweud wrth golwg360 bod rhaid cael mwy o “hunaniaeth Gymreig” o fewn y blaid drwy gael arweinydd Ceidwadol yng Nghymru, fel sydd yn Yr Alban.

“Mae e’n glir ei bod hi wedi bod yn noson anodd i ni, yn enwedig yng Nghymru lle mae colli pob llais Ceidwadol yn San Steffan yn beth gwael,” meddai.

“Ond mae dal tîm cryf gennym ni yn y Senedd.

“Dw i yn credu bod angen i ni fel plaid wneud yr un math o beth a ddigwyddodd yn Yr Alban.

“Achos mae ganddyn nhw Arweinydd y Blaid Geidwadol i’r Alban, ac yn dechnegol does gennym ni ddim arweinydd yma yng Nghymru.

“Mae Andrew RT Davies yn arweinydd y blaid yn y Senedd wrth gwrs, ond oherwydd cyfansoddiad y blaid rydym yn dechnegol yn mynd efo Lloegr efo popeth.

“Ond mae rhaid i ni gael mwy o hunaniaeth Gymreig arno fe, ac wedyn mynd ymlaen at etholiad y Senedd yn 2026.”

16:00

Mae Keir Starmer wedi bod yn penodi’i Gabinet brynhawn heddiw, ac fel hyn mae pethau’n edrych hyd yn hyn.

Dirprwy Brif Weinidog – Angela Rayner

Canghellor y Trysorlys – Rachel Reeves (y fenyw gyntaf erioed i wneud y swydd)

Canghellor Dugiaeth Lancaster – Pat McFadden

Ysgrifennydd Tramor – David Lammy

Ysgrifennydd Cartref – Yvette Cooper

Ysgrifennydd Amddiffyn – John Healey

15:46

Mae golwg360 ar ddeall ei bod hi’n “debygol” mai’r ymgeisydd efo’r gyfran fwyaf o bleidleisiau yng Nghymru fydd yn arwain y blaid mewn i etholiad y Senedd yn 2026.

Gareth Beer, yr ymgeisydd yn Llanelli, gafodd y gyfran uchaf o bleidleisiau i’r blaid, gan orffen yn ail i Nia Griffith o tua 1,500 o bleidleisiau.

Twf Reform: “Tebygol” mai Gareth Beer fydd yn arwain Reform yn etholiad Senedd 2026  

Rhys Owen

Mae golwg360 ar ddeall ei bod hi’n “debygol” mai’r ymgeisydd efo’r gyfran fwyaf o bleidleisiau fydd yn arwain y blaid mewn i etholiad Senedd 2026

15:29

Angela Rayner

Angela Rayner yw Dirprwy Brif Weinidog newydd y Deyrnas Unedig.

Yr Aelod Seneddol dros Ashton-under-Lyne ym Manceinion yw’r ysgrifennydd gwladol dros godi’r gwastad, tai a chymunedau hefyd.

15:23

Dydyn ni ddim yn disgwyl y canlyniad llawn heddiw, gan fod Inverness, Skye a West Ross-shire yn yr Alban yn mynd i ail-gyfrif fory (Gorffennaf 6). Mae un etholaeth arall yn ne-ddwyrain Lloegr, South Basildson a East Thurrock, yn cyfrif am y trydydd tro hefyd.

Ond oni bai am y ddwy sedd hynny, dyma’r canlyniadau fesul plaid: 

Llafur: 412 sedd

Y Ceidwadwyr: 121 sedd

Y Democratiaid Rhyddfrydol: 71 sedd

Yr SNP: 9 sedd

Sinn Fein: 7 sedd

Annibynnol: 6 sedd

DUP: 5 sedd

Plaid Cymru: 4 sedd

Reform: 4 sedd

Y Blaid Werdd: 4 sedd

Social Democratic & Labour Party: 2 sedd

Alliance Party: 1 sedd

Plaid Unoliaethol Ulster: 1 sedd

Traditional Unionist Voice: 1 sedd

14:59

Mae Aelodau Seneddol Llafur wrthi’n mynd mewn i Rif 10, a Keir Starmer wrthi’n penodi’i Gabinet, mae’n debyg.

Rachel Reeves, John Healey, Pat McFadden, David Lammy ac Angela Rayner yw rhai o’r enwau sydd wedi mynd mewn yn barod.