Etholiad Cyffredinol 2024 – y pleidleisio

Golwg yn ôl ar ddigwyddiadau diwrnod yr etholiad

Croeso i Blog Byw Etholiad Cyffredinol 2024 golwg360.

Byddwn ni’n dod â’r diweddaraf i chi cyn ac yn ystod yr etholiad dydd Iau (Gorffennaf 4), gan gynnwys canlyniadau, y diweddaraf o rai o’r canolfannau cyfrif, a’r holl ymateb o bob cwr o Gymru a thu hwnt.

Gydol nos Iau ac oriau mân fore Gwener, bydd criw o ohebwyr, golygyddion, colofnwyr a sylwebwyr yn dod â phigion o bob cyfeiriad ynghyd yma, ac yn cadw golwg ar y sefyllfa yng Nghymru a thu hwnt yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Yn ogystal â golygyddion a gohebwyr golwg360, bydd yr academyddion Dr Huw Lewis (Prifysgol Aberystwyth) a Dr Edward Jones (Prifysgol Bangor), colofnwyr golwg360 Huw Prys Jones a Dylan Wyn Williams, sylfaenydd Golwg Dylan Iorwerth, y sylwebydd Elin Roberts, y colofnydd ac awdur Jason Morgan, a mwy yn cynnig dadansoddiadau a sylwebaeth hefyd. A bydd ambell un mewn etholaethau ledled Cymru wrth i ni agosáu at gyhoeddi’r canlyniadau.

13:36

Cofiwch eich ID i gael lleisio barn

Am y tro cyntaf mewn etholiad cyffredinol, bydd angen i bleidleiswyr ddangos ID ffotograffig cyn cael eu papur pleidleisio. Bydd yr etholiad yn dilyn yr un drefn â’r etholiad Comisiynwyr yr Heddlu fis Mai.

Mae’r mathau o ID sy’n cael eu derbyn yn cynnwys:

– Pasbort

– Trwydded yrru

– Rhai cardiau teithio rhatach megis pas bws person hŷn

– Y Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr.

Bydd pleidleiswyr yn gallu defnyddio ID sydd wedi dirwyn i ben os gellir eu hadnabod o’r ffotograff o hyd.

Fe fydd gorsafoedd pleidleisio yn agor am 7 bore fory, ac ar agor tan 10yh.

“Cyn i chi fynd i’r orsaf bleidleisio, gwnewch yn siŵr bod gennych yr ID sydd ei angen arnoch i bleidleisio. Bydd angen i chi ddangos y fersiwn wreiddiol, ni fydd copïau na lluniau yn cael eu derbyn,” meddai Rhydian Thomas, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol, Cymru.

“Os na fyddwch yn cofio dod â’ch ID gyda chi i’r orsaf bleidleisio, gallwch ddychwelyd yn ddiweddarach yn y diwrnod gyda’ch ID.

“Bydd unrhyw un sy’n sefyll mewn ciw am 10pm yn gallu bwrw ei bleidlais.”

12:36

Waeth i ba blaid y byddan nhw’n perthyn, bydd gan Gymru lai o Aelodau Seneddol yn San Steffan ar ôl yr etholiad fory. 

Mae’r newid ffiniau yn golygu mai 32 o etholaethau fydd yng Nghymru, yn hytrach na 40. 

Oni bai am Ynys Môn, sydd gan statws arbennig gan ei bod hi’n ynys, mae newidiadau i ffiniau bob un o’r etholaethau eraill.

Cewch wybod mwy am sut mae pob un o’r etholau hynny wedi newid drwy fynd i’r rhestr ar waelod y dudalen Etholiad Cyffredinol 2024.

Wrth glicio ar y gwahanol seddi, gallwch weld rhestr o bob ymgeisydd ym mhob etholaeth hefyd.

11:57

Vaughan Gething yn sgwrsio gyda Keir Starmer,

Mae Keir Starmer wedi dechrau ei ddiwrnod olaf o ymgyrchu yn Hendy-gwyn ar Daf yn Sir Gaerfyrddin.

Yno cafodd gwmni Vaughan Gething, Prif Weinidog Cymru, a Martha O’Neil, ymgeisydd y Blaid Lafur yn yr etholaeth.

Yr amcan fu’r tri siaradwr yn ei bwysleisio oedd cydweithio rhwng y Senedd a San Steffan er lles pobol yng Nghymru. Mae’r neges yma wedi cael ei hailadrodd dro ar ôl tro yn ystod yr ymgyrch.

Bydd llawer o sylw yn cael ei roi i’r addewid i wella’r berthynas o’r cychwyn cyntaf pe bai Keir Starmer yn fuddugol yn ei ymgyrch i fod yn Brif Weinidog ddydd Gwener.

Mae’r lleoliad yn un arwyddocaol hefyd, yn etholaeth Caerfyrddin, lle mae’r arolygon barn yn gweld brwydr agos iawn rhwng Martha O’Neil ac Ann Davies o Blaid Cymru. Bydd Llafur yn awyddus i drechu Plaid Cymru, yn ogystal â’r Ceidwadwyr, yr etholiad hwn, wrth iddyn nhw geisio ailsefydlu’r naratif fod y Blaid Lafur yng Nghymru yn brwydro i fod yn unedig, yn enwedig ar ôl problemau amlwg Vaughan Gething yn ei fisoedd cyntaf yn Brif Weinidog.

10:53

Gallai’r Ceidwadwyr golli pob sedd yng Nghymru, yn ôl yr arolwg barn diwethaf.

Mae pôl piniwn Barn Cymru yn awgrymu ei bod hi’n bosib i Lafur ennill 29 o’r 32 sedd yn y wlad, a’u bod nhw am ennill 40% o’r bleidlais dros y wlad.

Gallai hynny olygu eu bod nhw’n cipio Wrecsam, Sir Fynwy a Bro Morgannwg gan y Torïaid.

Yn ôl yr arolwg, mae’r ras am yr ail safle o ran cyfran y bleidlais yn dynn rhwng y Ceidwadwyr a Reform, gyda’r ddwy blaid ar 16% o’r gefnogaeth yn ôl y sampl diweddaraf o’r boblogaeth.

Mae pedair sedd yn rhy agos i’w darogan, medd y pôl piniwn gan YouGov ar ran ITV Cymru a Phrifysgol Caerdydd. Y seddi hynny yw Ynys Môn a Chaerfyrddin, lle mae hi’n debygol o fod yn dynn rhwng Llafur a Phlaid Cymru; Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Ceidwadwyr; a Maldwyn a Glyndŵr rhwng Llafur a’r Ceidwadwyr.

Dangosa’r pôl piniwn fod 14% o’r rhai gafodd eu holi am bleidleisio dros Blaid Cymru, ac mae’r data’n awgrymu mai nhw fydd yn ennill yng Ngheredigion Preseli a Dwyfor Meirionnydd.

09:15

Bore da ar y diwrnod cyn yr etholiad!

Beth am ddechrau drwy edrych ar y sefyllfa yng Nghymru wedi’r Etholiad Cyffredinol diwethaf yn 2019.

Mae newid ffiniau etholaethau a chwtogi nifer Aelodau Seneddol Cymru o 40 i 32 yn golygu y bydd hi’n anoddach cymharu, ond fel hyn roedd sefyllfa’r pleidiau yn San Steffan wedi’r etholiad diwethaf:

Llafur: 22 sedd

Y Ceidwadwyr: 14 sedd

Plaid Cymru: 4 sedd

23:37

Ar noson yr etholiad nos Iau (Gorffennaf 4) a thrwy’r nos, byddwn ni’n crynhoi’r canlyniadau ac yn dod â’r ymateb diweddaraf i chi o bob cwr o Gymru, yn ogystal â chynnig dadansoddiadau i chi o Gymru a thu hwnt.

Bydd ein tîm ni gyda chi drwy’r cyfan.

22:48

Ydych chi wedi cael cip ar ein hadran Etholiad Cyffredinol eto?

Cewch fanylion yr ymgeiswyr, yr etholaethau, y newyddion diweddaraf a mwy.

Etholiad Cyffredinol 2024

Y newyddion diweddaraf o ymgyrch etholiad San Steffan 2024.