Blog byw Etholiad Senedd 2021 gyda fi, Garmon Ceiro, yng nghwmni Gohebydd Senedd Golwg, Iolo Jones, colofnydd Golwg, Jason Morgan, gohebydd golwg360 Cadi Dafydd… gyda chyfraniadau gan y sylwebyddion gwleidyddol Dafydd Trystan a Huw Prys Jones, Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth, a chyd-sefydlydd Golwg, Dylan Iorwerth.
Dilynwch flog byw dydd Sadwrn am y diweddaraf.
Wel, ’na fe. Samuel Kurtz fydd Aelod o’r Senedd Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro. Pwy yw’r boi? Wnaeth e’ ddod dan y lach ddiwedd flwyddyn diwethaf pan ddaeth ei hen drydariadau sarhaus i’r fei. Allwch chi ddarllen am y cyfan islaw…
Ac os ydych chi’n ysu i wbod rhagor am Cefin Campbell, ymgeisydd aflwyddiannus Plaid Cymru, wel, waeth i chi ddarllen fy mhortread ohono (islaw)!
Mae Cefin ar ben rhestr rhanbarthol y Blaid yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, ond a fydd yn ennill sedd hwn? Nid yw’n berffaith glir ar hyn o bryd…
❝ ‘Y Grinchford a ddygodd y Dolig!’
Mae yna batrwm yn datblygu yn yr Alban hefyd … yr SNP yn cadw eu seddi, er waetha ambell symudiad bach iawn i un cyfeiriad neu’r llall.
Mae ganddyn nhw 25 erbyn hyn, a thair i’r Democratiaid Rhyddfrydol.
Y patrwm yn parhau – Ken Skates yn cadw De Clwyd i Lafur gyda phleidlais fwy iddo fo yn curo cynnydd i’r Ceidwadwyr hefyd.
Yn Nwyrain Abertawe, fe gynyddodd Mike Hedges ei fwyafrif i Lafur, heb fawr o her gan neb.
Ac er i Lafur wneud ychydig yn well, doedd hynny ddim yn ddigon i ennill yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro.
Yr enillydd yno, Samuel Kurtz, yn siarad Cymraeg, ac wedi gorfod ymddiheuro am twits ieuenctid yn ddifrïol am bobol hoyw.
9,700 o fwyafrif i Lafur yn Nwyrain Abertawe.
Sam Kurtz, siaradwr Cymraeg, yn ennill ras agos iawn yng Ngorllewin Caerfyrddin i’r Ceidwadwyr.
Twf o 9% ym mhleidlais y Blaid Lafur yn gwneud y sedd yn un ymylol – lle nad oedd hi’n darged mewn gwirionedd.
Y Ceidwadwyr yn cadw Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro gyda mwyafrif o 936.
De Clwyd yn dilyn patrwm tebyg i Delyn a Wrecsam – cynnydd (mwy y tro hwn) yn y bleidlais i’r Ceidwadwyr, ond y bleidlais i Lafur hefyd yn codi (o 8%), tra bod y bleidlais i UKIP ers 2016 yn chwalu.
Mae’r canlyniadau hyn yn y gogledd ddwyrain yn rhai arbennig o dda i Lafur ac yn rhai siomedig i’r Ceidwadwyr oedd yn hyderus iawn ynghylch y seddi hyn rai misoedd yn ôl.
Mwyafrif o 8,652 i Siân Gwenllian yn Arfon.
“Dw i’n llawenhau yn llwyddiant fy nghyfeillion… ym Mhlaid Cymru a’r Blaid Lafur” medd… dyfalwch pwy? Dafydd Elis Thomas.
“Wnes i bleidleisio dros Mark Drakeford” meddai.
Clamp o fuddugoliaeth i Siân Gwenllian yn Arfon, mwyafrif o bron 40% a 8,652 o bleidleisiau. Cryn ganlyniad yn sedd leiaf poblog Cymru.
Mae’r 13,760 o bleidleisiau gafodd hi y nifer fwyaf i Blaid Cymru ei chael mewn unrhyw etholiad erioed, boed yn y Senedd neu San Steffan.
Mewn ffordd dylai hon fod yn un o’r canlyniadau mwyaf siomedig i Lafur yng Nghymru, a hwythau’n cael diwrnod cystal. Doedd hi ond ddwy flynedd yn ôl iddyn nhw dargedu’r sedd hon yn San Steffan. Sedd brin sy’n edrych o’u cyrraedd bosib.