Blog byw Etholiad Senedd 2021 gyda fi, Garmon Ceiro, yng nghwmni Gohebydd Senedd Golwg, Iolo Jones, colofnydd Golwg, Jason Morgan, gohebydd golwg360 Cadi Dafydd… gyda chyfraniadau gan y sylwebyddion gwleidyddol Dafydd Trystan a Huw Prys Jones, Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth, a chyd-sefydlydd Golwg, Dylan Iorwerth.
Dilynwch flog byw dydd Sadwrn am y diweddaraf.
Mae’r canlyniad yn Nyffryn Clwyd yn awgrymu y gallai’r Ceidwadwyr gael diwrnod da yn yr ardal – eu pleidlais wedi codi 5%. Dim ond 0.5% oedd cynnydd y Blaid Lafur, felly awgrym y tro yma bod mwy o bleidlais UKIP wedi mynd i’r Toriaid.
Ond, ar wahan i 2011, mae hon wedi bod yn sedd agos iawn o’r dechrau.
Wnaeth Golwg rhoi sylw i sedd Dyffryn Clwyd yn ystod yr ymgyrch etholiadol. Oll alla’ i ddweud yw wnaeth pob un ymgeisydd siarad â fi ond am Gareth Davies (penderfynodd e’ beidio â chyfrannu)…
Tybed a wnes i jinx-io’r canlyniad rhywsut?!
Etholiad 2021: Dyffryn Clwyd
“Edrych ymlaen at b’nawn ychydig gwell na’r disgwyl… ond mae’n gynnar” medd Mark Drakeford.
Diolch, Mark.
Llywelyn ap Gwilym o fudiad YesCymru ar S4C yn trafod annibyniaeth yn ystod yr ymgyrch.
Dydi YesCymru heb wneud rhyw lawer dros y mis diwethaf – mae’n fudiad amhleidiol. Ond mae’n ddiddorol meddwl, os na fydd y pleidiau sydd o blaid annibyniaeth (yn benodol Plaid Cymru) yn gwneud yn dda heddiw, a fydd newid yn ei strategaeth wleidyddol – os oes un.
Mae canlyniadau etholiadol yn mynd y tu hwnt i’r pleidiau, wedi’r cwbl!
Y Ceidwadwyr wedi cipio Dyffryn Clwyd gyda 41% o’r bleidlais.
Llafur wedi colli Dyffryn Clwyd o drwch blewyn!!
Y Toriaid wedi ennill gyda 10,792
Llafur yn ail gyda 10,426…
Dydi canlyniad Merthyr ddim o angenrheidrwydd yn arwyddocaol o ran y seddi agos yng ngogledd-ddwyrain Cymru – mae’r ddemograffeg yn wahanol iawn.
Mae etholaethau’r gogledd-ddwyrain yn edrych llawer mwy i gyfeiriad Lloegr…
Yr SNP wedi ennill y gynta o seddi Glasgow – patrwm tebyg, symudiad bach iawn at Lafur ond dim o bwys.
I ategu beth ddywedodd Dylan Iorwerth, yn ôl canlyniad Merthyr o leiaf, mae’r bleidlais UKIP – ac efallai Brexit/Reform UK ers 2016 – wedi dychwelyd at y blaid Lafur.
Y peth arwyddocaol am hyn ydi ei fod i’r gwrthwyneb o’r sefyllfa yn Lloegr, lle mae’n ymddangos fod nifer fawr o bleidleiswyr a drodd oddi wrth Lafur at UKIP a Phlaid Brexit wedi troi at y Ceidwadwyr yn hytrach na’u hen blaid.
Richard Wyn Jones yn galw buddugoliaeth Dawn Bowden ym Merthyr yn “wiriondeddol ddiddorol”
Y Ceidwadwyr yn cael diwrnod da yn Lloegr mewn seddi fel hyn, ond hynny ddim yn digwydd yng Nghymru.
“Buddugoliaeth ryfeddol i Lafur Cymru” medd Dicw.
“Cwymp enfawr mewn pleidlais UKIP, mae’r bleidlais honno wedi mynd i Lafur,” meddai, “buddugoliaeth enfawr i’r Blaid Lafur.”