Blog byw Etholiad Senedd 2021 gyda fi, Garmon Ceiro, yng nghwmni Gohebydd Senedd Golwg, Iolo Jones, colofnydd Golwg, Jason Morgan, gohebydd golwg360 Cadi Dafydd… gyda chyfraniadau gan y sylwebyddion gwleidyddol Dafydd Trystan a Huw Prys Jones, Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth, a chyd-sefydlydd Golwg, Dylan Iorwerth.
Dilynwch flog byw dydd Sadwrn am y diweddaraf.
Pryd felly gawn ni’r canlyniad cynta’? Mae disgwyl canlyniadau o’r gorllewin gwyllt yn gyntaf… o ‘Lanelli’ a ‘Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr’. Tua 1.30 yw’r amser disgwyliedig.
Mae golwg360 yn deall ei bod nhw ar ei hôl hi braidd yn Llanelli – o ran y cyfri, hynny yw.
Mi roedd rhywfaint o gyfrif dros nos yn Lloegr – a bu’r canlyniadau yn bur ysgytwol…
Mae tipyn o sylw i ganlyniad Hartlepool, ond mae’r ffaith fod y canlyniadau hynny wedi eu hadlewyrchu ar draws nifer o gadanarleoedd Llafur cynt yng Ngogledd a Canolbarth Lloegr yn destun pen tost mawr i’r blaid.
Cofier fod pleidlais Llafur wedi cwympo o 9% ODDI ar 2019 – hynny yw nid mater o bleidleiswyr UKIP/Brexit yn cronni tu cefn i’r Ceidwadwyr oedd hwn; ond pobl dosbarth gweithiol yn ol pob tebyg yn troi eu cefn ar Lafur a throi at Boris Johnson.
Be’ mae hyn yn dweud wrthon ni am Gymru? Does neb yn gwybod yn iawn, ond fan lleiaf mae’n codi cwestiwn am yr ardaloedd hynny ble bu Llafur gynt yn gallu pwyso pleidleisiau – o bosib yn arbennig yn y Gogledd Ddwyrain allai fod yn dir ffrwythlon iawn i’r Ceidwadwyr. Mewn oriau (gobeithio) cawn weld – ai tri cenedl etholiadol sydd wedi pleidleisio neu ddau??
P’nawn da! Fe ddechreua’ i gyda phos i ddarllenwyr Golwg…
Faint o seddi y mae Plaid Cymru wedi eu hennill tu fas i’r Fro Gymraeg a dal eu gafael arnynt mewn etholiad dilynol?
Ateb ychydig yn hwyrach.
Wel, dyma fi’n rhoi fy mhen ar y bloc. Beth am groesi bysedd a gobeithio na fydda’ i’n edrych fel gormod ffŵl ymhen ychydig oriau!
Dw i’n rhagweld noson lled-siomedig i Blaid Cymru ar y cyfan, a lled-lwyddiannus i’r Torïaid. Dw i’n disgwyl i’r Ceidwadwyr gipio Dyffryn Clwyd a Brycheiniog a Sir Faesyfed. Alla’ i weld Llafur yn cadw eu gafael ar Lanelli.
Mae sïon yn dew nad yw pethau’n rhy dda i’r Blaid yn y Rhondda, ond, wel, dyma fi’n rhagweld Leanne yn cadw’i sedd!
Cawn weld beth ddigwyddith!
Darogan etholiadau’r Senedd
Pnawn da!
Wel, mae ’na elfen o ddarogan i bob etholiad, ac rydyn ni wedi bod wrthi’n cael hwyl gyda map rhyngweithiol Golwg i syllu i’r dyfodol.
Dyma ‘nghynnig i … ond pwy â ŵyr sut liw fydd ar y map go iawn, fydd yn cael ei lenwi’n raddol dros yr oriau nesaf. Pwy o’n doethusion ddaw atosaf ati, tybed?
Darogan etholiadau’r Senedd
Fe ddechreuwn ni gyda rhagolygon Jason Morgan a Iolo Jones… a gewn ni weld pa mor gywir fyddan nhw!
Roedd ’na beth cwyno neithiwr wrth i giwiau ffurfio yng Ngorllewin Caerdydd…
https://twitter.com/gkt_wales/status/1390421553461055495
Cawn weld a yw hyn yn arwydd o ganran uwch yn pleidleisio, neu’n ganlyniad trefniadau penodol ar gyfer y coronafeirws…
Bant â ni….!