Etholiad Senedd 2021 – dydd Gwener

Canlyniadau Etholiad Senedd 2021, a’r holl ymateb

Garmon Ceiro
gan Garmon Ceiro
Adeilad y Senedd gyda logo Golwg360

Blog byw Etholiad Senedd 2021 gyda fi, Garmon Ceiro, yng nghwmni Gohebydd Senedd Golwg, Iolo Jones, colofnydd Golwg, Jason Morgan, gohebydd golwg360 Cadi Dafydd… gyda chyfraniadau gan y sylwebyddion gwleidyddol Dafydd Trystan a Huw Prys Jones, Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth, a chyd-sefydlydd Golwg, Dylan Iorwerth.

Dilynwch flog byw dydd Sadwrn am y diweddaraf.

00:18

Tro annisgwyl ar ddiwedd diwrnod trychinebus i’r Democratiaid Rhyddfrydol. Yn groes i bob disgwyl wrth weld canlyniadau’r etholaethau heddiw, maen nhw wedi goroesi. Heb fawr ddim plaid ar ôl, fodd bynnag, aelod annibynnol fydd Jane Dodds i bob pwrpas, ac mae’n sicr y bydd Llafur yn ceisio bargeinio gyda hi o’r cychwyn am gefnogaeth.

Llafur bellach efo 30 sedd felly, a dyma fydd ei chyfrif terfynol. Llwyddiant ysgubol yn wir.

Ar ôl canlyniadau yfory, y Toriaid yn debygol o diweddu gyda 15 sedd, Plaid Cymru gyda 13 sedd.

00:15

Chi’n gwbod be’ fi’n lico neud yn hwyr y nos…? Edrych ar fap.

A dyma chi’ch un diweddara chi…

 

00:10

Felly mae rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi sicrhau y bydd gan y Democratiaid Rhyddfrydol sedd yn y Senedd nesa’.

Bydd Eluned Morgan a Joyce Watson yn dychwelyd, tra bydd Cefin Campbell yn ymuno am y tro cyntaf yn AoS Plaid Cymru.Dyma gadarnhad hefyd na fydd Helen Mary Jones – a oedd hefyd yn herio Llanelli – yn dychwelyd.

Bellach mae gan Lafur 30 sedd, ac nid yw’n debygol o gynyddu – yn hanesyddol mae Llafur ond wedi llwyddo ennill seddi rhanbarthol yn y rhanbarth hwn.

00:06

2 sedd i Lafur (Eluned Morgan, Joyce Watson), 1 i Blaid Cymru (Cefin Campbell) ac… 1 i’r Democratiaid Rhyddfrydol (Jane Dodds)!

Achubiaeth funud ola’ i’r Democratiaid Rhyddfrydol!

A Llafur wedi cyrraedd 30… fydd na ddim trafod clymbleidio y tro hwn!

00:05

Canlyniad olaf heno: Eluned Morgan (Llafur), Joyce Watson (Llafur), Cefin Campbell (Plaid Cymru) a Jane Dodds (Dem Rhydd) yn cael eu hethol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru.

00:03

Canolbarth a Gorllewin Cymru: 2 i Lafur, un i Blaid Cymru, un i’r Democratiaid Rhyddfrydol

23:42

Mae Captain Beany wedi methu yn ei ymgais i ddisodli Mark Drakeford a phenodi ei hun yn Arlywydd ar Gymru. Ond dyw’r bîn- ddyn ddim wedi digalonni. A dweud y gwir, mae’n ymddangos bod y ddau ar delerau da!

Roedd y ddau yn ymgeiswyr yn Ngorllewin Caerdydd. Mark Drakeford oedd yn fuddugol – roedd ei fwyafrif yn swmpus tu hwnt.

23:26

Diolch Cymru am droi’n goch

Mwyafrif ai peidio, mae Mark yn ddigon hapus ei fyd!

23:21

Y map uchod yw’r sefyllfa fel ma’i…

A ni’n disgwyl un arall heno… Canolbarth a Gorllewin Cymru!

Os yw e’n aros lan, dwi’n aros lan…

23:20

Y cyhoedd yn gwobrwyo’r llyw-wyr

Beth am fyfyrio ar sut mae’r pandemig wedi cael effaith ar yr etholiad yma, ac yn benodol, ar ganlyniadau’r rheiny sydd wedi’n llywio trwy’r argyfwng.

Mae Mark Drakeford wedi arwain yr ymdrech yn Brif Weinidog Cymru, gyda Vaughan Gething yn Weinidog Iechyd, ac mae’r ddau Lafurwr wedi profi canlyniadau hynod gryf.

Mi dderbyniodd Vaughan Gething 18,153 pleidlais yn Ne Caerdydd a Phenarth – 49.9% o’r bleidlais, a chynnydd o 6.1 o gymharu â 2016. Yn ail roedd y Ceidwadwyr gyda 7,547 pleidlais.

Wnaeth Mark Drakeford cael ei wobrwyo yng Ngorllewin Caerdydd gyda buddugoliaeth ysgubol. Derbyniodd 17,665 pleidlais – sef 48.4% a chynnydd 12.8 o gymharu â’r etholiad diwethaf.

Yn ail roedd y Ceidwadwyr â 6,454.