Etholiad Senedd 2021 – dydd Gwener

Canlyniadau Etholiad Senedd 2021, a’r holl ymateb

Garmon Ceiro
gan Garmon Ceiro
Adeilad y Senedd gyda logo Golwg360

Blog byw Etholiad Senedd 2021 gyda fi, Garmon Ceiro, yng nghwmni Gohebydd Senedd Golwg, Iolo Jones, colofnydd Golwg, Jason Morgan, gohebydd golwg360 Cadi Dafydd… gyda chyfraniadau gan y sylwebyddion gwleidyddol Dafydd Trystan a Huw Prys Jones, Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth, a chyd-sefydlydd Golwg, Dylan Iorwerth.

Dilynwch flog byw dydd Sadwrn am y diweddaraf.

23:20

Y cyhoedd yn gwobrwyo’r llyw-wyr

Beth am fyfyrio ar sut mae’r pandemig wedi cael effaith ar yr etholiad yma, ac yn benodol, ar ganlyniadau’r rheiny sydd wedi’n llywio trwy’r argyfwng.

Mae Mark Drakeford wedi arwain yr ymdrech yn Brif Weinidog Cymru, gyda Vaughan Gething yn Weinidog Iechyd, ac mae’r ddau Lafurwr wedi profi canlyniadau hynod gryf.

Mi dderbyniodd Vaughan Gething 18,153 pleidlais yn Ne Caerdydd a Phenarth – 49.9% o’r bleidlais, a chynnydd o 6.1 o gymharu â 2016. Yn ail roedd y Ceidwadwyr gyda 7,547 pleidlais.

Wnaeth Mark Drakeford cael ei wobrwyo yng Ngorllewin Caerdydd gyda buddugoliaeth ysgubol. Derbyniodd 17,665 pleidlais – sef 48.4% a chynnydd 12.8 o gymharu â’r etholiad diwethaf.

Yn ail roedd y Ceidwadwyr â 6,454.

23:15

O edrych ar ganlyniadau etholaethau rhanbarthau’r canolbarth a’r gorllewin, mae’n rhesymol tybio bod Llafur bron yn sicr o gael o leiaf ddwy sedd, Plaid Cymru o leiaf un, ac y gall y sedd olaf fod yn agos iawn rhwng Plaid Cymru, Llafur a’r Toriaid.

23:00

Disgyblion ’99 yn goroesi

Dyna ni felly – pob un canlyniad etholaethol wedi dod trwyddo.

Jane Hutt yw un o’r pedwar o ddosbarth ’99 a oedd sydd yn sefyll eto eleni (Elin Jones, John Griffiths a Lynne Neagle yw’r gweddill) ac mae pob un yn mynd i wasanaethu am bum mlynedd yn rhagor!

‘Dosbarth ’99’ yw’r term am yr AoS rheiny sydd wedi gwasanaethu ers dechrau dathganoli yn 1999.

22:59

Bro Morgannwg oedd llwyddiant mwyaf anhygoel Llafur, yn enwedig o’i chadw gyda mwyafrif mor glir.

Sy’n golygu bod Llafur yn sicr o gael o leiaf 29 o seddau, a 30 yn debygol iawn.

22:57

Jane Hutt yn cadw Bro Morgannwg i’r blaid Lafur.

22:54

Fersiwn Plaid Cymru o penalty Paul Bodin…?

Yn ol y son, roedden nhw ’mond 21 pleildais yn brin o ddwy sedd ranbarthol yn y Gogledd…

 

 

22:47

Mae’r newyddiadurwr, Gwyn Loader, (wele’r trydariad isod) yn darogan y cawn ganlyniadau Canolbarth a Gorllewin Cymru 11.00. Mae criw stiwdio S4C (sy’n fyw ar yr awyr) yn darogan canol nôs.

Beth am obeithio mai Gwyn sy’n iawn!

 

22:47

A ninnau’n trïo goroesi heno, mae BBC Cymru wedi holi Mark Drakeford am y 5 mlynedd nesa’…

“Och, yn y deg munud dwetha’ gawson ni’r canlyniad!”

22:41

Ambell berson yn mynegi’r sentiment yma erbyn hyn… I couldn’t possibly comment.

22:38

Haleliwia!