Blog byw Etholiad Senedd 2021 gyda fi, Garmon Ceiro, yng nghwmni Gohebydd Senedd Golwg, Iolo Jones, colofnydd Golwg, Jason Morgan, gohebydd golwg360 Cadi Dafydd… gyda chyfraniadau gan y sylwebyddion gwleidyddol Dafydd Trystan a Huw Prys Jones, Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth, a chyd-sefydlydd Golwg, Dylan Iorwerth.
Dilynwch flog byw dydd Sadwrn am y diweddaraf.
Wff, dyw James Evans (a gipiodd Brycheiniog a Sir Faesyfed oddi wrth y Democratiaid Rhydfrydol) ddim wedi dal ’nôl!
Yn siarad gyda Golwg fis diwetha’ wnaeth y Tori ddweud bod yntau a William Powell (ymgeisydd y melynblaid) yn ffrindiau agos! A fyddai ffrind yn dweud y fath beth!
"They're not relevant anymore with the people of Wales"
Welsh Conservative @James_Evans91 says his win in Brecon and Radnorshire shows the Liberal Democrats are "a failing party". The Lib Dems had held that seat since 1999. https://t.co/fvXN0QZyW8 pic.twitter.com/I4bfrhfJGw
— ITV Wales News (@ITVWales) May 7, 2021
Etholiad 2021: Brycheiniog a Sir Faesyfed
Cytuno efo Jason na fydd unrhyw enillion i Blaid Cymru a’r Toriaid ar y rhestr yn gwneud iawn am eu methiannau heddiw, ond byddai ychydig mwy o aelodau i’r ddwy blaid i gymryd lle aelodau UKIP a’u holynwyr yn sicr yn gam ymlaen I well cydweithredu yn y Senedd. Eto i gyd, mae’n dal yn gynnar i gymryd yn rhy ganiataol y bydd pleidleisiau’r rhestr union yr un fath â phleidleisiau’r etholaethau.
Mae’r Alban ar fin rhoi’r gorau i gyfri am heno – gyda’r SNP ar 38, y Democratiaid Rhyddfrydol ar 4, y Ceidwadwyr ar 3 a Llafur wedi sgorio am y tro cynta gyda 2.
Ond, wrth ennill tair sedd newydd, mae’r SNP yn nesáu at fwyafrif clir … er hynny mae arwyddion fod pleidlais dactegol dros yr Undeb wedi atal y cenedlaetholwyr rhag cipio ambell sedd darged…
Barn bersonol yma, ond ni fydd unrhyw enillion y mae’r Ceidwadwyr neu Blaid Cymru’n eu gwneud ar y rhestri yfory’n gwneud yn iawn am eu perfformiad yn yr etholaethau heddiw, yn wahanol i beth fydd y naratif anochel ganddyn nhw. Gall y ddwy blaid o hyd gynyddu nifer eu seddi oddi ar 2016, ond oherwydd cwymp UKIP bydd hynny yn fwy na dim, heb i unrhyw un lenwi’r bwlch.
Beth ydi’ch barn chi?
Cyn dechrau, y son oedd fod y pandemig wedi cryfhau’r galw am annibyniaeth trwy ddangos bod gwleidyddiaeth Cymru’n wahanol.
Ond mae hynny’n gweithio ddwy ffordd – i rai mi fydd y pandemig wedi dangos bod gan Gymru ddigon o rym a Llafur ydi’r ateb wedyn.
Fel rheol hefyd, mae’n haws i Blaid Cymru pan fydd Llafur mewn grym yn Llundain; eleni, roedd Llafur hefyd yn gallu cymryd safiad yn erbyn Prydeindod cry’ newydd Boris Johnson.
Dyma rhoi cynnig ar ddyfalu’r map terfynnol ar sail y canlyniadau sydd eisoes wedi’u cyhoeddi…
Ai Llwyodraeth leiafrifol fydd hi tybed…
Fy sedd leol i yn un o’r ddwy sedd olaf i gael eu cyhoeddi… Gorllewin Caerdydd.
Disgwyl i Mark Drakeford ennill yn gyfforddus, wrth gwrs, nawr bod pleidlais flaenorol Neil McEvoy/Plaid wedi’i rhannu’n ddwy.
O ran placardiau, roedd gan Neil McEvoy dipyn o gefnogaeth yn y Tyllgoed a Threlái, a Phlaid Cymru’n amlycach mewn ardaloedd eraill – felly bydd yn ddiddorol gweld pwy ddoith yn ail yno…
Richard Wyn Jones yn dweud fod Mark Drakeford wedi cael “gweddnewidiad yn ystod y pandemig”.
Mae e’n “rhan aruthrol o’r canlyniad eleni,” meddai Betsan Powys.
Yn ôl Betsan Powys, mae’r pandemig wedi “golygu fod gan bobol ots am ddatganoli”.
Mark Drakeford oedd y “pâr saff yna o ddwylo” i bobol yn ystod yr argyfwng, ategodd.
“Mae’n amlwg fod pobol wedi gwerthfawrogi hynny, yn fwy na’r hyn ddigwyddodd yn Lloegr.”
Dau beth cyflym.
Yn gyntaf, mae Plaid Cymru’n dal i raddau mawr yn cael ei gweld fel plaid y Gymru Gymraeg, ac mae’r canlyniadau hyn ei gwneud yn anos fyth i shifftio’r ddelwedd honno; nid yn unig o ran y seddi mae hi wedi ennill ond yr afael dduraidd sydd ganddi bellach ar y seddi hynny. Maen nhw’n gadarnleoedd i Blaid Cymru sydd lawn mor gadarn â rhai Llafur yn y Cymoedd – a dweud y gwir, yn fwy cadarn.
Ond yn ail mae awgrym cryf heddiw bod Cymry Cymraeg wedi heidio y tu ôl i Blaid Cymru i raddau nas gwelwyd cynt.
Plaid y Cymry Cymraeg sydd isio Annibyniaeth? Bosib iawn.
Canlyniad parchus I Blaid Cymru ym Mhontypridd, ond heb fod hyn agos at fod yn fygythiad i Lafur.
Mae’n etholiad rhyfedd I Blaid Cymru – yn dal eu tir yn dda mewn rhannau helaeth o Gymru, cryfhau eu gafael ar eu cadarnleoedd ond yn methu’n wael yn eu prif dargedau, boed y rheini’n ddal gafael yn y Rhondda neu ennill etholaethau newydd.