Etholiad Senedd 2021 – dydd Gwener

Canlyniadau Etholiad Senedd 2021, a’r holl ymateb

Garmon Ceiro
gan Garmon Ceiro
Adeilad y Senedd gyda logo Golwg360

Blog byw Etholiad Senedd 2021 gyda fi, Garmon Ceiro, yng nghwmni Gohebydd Senedd Golwg, Iolo Jones, colofnydd Golwg, Jason Morgan, gohebydd golwg360 Cadi Dafydd… gyda chyfraniadau gan y sylwebyddion gwleidyddol Dafydd Trystan a Huw Prys Jones, Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth, a chyd-sefydlydd Golwg, Dylan Iorwerth.

Dilynwch flog byw dydd Sadwrn am y diweddaraf.

22:38

Haleliwia!

22:36

Bach o sioc bo dim sedd i Richard Suchorzewski, arweinydd Abolish, yn rhanbarth y Gogledd… o wel!

22:31

Canlyniadau’r ddau ranbarth – y gogledd a gorllewin y de – yn cadarnhau patrwm y dydd, sef mai gwlad dair plaid ydi Cymru bellach.

Diddorol gweld Abolish yn methu’n llwyr yn y ddau ranbarth. Sy’n awgrymu bod y gwrth-ddatganolwyr naill ai’n hapus efo agweddau’r Toriaid o dan Andrew RT Davies, neu nad oedden nhw’n gweld gwerth mewn pleidleisio o gwbl.

O drwch blewyn y gwnaeth y Toriaid guro Plaid Cymru am bedwaredd sedd y gogledd. Ond mae llwyddiant Llafur i ennill sedd yn hwb enfawr i’w gobaith o gael mwyafrif. Mae’n golygu nad yw Llafur wedi gwneud colled net yn y gogledd.

22:29

Llyr Gruffydd (Plaid Cymru), Mark Isherwood (Ceidwadwyr), Carolyn Thomas (Llafur) a Sam Rowlands (Ceidwadwyr) yn cael eu hethol yn rhanbarth Gogledd Cymru.

22:23

Diddorol gweld y Blaid Werdd yn gwneud jobyn well ohoni yn rhanbarth Gorllewin De Cymru, na Phlaid Diddymu’r Cynulliad. Tybed felly a fydd hi’n etholiad siomedig i’r Diddymwyr?

Mae Plaid Diddymu wedi derbyn cryn sylw dros y misoedd diwetha’ ac wedi’u trin yn fygythiad go iawn i’r Senedd… efallai bydd y naratif am y blaid yn newid cryn dipyn yn sgil yr etholiad.

Ian Thomas
Ian Thomas

Trist iawn, serch hynny, gweld cymaint yn pledleisio dros y Blaid Diddymu. byddech yn credu eu bod wedi dysgu’u gwers ar ol rhedeg ar ol UKIP yn y gorffennol! Yn lle hynny, gwneud yr un camgymeriadau ac agor y drws i groesawu dynion dwad i’n Senedd.

Mae’r sylwadau wedi cau.

22:18

Rhanbarth Gorllewin De Cymru yn ethol dau aelod Ceidwadol (Thomas Giffard ac Altaf Hussain) a dau aelod Plaid Cymru (Sioned Williams a Luke Fletcher).

22:18

Gorllewin De Cymru – 2 sedd i’r Ceidwadwyr, 2 i Plaid….

 

22:08

Mae Andrew RT Davies – dyn sy’n enwog am fedru codi twrw – wedi bod yn rhyfeddol o dawel heddiw. Ond mae wedi ailymddangos o’r diwedd…

Mewn trydariad diweddar mae wedi canmol ei blaid, a chanmol Mark Drakeford.

Ian Thomas
Ian Thomas

Ydi – mae’r Tractor yn eithafol o dawel heno!

Mae’r sylwadau wedi cau.

22:03

Diddorol gweld etholaethau dinesig yn datblygu’n gadarnleoedd i’r Blaid Lafur, lawn gymaint ag ardaloedd ôl-ddiwydiannol y cymoedd.

Mae’r gogwydd at Lafur yn amlwg yn ninasoedd Lloegr hefyd, ac yn hyn o beth mae dinasoedd Cymru’n dilyn patrwm tebyg. Yr hyn sy’n wahanol yng Nghymru, yn enwedig yn yr etholiad hwn, ydi bod Llafur yn dal eu tir yn yr ardaloedd ôl-ddiwydiannol yn ogystal, tra bod ardaloedd tebyg yn Lloegr yn troi at y Toriaid.

Nodwyd droeon fod etholaethau a oedd yn cefnogi Brexit yn Lloegr yn troi cefn ar Lafur. Nid yw’n ymddangos fod hyn yn digwydd yng Nghymru. Un peth sy’n werth ei gofio, fodd bynnag, ydi nad oedd y bleidlais dros Brexit, hyd yn oed ym Mlaenau Gwent, agos mor llethol â’r hyn oedd mewn rhannau o ogledd a dwyrain Lloegr.

 

21:59

Ambell un ar Twitter nawr yn holi a oes diben trafod clymblaid bellach – gan fod canlyniadau Llafur cystal y gallan nhw Lywodraethu heb glymbleidio’n ffurfiol…