Blog byw Etholiad Senedd 2021 gyda fi, Garmon Ceiro, yng nghwmni Gohebydd Senedd Golwg, Iolo Jones, colofnydd Golwg, Jason Morgan, gohebydd golwg360 Cadi Dafydd… gyda chyfraniadau gan y sylwebyddion gwleidyddol Dafydd Trystan a Huw Prys Jones, Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth, a chyd-sefydlydd Golwg, Dylan Iorwerth.
Dilynwch flog byw dydd Sadwrn am y diweddaraf.
Â’r canlyniadau yn dod trwyddo gyda’r dydd eleni, mae newyddiadurwyr hyd a lled Cymru wedi bod yn llawenhau – noson gynnar oedd hi i’r rhan fwyaf ohonom neithiwr!
Wedi dweud hynny mae disgwyl diwrnod ddigon hir heddiw, ac mae newyddiadurwyr amlycaf Cymru wedi rhoi cip tu ôl y llen o’r hyn a fydd yn cadw nhw i fynd dros yr oriau nesa’…
Dim ond dŵr a ffrwythau sydd gan griw golwg360 – ry’n ni’n griw iach!
https://twitter.com/DeansOfCardiff/status/1390598400375234563
https://twitter.com/ruthmosalski/status/1390644527107559426
Ers tro dwi di meddwl fod rhannau o Faldwyn yn debyg i Geredigion. Elwyn Vaughan i’r Blaid yn ymgeisydd rhagorol ac efallai wedi dechrau elwa ar botensial Plaid Cymru yn y sedd hwnnw. Y canlyniad ym Maldwyn yn atgoffa rhywun hefyd y bydd na wahaniaethau mawr iawn ar draws y wlad yn hynt a helynt y pleidiau.
Canlyniad cyntaf y dydd, gyda Russell George yn cadw Maldwyn i’r Ceidwadwyr.
Ceidwadwyr wedi cadw Sir Drefaldwyn… Russell George sy’n fuddugol yno….
https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1390645622466916355
Mae’r pleidiau yn dechrau ymateb i’r hyn maen nhw’n ei weld yn digwydd yn yr etholiad, sy’n rhoi syniad i ni sut mae pethau’n mynd.
Y tu hwnt i Ddyffryn Clwyd a Wrecsam, mae’r Ceidwadwyr yn bod yn, wel, ceidwadol iawn yn eu disgwyliadau, heb gyfeirio fawr ddim at eu gobeithion yn y de rai diwrnodau’n ôl.
Gyda Llafur yn swnio’n gynyddol hyderus mewn seddi edrychai dan fygythiad, ac yn obeithiol iawn yn y Rhondda, mae Plaid Cymru’n i weld yn braenau’r tir ar gyfer etholiad siomedig drwy sôn am y dyfodol ychydig pellach na’r oriau nesaf.
A innau wedi gweld ciwio ac yn gobeithio am ganran uchel yn pleidleisio… dyma gnoc gynnar i’r gobeithion hynny…
Gyda’r ffigyrau newydd eu cyhoeddi, 35% o’r rhai sy’n gymwys wnaeth fwrw’u pleidlais yn etholaeth Merthyr Tudful a Rhymni.
Roedd yna isetholiadau lleol ar Ynys Môn hefyd, yn wardiau Seiriol a Chaergybi, ac mae canlyniad ward Seiriol yn hysbys eisoes…
https://twitter.com/LDRMonGwynedd/status/1390642900040564742
Pryd felly gawn ni’r canlyniad cynta’? Mae disgwyl canlyniadau o’r gorllewin gwyllt yn gyntaf… o ‘Lanelli’ a ‘Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr’. Tua 1.30 yw’r amser disgwyliedig.
Mae golwg360 yn deall ei bod nhw ar ei hôl hi braidd yn Llanelli – o ran y cyfri, hynny yw.
Mi roedd rhywfaint o gyfrif dros nos yn Lloegr – a bu’r canlyniadau yn bur ysgytwol…
Mae tipyn o sylw i ganlyniad Hartlepool, ond mae’r ffaith fod y canlyniadau hynny wedi eu hadlewyrchu ar draws nifer o gadanarleoedd Llafur cynt yng Ngogledd a Canolbarth Lloegr yn destun pen tost mawr i’r blaid.
Cofier fod pleidlais Llafur wedi cwympo o 9% ODDI ar 2019 – hynny yw nid mater o bleidleiswyr UKIP/Brexit yn cronni tu cefn i’r Ceidwadwyr oedd hwn; ond pobl dosbarth gweithiol yn ol pob tebyg yn troi eu cefn ar Lafur a throi at Boris Johnson.
Be’ mae hyn yn dweud wrthon ni am Gymru? Does neb yn gwybod yn iawn, ond fan lleiaf mae’n codi cwestiwn am yr ardaloedd hynny ble bu Llafur gynt yn gallu pwyso pleidleisiau – o bosib yn arbennig yn y Gogledd Ddwyrain allai fod yn dir ffrwythlon iawn i’r Ceidwadwyr. Mewn oriau (gobeithio) cawn weld – ai tri cenedl etholiadol sydd wedi pleidleisio neu ddau??
P’nawn da! Fe ddechreua’ i gyda phos i ddarllenwyr Golwg…
Faint o seddi y mae Plaid Cymru wedi eu hennill tu fas i’r Fro Gymraeg a dal eu gafael arnynt mewn etholiad dilynol?
Ateb ychydig yn hwyrach.