Blog byw Etholiad Senedd 2021 gyda fi, Garmon Ceiro, yng nghwmni Gohebydd Senedd Golwg, Iolo Jones, colofnydd Golwg, Jason Morgan, gohebydd golwg360 Cadi Dafydd… gyda chyfraniadau gan y sylwebyddion gwleidyddol Dafydd Trystan a Huw Prys Jones, Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth, a chyd-sefydlydd Golwg, Dylan Iorwerth.
Dilynwch flog byw dydd Sadwrn am y diweddaraf.
Bro Morgannwg oedd llwyddiant mwyaf anhygoel Llafur, yn enwedig o’i chadw gyda mwyafrif mor glir.
Sy’n golygu bod Llafur yn sicr o gael o leiaf 29 o seddau, a 30 yn debygol iawn.
Jane Hutt yn cadw Bro Morgannwg i’r blaid Lafur.
Fersiwn Plaid Cymru o penalty Paul Bodin…?
Yn ol y son, roedden nhw ’mond 21 pleildais yn brin o ddwy sedd ranbarthol yn y Gogledd…
Yn ôl Dicw roedd PC mond 21 pleidlais i ffwrdd o ennill 2 sedd ranbarthol ac ethol Harper. Ddim yn gymaint o genius idea gan rheiny roddod bleidlais brotest i Gwlad neu Propel ar y rhanbarth nawr ? Byddai Carrie wedi bod yn chwa o awyr iach a troedle i’r Blaid yn y Gog-Ddwyrai
— Rhys Llwyd (@rhysllwyd) May 7, 2021
Mae’r newyddiadurwr, Gwyn Loader, (wele’r trydariad isod) yn darogan y cawn ganlyniadau Canolbarth a Gorllewin Cymru 11.00. Mae criw stiwdio S4C (sy’n fyw ar yr awyr) yn darogan canol nôs.
Beth am obeithio mai Gwyn sy’n iawn!
A ninnau’n trïo goroesi heno, mae BBC Cymru wedi holi Mark Drakeford am y 5 mlynedd nesa’…
“Och, yn y deg munud dwetha’ gawson ni’r canlyniad!”
'Mae'r pum mlynedd nesaf am fod yn heriol'
Mark Drakeford yn disgrifio ar raglen canlyniadau Etholiad @s4c fod y pum mlynedd nesaf am fod yn un 'heriol' i'r Llywodraeth #Etholiad2021 pic.twitter.com/sUmBELgu0X
— BBC Cymru Fyw (@BBCCymruFyw) May 7, 2021
Ambell berson yn mynegi’r sentiment yma erbyn hyn… I couldn’t possibly comment.
Hyfryd hefyd gweld y cyfeillion diddymol yn methu mynd i unman. Bosib iawn na chân nhw gynrychiolaeth yn y Senedd o gwbl.
— Simon Brooks (@Seimon_Brooks_) May 7, 2021
Haleliwia!
Newyddion da (o lawenydd mawr!) fel alle hi fod mor gynnar (!) ag 11 arnon ni’n cael canlyniad ar gyfer canol a gorllewin Cymru.
Arhoswch ‘da ni bobl..!
Good news, we may be getting the regional result for mid&west a little earlier than expected-earliest 11pm
Stick around!!
— Gwyn Loader (@GwynLoader) May 7, 2021
Bach o sioc bo dim sedd i Richard Suchorzewski, arweinydd Abolish, yn rhanbarth y Gogledd… o wel!
Canlyniadau’r ddau ranbarth – y gogledd a gorllewin y de – yn cadarnhau patrwm y dydd, sef mai gwlad dair plaid ydi Cymru bellach.
Diddorol gweld Abolish yn methu’n llwyr yn y ddau ranbarth. Sy’n awgrymu bod y gwrth-ddatganolwyr naill ai’n hapus efo agweddau’r Toriaid o dan Andrew RT Davies, neu nad oedden nhw’n gweld gwerth mewn pleidleisio o gwbl.
O drwch blewyn y gwnaeth y Toriaid guro Plaid Cymru am bedwaredd sedd y gogledd. Ond mae llwyddiant Llafur i ennill sedd yn hwb enfawr i’w gobaith o gael mwyafrif. Mae’n golygu nad yw Llafur wedi gwneud colled net yn y gogledd.
Llyr Gruffydd (Plaid Cymru), Mark Isherwood (Ceidwadwyr), Carolyn Thomas (Llafur) a Sam Rowlands (Ceidwadwyr) yn cael eu hethol yn rhanbarth Gogledd Cymru.