Blog byw Etholiad Senedd 2021 gyda fi, Garmon Ceiro, yng nghwmni Gohebydd Senedd Golwg, Iolo Jones, colofnydd Golwg, Jason Morgan, gohebydd golwg360 Cadi Dafydd… gyda chyfraniadau gan y sylwebyddion gwleidyddol Dafydd Trystan a Huw Prys Jones, Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth, a chyd-sefydlydd Golwg, Dylan Iorwerth.
Dilynwch flog byw dydd Sadwrn am y diweddaraf.
Mae’r SNP wedi cipio sedd oddi ar Lafur – East Lothian – y gynta i newid dwylo yn yr Alban.
Mae Nicola Sturgeon, yr arweinydd, yn dweud eu bod ar y ffordd tuag at bedwaredd buddugoliaeth o’r bron.
Mae gan yr SNP 11 sedd erbyn hyn.
‘Da ni’n aml yn cwyno nad ydi gwleidyddiaeth Cymru’n ddifyr gan fod cyn lleied o seddi’n newid dwylo, ond draw ar Europe Elects maen nhw’n rhagfynegi taw dim ond un etholaeth fydd yn troi’n lliw gwahanol yn yr Alban heddiw.
UK (Scotland) election:
Europe Elects projection of constituency (first past the post) seats with 12/73 constituencies declared
SNP-G/EFA: 60 (+1)
CON-ECR: 7
LDEM-RE: 4
LAB-S&D: 2 (-1)(+/-) constituency seats in 2016
Live blog: https://t.co/YY506BgA22…#SP21 #Indyref2 pic.twitter.com/a6FXkl0A0I
— Europe Elects (@EuropeElects) May 7, 2021
Mae Dawn Bowden wedi diolch pobol Merthyr Tudful am sicrhau ei bod hi’n cadw’i swydd…
Mewn trydariad arall mae’n dweud bod y canlyniad yn “adlewyrchu pum mlynedd o waith caled, nid jest ymgyrch etholiadol tair wythnos o hyd”.
Thank you so very much to everyone in Merthyr Tydfil and Rhymney who voted in the Senedd elections yesterday. I’m delighted to be re-elected to service our communities as your local Senedd Member again. pic.twitter.com/Czlpe13s5A
— Dawn Bowden (@Dawn_Bowden) May 7, 2021
Er bod Llafur wedi dweud eu bod nhw’n disgwyl ennill Llanelli gyda mwyafrif iach, mae ’na awgrym fod hynny wedi newid mymryn. Roedd Helen Mary Jones ar S4C yn swnio ychydig yn fwy gobeithiol nag y mae’r sïon sydd wedi dod i law wedi bod, os nad yn hyderus:
“Mae’n anodd iawn, iawn, iawn gwybod … cael a chael … dydyn ni wir ddim yn gwybod … optimistaidd, ond ddim yn ffyddiog”
Canlyniad yn cael ei ddisgwyl rŵan am 5pm, onid oes ail-gyfrif – dim ond tair awr a hanner yn hwyrach na’r disgwyl. Ond dyna ni, fyddai hi ddim yn etholiad Cymreig heb fod yr amserlen datgan wedi chwalu’n rhacs yn gyflym iawn!
“Bydd y Ceidwadwyr yn falch o gael buddugoliaeth, ond cawn ni weld yn union be mae’n ei olygu i rifyddeg y Senedd pan fyddwn ni’n gweld gweddill y canlyniadau,” meddai Richard Wyn Jones am fuddugoliaeth y Ceidwadwyr yn Nyffryn Clwyd.
“Yn nhermau’r darlun mawr, fyswn i’n dweud fod hwn yn ganlyniad cymharol siomedig i’r Ceidwadwyr.
“Gogwydd gymharol fach i’w sedd darged. Yn nhermau rhagolygon ar gyfer gweddill y Gogledd Ddwyrain, d’yw e ddim be fydden nhw’n obeithio ar gyfer gweddill y Gogledd Ddwyrain.
Er y fuddugoliaeth, fydd hi ddim yn un sy’n rhoi hyder i’r Ceidwadwyr yn ôl Richard Wyn Jones.
“Talcen mwy caled nag oedden nhw’n ei ddisgwyl,” yn Nyffryn Clwyd.
“Heb Ann Jones roedd yna gyfle mawr i’r Ceidwadwyr chwalu’r fricsen hon, dim ond just gwneud hi wnaethon nhw,” ategodd Betsan Powys.
“D’yw’r fathemateg ddim yn awgrymu y bydd hi’n hawdd iddyn nhw yng ngweddill y Gogledd Ddwyrain.”
Mae Merthyr yn ganlyniad difyr. Ble fyddai pleidlais UKIP yn mynd tybed?
Wel mae gennym ateb i raddau – mae Llafur wedi cryfhau ei sefyllfa yn amlwg gydag ymgyrch gref gan yr aelod Dawn Bowden, tra fod y Ceidwadwyr ar i fyny rhywfaint.
Mae pleidliau llai y dde – oll wedi cael cweir.
Cawn weld os fydd hynny’n dilyn ar y rhestr – ond os yw hi fydd hi’n anodd iddynt gipio seddi rhestr.
Fel sydd wedi’i nodi isod, nodwedd drawiadol o’r canlyniad ym Merthyr oedd y cynnydd trawiadol yn y bleidlais Lafur ers 2016 a’r dirywiad cyfatebol yn y bleidlais i UKIP.
Llwyddiant UKIP ar y bleidlais rhestr gafodd y sylw mwyaf nol yn 2016 wrth i’r blaid lwyddo i sicrhau 7 o seddi rhanbarthol.
Ond ar ben hynny roedd UKIP yn ffactor pwysig yn nifer o’r brwydrau etholaethol hefyd, er na lwyddodd i gipio unrhyw sedd etholaethol. Daeth y blaid yn ail mewn 5 etholaeth yn 2016 (gan gynnwys Merthyr) a llwyddodd i sicrhau dros 10% o’r bleidlais mewn 29 o seddi.
Mae beth sy’n digwydd i’r bleidlais hon yn mwyd i fod yn allweddol mewn amryw o seddi -rhai sy’n dipyn mwy ymylol na Merthyr – ond mae’r dystiolaeth bod Llafur yn medru denu tipyn o’r pleidleisiau hyn yn ôl yn arwydd da iawn i’r blaid.
Mae’r canlyniad yn Nyffryn Clwyd yn awgrymu y gallai’r Ceidwadwyr gael diwrnod da yn yr ardal – eu pleidlais wedi codi 5%. Dim ond 0.5% oedd cynnydd y Blaid Lafur, felly awgrym y tro yma bod mwy o bleidlais UKIP wedi mynd i’r Toriaid.
Ond, ar wahan i 2011, mae hon wedi bod yn sedd agos iawn o’r dechrau.
Wnaeth Golwg rhoi sylw i sedd Dyffryn Clwyd yn ystod yr ymgyrch etholiadol. Oll alla’ i ddweud yw wnaeth pob un ymgeisydd siarad â fi ond am Gareth Davies (penderfynodd e’ beidio â chyfrannu)…
Tybed a wnes i jinx-io’r canlyniad rhywsut?!
Etholiad 2021: Dyffryn Clwyd
“Edrych ymlaen at b’nawn ychydig gwell na’r disgwyl… ond mae’n gynnar” medd Mark Drakeford.
Diolch, Mark.