Etholiad Senedd 2021 – dydd Gwener

Canlyniadau Etholiad Senedd 2021, a’r holl ymateb

Garmon Ceiro
gan Garmon Ceiro
Adeilad y Senedd gyda logo Golwg360

Blog byw Etholiad Senedd 2021 gyda fi, Garmon Ceiro, yng nghwmni Gohebydd Senedd Golwg, Iolo Jones, colofnydd Golwg, Jason Morgan, gohebydd golwg360 Cadi Dafydd… gyda chyfraniadau gan y sylwebyddion gwleidyddol Dafydd Trystan a Huw Prys Jones, Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth, a chyd-sefydlydd Golwg, Dylan Iorwerth.

Dilynwch flog byw dydd Sadwrn am y diweddaraf.

17:38

Diddorol gweld graddau’r amrywiaeth o le i le – er gwaethaf siomedigaethau mewn etholaethau eraill, Plaid Cymru’n cryfhau ei gafael ar ei chadarnle yn Arfon. Tybed a welwn batrwm tebyg ym mhedair etholaeth orllewinol arall y Blaid?

Fel arall, y tueddiad cenedlaethol mwyaf amlwg hyd yma ydi’r Toriaid ddim yn gwneud cystal â’r disgwyl, methu cipio Delyn a Wrecsam yn ergyd i’w gobeithion. Mwyafrif Paul Davies ym Mhreseli Penfro hefyd yn ddigon tila.

17:37

Wel, ’na fe. Samuel Kurtz fydd Aelod o’r Senedd Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro. Pwy yw’r boi? Wnaeth e’ ddod dan y lach ddiwedd flwyddyn diwethaf pan ddaeth ei hen drydariadau sarhaus i’r fei. Allwch chi ddarllen am y cyfan islaw…

Ac os ydych chi’n ysu i wbod rhagor am Cefin Campbell, ymgeisydd aflwyddiannus Plaid Cymru, wel, waeth i chi ddarllen fy mhortread ohono (islaw)!

Mae Cefin ar ben rhestr rhanbarthol y Blaid yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, ond a fydd yn ennill sedd hwn? Nid yw’n berffaith glir ar hyn o bryd…

 ‘Y Grinchford a ddygodd y Dolig!’

Iolo Jones

Roedd cyfrifon Twitter Cymru yn lloerig ddechrau’r wythnos, yn ymateb i waharddiad alcohol Llywodraeth Cymru

17:37

Mae yna batrwm yn datblygu yn yr Alban hefyd … yr SNP yn cadw eu seddi, er waetha ambell symudiad bach iawn i un cyfeiriad neu’r llall.

Mae ganddyn nhw 25 erbyn hyn, a thair i’r Democratiaid Rhyddfrydol.

17:36

Y patrwm yn parhau – Ken Skates yn cadw De Clwyd i Lafur gyda phleidlais fwy iddo fo yn curo cynnydd i’r Ceidwadwyr hefyd.

Yn Nwyrain Abertawe, fe gynyddodd Mike Hedges ei fwyafrif i Lafur, heb fawr o her gan neb.

Ac er i Lafur wneud ychydig yn well, doedd hynny ddim yn ddigon i ennill yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro.

Yr enillydd yno, Samuel Kurtz, yn siarad Cymraeg, ac wedi gorfod ymddiheuro am twits ieuenctid yn ddifrïol am bobol hoyw.

17:36

9,700 o fwyafrif i Lafur yn Nwyrain Abertawe.

17:34

Sam Kurtz, siaradwr Cymraeg, yn ennill ras agos iawn yng Ngorllewin Caerfyrddin i’r Ceidwadwyr.

Twf o 9% ym mhleidlais y Blaid Lafur yn gwneud y sedd yn un ymylol – lle nad oedd hi’n darged mewn gwirionedd.

17:34

Y Ceidwadwyr yn cadw Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro gyda mwyafrif o 936.

17:31

De Clwyd yn dilyn patrwm tebyg i Delyn a Wrecsam – cynnydd (mwy y tro hwn) yn y bleidlais i’r Ceidwadwyr, ond y bleidlais i Lafur hefyd yn codi (o 8%), tra bod y bleidlais i UKIP ers 2016 yn chwalu.

Mae’r canlyniadau hyn yn y gogledd ddwyrain yn rhai arbennig o dda i Lafur ac yn rhai siomedig i’r Ceidwadwyr oedd yn hyderus iawn ynghylch y seddi hyn rai misoedd yn ôl.

17:30

Mwyafrif o 8,652 i Siân Gwenllian yn Arfon.

17:29

“Dw i’n llawenhau yn llwyddiant fy nghyfeillion… ym Mhlaid Cymru a’r Blaid Lafur” medd… dyfalwch pwy? Dafydd Elis Thomas.

“Wnes i bleidleisio dros Mark Drakeford” meddai.