Mae Ceidwadwyr Cymru wedi dweud ei bod hi’n amserol fod adran amaeth Defra yn cynnal ymchwiliad, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, i mewn i effeithiau lanternau Tsieineaidd.
“Mae tystiolaeth sylweddol yn barod fod lanternau Tsieineaidd yn peri risg difrifol i les anifeiliaid, i eiddo ac i ddiogelwch cyhoeddus,” meddai Antoinette Sandbach, llefarydd y Ceidwadwyr ar faterion gwledig.
Ym mis Medi cafodd tân ei gynnau mewn ystafell haul yn Ewlo, Sir y Fflint ar ôl i lantern lanio ar y to, a bydd ymchwiliad Defra yn edrych ar effaith lanternau ar fyd amaeth a’r amgylchedd.
Mae undebau amaeth wedi mynegi pryderon am allu’r lanternau i gynnau tanau pan fyddan nhw’n glanio, a’r peryg i anifeiliaid sy’n bwyta gweddillion y lantern.
Mae peryg hefyd tra’u bod nhw yn yr awyr medd Antoinette Sandbach.
“Gall lanternau amharu ar draffig awyr, peri bygythiad i beiriannau awyrennau a chael eu camgymryd am arwydd o argyfwng ar y môr,” meddai.
“Mae hwn yn ymchwiliad amserol i gasglu gwybodaeth i alluogi’r rheiny sy’n creu polisi yn San Steffan a Chaerdydd i ymdrin â’r mater ar sail tystiolaeth.”