Mae Heddlu Dyfed-Powys yn credu mai corff Darren Morgan, 22 oed gafwyd brynhawn ddoe mewn ardal goediog ar gyrion Doc Penfro.
Does neb wedi adnabod y corff yn ffurfiol hyd yn hyn.
Y tro diwethaf y gwelwyd Darren, oedd yn cael ei alw yn ‘Mutley’ yn lleol, oedd am 12 o’r gloch ganol dydd ar ddydd Sadwrn yr 22 Medi 2012, a hynny yn ei gartref yng Nghilgant Wavell, Doc Penfro.
Dyw’r heddlu ddim yn amau trosedd ac mae’r crwner wedi cael ei hysbysu.
Dywedodd Sarjant Steve Williams o Heddlu Dyfed-Powys bod yr heddlu’n cydymdeimlo efo’r teulu ac yn diolch i bawb fu’n chwilio am Mr Morgan.