John Griffiths
Mae cynlluniau newydd a fydd yn helpu Cymru i ddelio â bridwyr cŵn diegwyddor a gwella safonau lles ar ffermydd cŵn bach ledled Cymru wedi cael eu cyhoeddi heddiw.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rheoliadau drafft newydd a fydd yn ei helpu yn yr ymdrech i reoli  bridio cŵn a gwella ansawdd bywyd cŵn yn gyffredinol.

Hon yw’r ail gyfres o reoliadau bridio cŵn y mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori yn eu cylch. Cafodd y gyfres gyntaf ei diwygio i adlewyrchu barn y bridwyr a oedd eisoes yn gweithredu mewn ffordd gyfrifol.

Fe fydd  ymgynghoriad 14 wythnos yn cael ei gynnal ar y rheoliadau drafft newydd a bydd cyfle i fridwyr cŵn roi eu barn.

Wrth gyflwyno’r cynlluniau newydd, dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, John Griffiths:  “Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i godi safonau lles anifeiliaid.

“Fel rhan o’r agenda honno, rydyn ni’n benderfynol o ddelio â bridwyr cŵn diegwyddor sy’n dod ag enw drwg i fridwyr cŵn cyfrifol.

“Mae’r rheoliadau drafft dw i’n eu lansio heddiw wedi’u llunio gan roi sylw i’r ymatebion i’n hymgynghoriad cyntaf a chyfres o gyfarfodydd gyda phobl berthnasol, sydd wedi’i gwneud yn bosibl i ni ystyried yn llawn amrywiaeth o safbwyntiau a phryderon.

“Byddan nhw’n ein helpu ni’n fawr iawn i sicrhau bod safonau lles cŵn yng Nghymru yn eithriadol o uchel a dw i am bwyso ar unrhyw un sydd â buddiant i roi eu barn fel rhan o’r broses ymgynghori.”

Bu John  Griffiths  hefyd yn sôn am ei ddymuniad i gyflwyno deddfwriaeth a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol i bob ci yng Nghymru gael microsglodyn.

Dywedodd:  “Mae eisoes yn ofynnol i fridwyr cŵn trwyddedig yng Nghymru roi microsglodyn ym mhob anifail ar eu safle cyn iddo gael ei symud neu ei werthu.

“Fodd bynnag, rydyn ni nawr yn ystyried cynlluniau a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol i bob ci yng Nghymru gael microsglodyn. Byddai hyn yn annog perchnogion anifeiliaid anwes i fod yn fwy cyfrifol ac yn helpu i wella lles cŵn ledled Cymru.”

Bydd yr ymgynghoriad ar y rheoliadau drafft ar fridio cŵn ar agor tan 27 Mawrth.

Bydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori drwy broses arall ynghylch cynlluniau microsglodynnu gorfodol yn 2012.