Mae Debbie Wilcox, arweinydd Cyngor Casnewydd, wedi’i derbyn i Dŷ’r Arglwyddi heddiw (dydd Llun, Tachwedd 4).
Ynghyd â Christine Blower, cyn-ysgrifennydd cyffredinol undeb athrawon yr NUT, mae arweinydd Cymdeithas Lywodraeth Leol Cymru wedi cael ei henwebu gan Jeremy Corbyn, arweinydd y Blaid Lafur.
Yng nghwmni’r Farwnes Eluned Morgan a’r Arglwydd Peter Hain, mae hi wedi tyngu llw i Frenhines Loegr.
Bydd hi’n cael ei hadnabod fel y Farwnes Wilcox o Gasnewydd.