Mae un o brif gyhoeddwyr Cymru yn dweud bod ffigyrau gwerthiant gan gwmni rhyngwladol ar gyfer rhestr fer Llyfr y Flwyddyn eleni, yn “newyddion ffug”.
Y Lolfa oedd y wasg Gymraeg a gafodd y mwyaf o lwyddiant yn seremoni Llyfr y Flwyddyn neithiwr (nos Fawrth. Mehefin 26), gyda phedwar o’i llyfrau yn cyrraedd rhestr fer y gystadleuaeth. Y nhw hefyd yw cyhoeddwyr enillydd prif wobr Llyfr y Flwyddyn, sef Blodau Cymru gan Goronwy Wynne.
Ond yn ôl adroddiad ar raglen Newyddion 9 y BBC neithiwr ac adroddiadau pellach ar Radio Cymru ben bore heddiw a stori ar wefan Cymru Fyw, mae ffigyrau swyddogol gan y cwmni rhyngwladol, Nielsen, yn nodi bod pob un o’r llyfrau Cymraeg ar restr fer y gystadleuaeth wedi gwerthu llai na 200 copi.
Mae’n ffigyrau’n dangos mai Caeth a Rhydd gan Peredur Lynch sydd â’r gwerthiant uchaf, gyda 196 o gopïau, tra bo Ar Drywydd Niclas y Glais gan Hefin Wyn wedi gwerthu ond 43 copi.
Ffigyrau anghywir
Ond mae Garmon Gruffudd o’r Lolfa wedi wfftio’r ystadegau hyn, gan ddweud bod “gwerthiant y llyfre wedi bod yn dda iawn o’n safbwynt ni”, a bod pob un o lyfrau’r Lolfa ar y rhestr fer wedi gwerthu “600 copi o leiaf”.
Mae tri o’r teitlau hynny, sef Meddyginiaethau Gwerin Cymru gan Anne Elizabeth Williams; Blodau Cymru Goronwy Wynne; a nofel Gwales gan Catrin Dafydd, wedi mynd i ail argraffiad.
“Siope llyfre Cymraeg yw’r prif werthiant i lyfre Cymraeg,” meddai Garmon Gruffudd wrth golwg360. “Yn amlwg, dyw’r ffigyrau yma gan Nielson ddim yn cynnwys y brif farchnad, neu’r brif sianel werthu, i lyfre Cymraeg.
“Dyw’r ffigyre ddim yn adlewyrchu’r gwerthiant, achos bod nhw ddim wedi cymryd gwybodaeth wrth siope Cymraeg, achos dyna lle mae’r gwerthiant i gyd i lyfre Cymraeg.
“Does dim unrhyw werth yn y data yna wrth ddadansoddi data gwerthiant Llyfr y Flwyddyn.”
Trydar yn boeth
Mae Lefi Gruffudd, brawd Garmon Gruffudd, a phennaeth yr ochr gyhoeddi llyfrau yn y wasg, wedi cymryd at y cyfryngau cymdeithasol i nodi ei anfodlonrwydd ynglyn â’r defnydd o ystadegau Nielsen i bwyso a mesur llwyddiant y byd llyfrau Cymraeg.
Mae awduron fel Manon Steffan Ros, Bethan Gwanas, ynghyd â gwasg Cyhoeddiadau Barddas a’r adolygydd Bethan Mair, hefyd wedi bod ar y cyfrwng yn beirniadu BBC Cymru.
Y stori yma yn gwbl gamarweiniol https://t.co/a0lV8g7kTl @BBCRadioCymru @BBCCymruFyw Holl lyfrau'r Lolfa ar y rhestr wedi gwerthu dros 600 copi. #fakenews
— Y Lolfa (@YLolfa) June 27, 2018
Anghyfrifol ac anghywir. Pa iws dyfynnu ystadegau gwerthu llyfrau Cymraeg sy’n EITHRIO gwerthiant siopau llyfrau Cymraeg?! Ymddiheurwch @BBCCymruFyw https://t.co/B5tbEQqPSP
— Bethan Mair (@geiriau) June 27, 2018
Ymddiheuriad plis @BBCCymruFyw – Be' 'di diben camarwain eich cynulleidfa fel hyn? https://t.co/Ux6fBW4gPg
— Manon Steffan Ros (@ManonSteffanRos) June 27, 2018
Mae’r ffigyrau yn yr erthygl hon am gyfrolau Cyhoeddiadau Barddas yn gwbwl https://t.co/vobf3NOQs5 bai’r gohebydd wedi gofyn i Barddas yn y seremoni neithiwr, byddem wedi cadarnhau hynny.Gan y cyhoeddwyr yn unig y mae’r ffigyrau gwerthiant cywir. Ni dderbyniwyd cais gan BBC Cymru https://t.co/PsFVUYqJCw
— Barddas (@trydarbarddas) June 27, 2018