Gall ymdrechion Ewrop a Phrydain i ddod i gytundeb dros gymhlethdodau’r ffin gydag Iwerddon, arwain at ffin galed yn cael ei sefydlu ar hyd arfordir Cymru.

Dyna yw rhybudd Plaid Cymru, sydd yn dadlau bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi creu “argyfwng” fydd yn arwain at “ganlyniadau trychinebus” ym mhorthladdoedd Cymru.

Daw’r rhybudd fel ymateb i bryderon y gallai Gogledd Iwerddon gael ei wahanu’n rhannol o weddill y Deyrnas Unedig – un ai yn wleidyddol neu’n economaidd – er mwyn atal ffin galed rhwng Prydain â Gweriniaeth Iwerddon yn dilyn Brexit.

Mae plaid y DUP yng Ngogledd Iwerddon eisoes wedi rhybuddio na fyddan nhw’n derbyn y fath datrysiad i broblem y ffin galed.

Atebion

Yr ateb yn ôl Plaid Cymru yw sicrhau bod Prydain oll yn aros o fewn yr Undeb Dollau.

Mae’r blaid hefyd yn mynnu y dylai unrhyw “fargeinion arbennig” sy’n cael eu cynnig i ranbarth penodol, gael eu hymestyn i bob rhanbarth ym Mhrydain.