Pearl Melody Black, o Heolgerrig, Merthyr Tudful (Llun: Heddlu De Cymru)
Mae Heddlu’r De wedi cyhoeddi enw’r ferch fach blwydd oed fu farw mewn digwyddiad â char ym Merthyr Tudful ddydd Sul.

Bu farw Pearl Melody Black o bentref Heolgerrig ar ôl i gar Range Rover gwag, a oedd wedi’i barcio, lithro i lawr allt a tharo wal tua 1.39yp ddydd Sul, 6 Awst. Fe gwympodd y wal gan anafu’r ferch fach a’i brawd iau.

Cafodd y ddau eu cludo i Ysbyty Tywysog Charles, ond bu farw Pearl Black yn  ddiweddarach. Cafodd ei brawd man anafiadau.

Mewn teyrnged iddi, dywedodd ei rhieni Paul a Gemma Black, ei bod yn “seren ddisglair” ac y bydd “bwlch enfawr yn ein calonnau.”

Mae Paul Black yn artist tatŵ ac yn adnabyddus fel canwr a diddanwr yn y pentref. Roedd wedi ymddangos ar raglen The Voice yn 2014.

Yn ôl un o’i gymdogion roedd wedi ceisio achub ei ferch ond yn ofer. Mae’r teulu’n cael cymorth gan swyddogion arbenigol.

Mae ymchwiliad bellach ar y gweill i amgylchiadau’r digwyddiad.

Dylai unrhyw un a welodd y digwyddiad yn y munudau’n arwain at y ddamwain gysylltu â’r heddlu ar 101 gan nodi’r cyfeirnod 1700305658.