Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, Llun: Llywodraeth Cymru
Mae gwefan newydd yn cael ei lansio heddiw sy’n hel ynghyd rhestr ac arwyddocâd enwau lleoedd hanesyddol Cymru.

Mae bron 350,000 o enwau wedi’u cofnodi ar y wefan yn barod gan dynnu deunydd o wahanol ffynonellau.

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru sydd wedi arwain y gwaith a dyma’r rhestr statudol gyntaf o’i math yn y Deyrnas Unedig, ac mae’n rhan o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru).

Cofnodi arferion

“Gwerth aruthrol enwau lleoedd hanesyddol yw y gallant gofnodi pobol, arferion, henebion, neu ddigwyddiadau’r gorffennol, sydd weithiau wedi mynd yn angof, a’u gosod mewn amser ar y dirwedd,” meddai Eurwyn Wiliam, Cadeirydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

“Maen nhw’n elfen hynod bwysig o amgylchedd hanesyddol Cymru ac rydym yn gobeithio y bydd llawer o bobol yn mwynhau defnyddio’r wefan newydd hon i ddysgu mwy am enwau lleoedd hanesyddol Cymru a chydnabod eu gwerth,” meddai.

Taith gerdded

 

Mae’r wefan yn cael ei lansio gan Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, heddiw gyda thaith gerdded o gwmpas Caerdydd.

Fe fydd yn defnyddio’r adnodd i archwilio enwau hanesyddol y brifddinas gan gerdded heibio Stryd Golate, Stryd Wharton a’r Aes y prynhawn yma.

“Gyda chymorth parhaus gan Lywodraeth Cymru, bydd y rhestr yn parhau i dyfu i gofnodi etifeddiaeth gyfoethog o enwau lleoedd hanesyddol ein gwlad,” meddai Ken Skates.

“Bydd yn helpu i bwysleisio eu gwerth i’n treftadaeth ac yn annog unigolion a chyrff cyhoeddus i gadw’r enwau gwerthfawr hyn yn fyw.”