Llys y Goron Caerdydd
Mae rheithgor yn Llys y Goron Caerdydd wedi dyfarnu gyrrwr tacsi yn euog o flacmelio menywod Mwslimaidd roedd wedi cwrdd ar wefan canfod cariadon.

Roedd Farhan Mirza, 38, o Abertyleri, wedi’i gyhuddo o dargedu tair dynes, gan eu ffilmio’n gyfrinachol a bygwth cyhoeddi’r fideo os na châi arian ac anrhegion ganddyn nhw.

Fe’i cafwyd yn euog o flacmel, voyeuriaeth, dwyn a thwyll – gan gynnwys honni ei fod yn feddyg – er mwyn cyflawni’r troseddau dros gyfnod o dair blynedd.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd ei fod wedi cwrdd ag un ddynes drwy gysylltiadau teuluol a’r ddwy arall drwy’r wefan i gariadon Asiaidd, shaadi.com.

Yn ôl yr erlynydd, Timothy Evans, roedd Farhan Mirza wedi targedu ei ddioddefwyr yn “ofalus” ac o achos eu crefydd a’u cefndiroedd ethnig, byddai’r menywod wedi’u “dychryn” ac wedi teimlo “cywilydd a gwarth”.