Mae Aelod Plaid Cymru o’r Senedd yn galw am fynediad cyfartal i addysg i blant a phobol ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

Daw’r alwad gan Heledd Fychan, sy’n cynrychioli rhanbarth Canol De Cymru, yn sgil cynnydd yn nifer yr etholwyr dros y blynyddoedd diwethaf sy’n dweud wrthi eu bod nhw’n brwydro i sicrhau addysg addas i’w plant.

Cynhaliodd hi arolwg cyn cynhyrchu adroddiad sy’n cynnwys y profiadau y clywodd hi amdanyn nhw gan ei hetholwyr.

Mae’r adroddiad hefyd yn argymell:

  • lleihau rhestrau aros ar gyfer apwyntiadau niwrolegol diagnostig, drwy sefydlu canolfannau diagnostig plant i sicrhau bod plant ag oedi wrth ddatblygu, allai fod ag anghenion dysgu ychwanegol, yn cael eu adnabod cyn gynted â phosibl
  • gweithredu cymarebau staffio addas mewn ysgolion
  • sicrhau bod plant a phobol ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol a/neu anableddau corfforol yn gallu cael mynediad i’r un clybiau ysgol allgyrsiol, clybiau gwyliau a theithiau ysgol â’u cyfoedion
  • rhoi adolygiad a chynllun gweithredu ar waith i wella recriwtio a chadw staff addysgu a staff cymorth cymwys mewn ysgolion
  • sicrhau bod yr holl staff mewn ysgolion ac yn yr Awdurdod Lleol sydd â chyswllt â phlant a phobol ifanc yn cael eu hyfforddi i ddeall egwyddorion cydraddoldeb a deall sut i gefnogi plant sy’n niwroddargyfeiriol
  • sefydlu unedau Cymraeg ar gyfer plant niwroddargyfeiriol nad ydyn nhw’n ffynnu mewn ystafell ddosbarth prif ffrwd.

‘Gwneud cam’

“Er gwaethaf newidiadau diweddar i addysg Anghenion Dysgu Ychwanegol, mae’n amlwg bod angen mwy o gymorth,” meddai Heledd Fychan.

“Mae’r adroddiad hwn wedi’i rannu â Phwyllgor Plant, Pobol Ifanc ac Addysg y Senedd ac yn seiliedig ar yr hyn yr wyf wedi’i glywed, rwy’n llwyr gefnogi’r galwadau sy’n cael eu gwneud gan rieni, gofalwyr a phlant a phobol ifanc i welliannau brys gael eu gwneud.

“Roedd y straeon a rannwyd gyda mi yn dorcalonnus ac yn ofidus.

“Rydym yn gwneud cam â gormod o blant, pobol ifanc a’u teuluoedd.

“All hyn ddim parhau.”