Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru’n ymchwilio yn dilyn nifer sylweddol o alwadau am danau gwair yng Ngheredigion neithiwr.

Roedd fflamau a mwg dros ardal Pen Dinas a chafodd y gwasanaethau brys eu galw toc wedi 10 o’r gloch neithiwr.

Mae lle i gredu bod y tanau wedi effeithio ar 12 erw o dir.

Mae’r sefyllfa’n cael ei monitro o hyd.