Mae corff dynes o Landudno, oedd wedi bod ar goll ers pythefnos, wedi cael ei olchi i’r lan ar draeth Formby yn Sefton, Glannau Mersi.

Roedd Anne-Marie Sarjantson, 29 oed, o Faes yr Orsedd, Llandudno wedi bod ar goll ers 3 Awst. Cafwyd hyd i’w chorff ddoe.

Dywed Heddlu Glannau Mersi nad ydyn nhw’n trin ei marwolaeth fel un amheus.

Mae ei theulu wedi cael gwybod am y datblygiad diweddaraf ac mae’r crwner wedi cael ei hysbysu.