Warren Gatland
Mae yna ddirgelwch – a dadl – tros benderfyniad Warren Gatland i anwybyddu’r mewnwr Dwayne Peel wrth baratoi at Gwpan y Byd.

Mae clwb y chwaraewr profiadol, Sale Sharks, yn gwadu honiadau prif hyfforddwr Cymru bod problemau gyda’i ffitrwydd.

Fe ddywedodd Cyfarwyddwr Rygbi’r Siarcod wrth y wasg a’r cyfryngau fod Peel wedi hyfforddi’n llawn ers dechrau mis Mehefin ac nad oedd Cymru wedi holi o gwbl amdano.

Ar hyn o bryd, mae’n ymddangos yn sicr mai Mike Phillips a’r ddau fewnwr ifanc, Tavis Knoyle a Lloyd Williams, fydd yn mynd i Seland Newydd.

Cynnig dewis arall

Mae llawer o sylwebwyr yn dadlau bod Peel yn chwaraewr mwy cyflym na Phillips ac yn cynnig ffordd arall o chwarae.

Un posibilrwydd yw fod cyn chwaraewr y Scarlets yn cael ei gosbi am fod gyda chlwb  o Loegr – roedd hynny’n golygu nad oedd ar gael i Gymru tan 4 Awst, ddau ddiwrnod cyn y gêm baratoi gynta’.

Ond mae Warren Gatland hefyd wedi sôn am broblemau ffitrwydd – er bod Sale Sharks yn gwadu hynny.