Sgoriodd capten Newcastle, Jamaal Lascelles unig gôl y gêm yn Uwch Gynghrair Lloegr i guro Abertawe yn Stadiwm Liberty y prynhawn yma.
Ac fe lwyddodd i achub ei dîm y pen arall wrth iddyn nhw ennill eu hail gêm o’r bron, a hynny heddiw yn absenoldeb eu rheolwr Rafa Benitez, sy’n dioddef o haint ar ôl cael llawdriniaeth.
Daeth y gôl oddi ar gornel Matt Ritchie ar ôl 75 munud, wrth i Lascelles godi uwchben yr amddiffynnwr canol Alfie Mawson cyn rhwydo.
Dechreuodd yr Elyrch yn gadarn ac fe gafodd Tammy Abraham gyfle i sgorio wrth iddo dwyllo’r golwr Rob Elliot, ond roedd ei allu i orffen y symudiad yn siomedig wrth i’r capten glirio’r bêl oddi ar y llinell.
Yn gynnar yn yr ail hanner, fe allai Matt Ritchie fod wedi gweld cerdyn coch am godi ei droed ar Alfie Mawson, ond fe benderfynodd y dyfarnwr nad oedd diben ei gosbi ac fe barhaodd y gêm.
Fe ddangosodd Renato Sanches, sydd ar fenthyg yn Abertawe o Bayern Munich, gyffyrddiadau hudolus ond doedden nhw ddim yn digwydd yn ddigon aml i’r Elyrch, oedd yn brin o opsiynau ymosodol a chreadigol.
Daeth un cyfle hwyr i’r Elyrch ac i’r eilydd Luciano Narsingh, ond fe arhosodd yr amddiffyn a’r golwr Elliot yn gadarn i sicrhau’r triphwynt.
Taith i Wembley sydd gan Abertawe ddydd Sadwrn nesaf i wynebu Spurs, ac fe fydd rhaid iddyn nhw berfformio fel pe baen nhw’n chwarae yn rownd derfynol y gwpan i fod ag unrhyw obaith o osgoi dod adre’n waglaw.