Wrecsam 1–0 Southport
Sgoriodd Kai Edwards gôl hwyr wrth i Wrecsam guro Southport yn y Gynghrair Genedlaethol ar y Cae Ras brynhawn Llun.
Wedi hanner cyntaf di sgôr roedd y ddau dîm yn edrych yn fwy bygythiol wedi’r egwyl.
Gwnaeth Shwan Jalal yn dda i gadw’r Dreigiau yn y gêm gyda dau arbediad i atal dau beniad gan Andrai Jones.
A chafodd y tîm cartref eu gwobrwyo ddau funud o ddiwedd y naw deg wrth i gyn chwaraewr y Seintiau Newydd, Kai Edwards, droi croesiad Jordan Evans i gefn y rhwyd.
Mae’r canlyniad yn cadw Wrecsam yn bymthegfed yn nhabl y Gynghrair Genedlaethol.
.
Wrecsam
Tîm: Jalal, Riley, Smith, Rooney, Edwards, Tilt, J. Evans, Rutherford, R. Evans, White, McDonagh
Gôl: Edwards 88’
Cardiau Melyn: Rooney 78’, R. Evans 90+2’
.
Southport
Tîm: Norman, Higgins, Jones, Lussey, Ashton, Thompson, Nolan, Weeks, McKenna (Caton 62’), Jones, Allen
.
Torf: 4,317