Dim Byd Ynni, drama ffars (Llun: Theatr Bara Caws)
Mae drama ffars newydd gan gwmni theatr Bara Caws, Dim Byd Ynni, ar fin mynd ar daith drwy Gymru.
Dyma fydd y ddrama ffars gyntaf i’r actores Christine Pritchard berfformio ynddi ac mae’n esbonio fod cyfleu cyflymder tempo drama ffars yn “dipyn o her”.
“Mae’n fyd hollol newydd,” meddai’r actores sy’n chwarae rhan ‘Ledi Angela Felix’ sy’n wraig i berchennog cwmni ynni mawr yng Nghymru.
“Dw i wedi gwneud tipyn o gomedi ond dyma’r ffars gyntaf i mi wneud,” meddai gan esbonio mai’r prif wahaniaeth rhwng ffars a chomedi yw’r elfen o realiti.
“Mae comedi yn real, ond mae ffars yn cael ei godi i lefelau gwahanol ac mae pethau hollol boncyrs yn digwydd,” meddai wedyn.
Ar daith drwy Gymru
Esboniodd fod y ddrama yn cyffwrdd â sawl thema gan gynnwys stori ditectif am lofruddiaeth.
“Mae ffars yn rhywbeth hollol wallgof, ond mae’n bwysig i gael rhyw elfen o wirionedd a stori naratif ynddi hefyd,” meddai.
Yn rhan o’r ddrama mae’r actorion Rhian Blythe, John Glyn Owen, Iwan John, Rhys Parry Jones a Rhodri Evan.
Mae Dim Byd Ynni wedi’i hysgrifennu gan y dramodydd Emlyn Gomer ac fe gafodd ei pherfformio gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Môn yn rhan o ddathliadau theatr Bara Caws yn ddeugain oed.
Bydd y perfformiad cyntaf yn cael ei gynnal nos yfory, Medi 14, yn Galeri Caernarfon a’r ddrama yn parhau ar daith tan Hydref 7.