Daeth 19,626 o ymwelwyr i’r Eisteddfod Genedlaethol yn Sir Ddinbych heddiw.
Mae’r ffigwr heddiw’n gynnydd bach ar yr un diwrnod y llynedd yn Eisteddfod Bro Morgannwg pan ddaeth 19,368 o ymwelwyr.
Ddoe roedd 17,813 o bobl wedi ymweld â’r Eisteddfod o’i gymharu â’r 15,754 ddydd Llun.