Mae’r Ysgrifennydd Amddiffyn wedi cyhoeddi toriadau gwerth miliynnau o bunnau oddi ar y gyllideb amddiffyn – er mwyn cwrdd ag anghenion y fyddin yn Afghanistan ac oherwydd diffygion ariannol anferth.

Dywedodd Bob Ainsworth bod y toriadau mewn pobol ac offer milwrol yn rhyddhau £900 miliwn i’w wario dros y tair blynedd nesaf ar ymgyrch Prydain yn Afghanistan.

Fe fydd RAF Cottesmore yn Rutland yn cau a bydd dwy o longau’r Llynges Frenhinol yn cael eu cadw’n segur.

Hefyd ymhlith y newidiadau bydd toriadau yn nifer y bobol sy’n gweithio i’r Weinyddiaeth Amddiffyn ynghyd â rhagor o doriadau cyffredinol ym niferoedd y lluoedd arfog.

Fe fydd yr Awyrlu’n colli Sgwadron Harrier, yr awyren ysbïo Nimrod MR2 12 mis yn gynt na’r disgwyl a bydd yna oedi cyn cyflwyno’r awyren MRA4.

“Catastroffig “

Yn ei ddatganiad, fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn y byddai’r arian yn mynd tuag at wisgoedd diogelwch i’r fyddin, gogls gweld yn y nos, offer cyfathrebu ac ysbïo, awyren C17 ac offer amddiffynnol i’r awyrennau Hercules.

Cadarnhaodd Bob Ainsworth hefyd y byddai 22 hofrennydd Chinook ar gael maes o law i’r lluoedd yn Afghanistan, gyda’r ddeg hofrennydd gyntaf yn barod erbyn 2012-13. Fe fydd hyn yn cynyddu’r nifer o hofrenyddion trwm sydd gan Brydain o 48 i 70.

Canlyniad “rheolaeth ariannol gatastroffig” y Llywodraeth yw’r toriadau hyn, yn ôl Liam Fox Ysgrifennydd Amddiffyn yr Wrthblaid.