Mae Arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru’n dweud ei fod yn gobeithio y bydd y blaid yn cael mwy o sylw ar y cyfryngau yng Nghymru cyn etholiad y Senedd yn 2026.

Ni chafodd y Blaid Werdd wahoddiad i ddadl etholiadol BBC Wales yn ystod yr ymgyrch, ac mae Anthony Slaughter yn gobeithio y bydd hynny’n newid yn dilyn canlyniad y blaid.

Yn yr etholiad cyffredinol fe wnaeth y Blaid Werdd gynyddu ei chanran o’r bleidlais genedlaethol yng Nghymru o 1% i 4.7%.

Ar draws y Deyrnas Unedig roedd y cynnydd yn weddol gyfartal i’r cynnydd yng Nghymru, gyda 3.8% yn fwy o’r bleidlais yn golygu bod nifer y seddi gwyrdd yn San Steffan yn cynyddu o un i bedwar.

Y rhai gafodd eu hethol oedd Siân Berry yn Brighton Pavillion, Ellie Chowns yng Ngogledd Sir Henffordd, Carla Denyer yng Nghanol Bryste, ac Adrian Ramsay yn Waveny Valley.

‘Dod yn ail yn arwyddocaol iawn’

Yng Nghymru, yr arweinydd Anthony Slaughter gafodd y canlyniad gorau, gan ddod yn ail yn sedd De Caerdydd a Phenarth.

“Roedd dod yn ail yn sedd De Caerdydd a Phenarth yn arwyddocaol iawn i ni,” meddai Anthony Slaughter yn siarad â golwg360.

“Ond y peth mwyaf arwyddocaol i ni oedd cael y pedwar Aelodau Seneddol yn Lloegr i ddangos ein bod ni’n gallu ennill, a hynny mewn system Cyntaf i’r Felin.

“Dw i’n meddwl y bydd y canlyniad ym Mryste a Sir Henffordd yn cael effaith ar bleidleisio yng Nghymru, yn enwedig oherwydd eu bod nhw’n seddi mor wahanol – un sydd yn wledig ac yn draddodiadol Geidwadol, ac un sydd yn drefol ac yn draddodiadol Llafur.

“Mae o’n dangos bod y cynnig gwyrdd yn apelio ar draws [ardaloedd].

Yn ystod yr ymgyrch, aeth Anthony Slaughter ac ymgyrchwyr y Blaid Werdd i Fryste.

“Mi roedd y brwdfrydedd ar y drysau mor arbennig, ac mae hynny’n bwysig achos mae yna lot o debygrwydd rhwng Bryste a Chaerdydd.

“Ond dw i’n meddwl bod y canlyniad yng Ngogledd Sir Henffordd, y newid o ddod yn bedwerydd yn etholiad 2019 i’r brig, yn dangos pa mor dda oedd ymgyrch Ellie Chowns.”

Gobeithio am fwy cyn 2026

Dywed Anthony Slaughter ei fod yn hapus efo’r canlyniad yn Ne Caerdydd a Phenarth oherwydd y byddai’r gyfran mewn etholiad Senedd Cymru yn golygu cynrychiolaeth Werdd o dan system etholiadol newydd.

“Pe baem ni’n ailadrodd y canlyniad yma ymhen cwpl o flynyddoedd, yn sicr bydd gennym ni aelodau gwyrdd yn y Senedd,” meddai.

“A phe bai hynny yn digwydd, byddai’n bwydo mewn i’r etholiad cyffredinol nesaf hefyd, oherwydd mae’n rhaid i bobol gredu eich bod chi’n gallu ennill.”