Bydd y 32 Aelod Seneddol sydd wedi’u hethol yn dilyn yr etholiad cyffredinol wythnos ddiwethaf yn barod i gychwyn ar eu gwaith wedi iddyn nhw dyngu llw heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 9).

O’r 32 aelod, mae 13 ohonyn nhw’n wynebau newydd yn San Steffan ac yn cynrychioli Llafur, Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Teithiodd yr Aelodau Seneddol i Lundain ddoe ar gyfer y paratoadau a bu ambell ffarwel emosiynol yn eu mysg.

Ffarwelio ag Ann

Roedd nifer wedi ymgynnull yng ngorsaf drên Caerfyrddin fore ddoe (dydd Llun, Gorffennaf 8) er mwyn ffarwelio ag Ann Davies wrth iddi wneud ei ffordd i Lundain.

Mae Ann yn un o’r ddau Aelod Seneddol newydd sy’n sefyll dros Blaid Cymru.

Yn gyn-gynghorydd dros Landdarog yn Sir Gaerfyrddin, fe gafodd Ann ei geni a’i magu yn y sir.

Cyn gweithio fel cynghorydd, bu Ann yn ddarlithydd mewn addysg gynnar ac mae hi’n gyd-berchennog meithrinfa plant.

Daeth Ann i’r brig yng Nghaerfyrddin gyda 15,520 o bleidleisiau – mwyafrif o 4,535 dros yr ymgeisydd Llafur, Martha O’Neil.

Mewn neges ar X, dywedodd Ann ei bod yn barod am ei diwrnod cyntaf yn cynrychioli Caerfyrddin.

“Amdani!” meddai.

“Mae’n anrhydedd teithio i San Steffan heddiw fel ail AS benywaidd Caerfyrddin – ac ar drên wedi’i enwi ar ôl AS benywaidd cyntaf yr ardal,” meddai mewn neges arall.

Bu’r dorf yn ffarwelio â’u haelod seneddol newydd drwy ganu’r anthem genedlaethol.

Wyneb newydd arall yn gwneud ei ffordd i San Steffan

Gadawodd gweddill tîm Plaid Cymru yn San Steffan – Llinos Medi, Liz Saville Roberts a Rhun ap Iorwerth – orsaf drên Bangor gyda’i gilydd.

Yn newydd i’r swydd o’r gogledd mae Llinos Medi, Aelod Seneddol Ynys Môn.

Derbyniodd 10,590 o bleidleisiau, sef 637 yn fwy na’i chystadleuydd agosaf, yr AS Ceidwadol blaenorol, Virginia Crosbie.

Dywed Llinos Medi ei fod yn “fraint eithriadol” cynrychioli Ynys Môn a’i bod yn edrych ymlaen at gael sefyll dros ei hardal.

Trafferth ar y trenau

Un arall sydd yn edrych ymlaen at ddechrau ar y gwaith yw’r Aelod Seneddol Llafur newydd ar gyfer Canolbarth a De Sir Benfro, Henry Tufnell.

Roedd hi’n frwydr agos yn yr etholaeth ond Henry Tufnell aeth â hi gyda 16,505 o bleidleisiau.

Cyn-gynrychiolydd Ceidwadol yr etholaeth, Stephen Crabb, ddaeth yn ail gyda 14,627 o bleidleisiau.

Er y cyffro i ddechrau ei swydd newydd, bu problemau gyda’r trenau wrth iddo wneud ei ffordd i San Steffan, meddai ar X.

“Ar fy ffordd i Lundain ac yn gyffrous i ddechrau gweithio fel AS Canolbarth a De Sir Benfro.

“Yn anffodus, nid yw’r daith yn cynnwys trenau uniongyrchol o Sir Benfro, ac mae oedi ar y trên @GWRHelp trwy Gaerloyw.

“Mae llawer o waith i’w wneud…”

Dywed fod datrys trafferthion trafnidiaeth gyhoeddus yn un o’i flaenoriaethau yn ei rôl newydd.

Cynrychiolydd newydd i’r Democratiaid Rhyddfrydol

Un o Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru yw un o’r 13 wyneb newydd, sef David Chadwick.

Enillodd y sedd i’r blaid gan sicrhau dros 30% o’r bleidlais o’i gymharu â 26% i’r Ceidwadwyr.

“Mae’n anrhydedd fy mod wedi treulio fy niwrnod cyntaf yn Nhŷ’r Cyffredin ochr yn ochr â’r nifer uchaf erioed o ASau Democratiaid Rhyddfrydol,” meddai ddoe.

“Mae hon yn senedd sydd angen dybryd i gyflawni’r newid dwfn sydd ei angen ar ein gwlad.”