Jeriwsalem
Mae arweinwyr Palesteiniaid y Lan Orllewinol wedi penderfynu gwneud cais swyddog i’r Cenhedloedd Unedig i gydnabod eu bod nhw’n wlad ar wahân.
Mae Awdurdod Palesteina a Chorff Rhyddid Palesteina eisiau cydnabyddiaeth i’r Lan Orllewinol, Llain Gaza, a Dwyrain Jerusalem.
Ond fe allai’r cais fod yn ergyd arall i’r ymdrechion i ail ddechrau y trafodaethau heddwch rhwng Israel a Palesteina.
Mae’r syniad o alw ar y Cenhedloedd Unedig i gydnabod fod gwlad Palesteiniaidd yn bodoli o fewn ffiniau Rhyfel Chwe Diwrnod 1967 yn adlewyrchu rhwystredigaeth y Palesteiniaid â’u trafodaethau ag Israel.
Dim ond Cyngor Diogelwch y Cengedloedd Unedig sydd â’r hawl i gydnabod gwlad newydd ac mae Llywodraeth yr Unol Daleithiau eisoes wedi datgan eu bod nhw’n gwrthwynebu’r syniad.
Mae Israel hefyd wedi beirniadu’r syniad gan ddweud y byddai yn dod a’r trafodaethau er mwyn datrys y gwrthdaro rhwng Israel a Phalesteina i ben.
Mae Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu, wedi wfftio cynnig gan Barack Obama i greu gwlad i’r Palesteiniaid yn seiliedig ar ffiniau cyn rhyfel 1967.
Dywedodd Benjamin Netanyahu nad oedd yn fodlon gadael y Lan Orllewinol a’i fod eisau cadw rheolaeth dros ddwyrain Jerusalem. Mae Israel eisoes wedi gadael Gaza, yn 2005.
Mae’r Palesteiniaid wedi mynnu na fydd y trafodaethau yn parhau nes i Israel roi’r gorau i adeiladu cartrefi yn y Lan Orllewinol ac yn nwyrain Jerusalem.