Etholiad Cyffredinol 2024 – y canlyniadau

Yr ymateb o Gymru a thu hwnt wrth gyfrif pleidleisiau etholiad San Steffan

Croeso i Blog Byw Etholiad Cyffredinol 2024 golwg360.

Byddwn ni’n dod â’r diweddaraf i chi ar ôl i’r gorsafoedd pleidleisio gau, gan gynnwys canlyniadau, y diweddaraf o rai o’r canolfannau cyfrif, a’r holl ymateb o bob cwr o Gymru a thu hwnt.

Gydol nos Iau ac oriau mân fore Gwener, bydd criw o ohebwyr, golygyddion, colofnwyr a sylwebwyr yn dod â phigion o bob cyfeiriad ynghyd yma, ac yn cadw golwg ar y sefyllfa yng Nghymru a thu hwnt yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Yn ogystal â golygyddion a gohebwyr golwg360, bydd yr academyddion Dr Huw Lewis (Prifysgol Aberystwyth) a Dr Edward Jones (Prifysgol Bangor), colofnwyr golwg360 Huw Prys Jones a Dylan Wyn Williams, sylfaenydd Golwg Dylan Iorwerth, y sylwebydd Elin Roberts, y colofnydd ac awdur Jason Morgan, a mwy yn cynnig dadansoddiadau a sylwebaeth hefyd. A bydd ambell un mewn etholaethau ledled Cymru wrth i ni agosáu at gyhoeddi’r canlyniadau.

Prif benawdau’r etholiad:

  • Llafur wedi ennill mwyafrif yn yr Etholiad Cyffredinol, Keir Stamer ar ei ffordd i Rif 10.
  • Y darlun llawn yng Nghymru – Llafur ar 27 sedd, Plaid Cymru â phedair a’r Democratiaid Rhyddfrydol gydag un.
  • Plaid Cymru wedi cipio Ynys Môn a Chaerfyrddin, a dal gafael ar Ddwyfor Meirionnydd a Cheredigion Preseli.
  • Alun Cairns o’r Ceidwadwyr yn colli sedd Bro Morgannwg i Kanishka Narayan o Lafur
  • Llafur gydag Andrew Ranger yn cipio etholaeth Wrecsam gan Sarah Atherton o’r Ceidwadwyr
  • Canlyniad olaf Cymru – Y Ceidwadwr David TC Davies yn colli’i sedd i Lafur yn Sir Fynwy.
  • Y Democratiaid Rhyddfrydol yn cipio Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe gan y Ceidwadwyr. 

Canlyniadau llawn etholaethau unigol Cymru ar waelod ein tudalen Etholiad.

06:23

Mae James Cleverly, yr Ysgrifennydd Cartref o hyd ar hyn o bryd, wedi cadw ei sedd yn Braintree – yn wahanol i 10 aelod o’r Cabinet. Wrth gydnabod noson anodd i’r Ceidwadwyr, mi ddywedodd bod angen osgoi “atebion tenau i broblemau cymhleth”. Cyfeiriad siwr o fod at y frwydr sydd ar fin dechrau am enaid ei blaid,

06:06

Draw yng Ngogledd Iwerddon, mae bellach yn amlwg mai Sinn Féin yw’r blaid fwyaf yn San Steffan. Mae’r blaid weriniaethol wedi ennill saith sedd, a dydy hi ddim yn bosib i’r DUP unoliaethol orffen gyda mwy o seddi na Sinn Féin.

Dydy Aelodau Seneddol Sinn Féin ddim yn cymryd eu seddi yn Nhŷ’r Cyffredin.

Sinn Féin yw’r blaid fwyaf yng nghynulliad Stormont ac ar lefel cynghorau lleol Gogledd Iwerddon.

06:06

Un ychwanegiad bach at y dadansoddiad canrannau …

Yn 1997, mi gafodd Llafur 54.7% o’r bleidlais.

05:58

Gwerth edrych ar y canrannau yng Nghymru …

Er eu bod nhw wedi ennill naw sedd yn ychwanegol, mae canran pleidlais Llafur lawr i 37% o 40.9% yn 2019. Er fod y Ceidwadwyr wedi dod yn ail (jyst) mi rannodd eu canran o’r bleidlais i 18%. Dim ond un pwynt oedd Reform y tu ol iddyn nhw … ond mae’n anodd cymharu am na wnaethon nhw (hy plaid Brexit) sefyll mewn sawl sedd yn 2019. Mae’r dyfarniad yn glir yn achos Plaid Cymru, i fyny o 9.9% i 15%. Y Democratiaid Rhyddfrydol yn codi 1 a’r Gwyrddion 4, ond o lefel isel iawn.

05:46

Mae Plaid Cymru wedi dathlu canlyniad “rhagorol” ar ôl cadw dwy sedd ac ennill dwy.

“Mae hwn yn ganlyniad arbennig i Blaid Cymru ac yn dyst i’r cynhesrwydd a’r brwdfrydedd gwirioneddol rydym wedi bod yn ei deimlo ar garreg y drws am y chwe wythnos diwethaf,” meddai Rhun ap Iorwerth, Arweinydd Plaid Cymru.

“Safodd Plaid Cymru ar lwyfan positif ac uchelgeisiol o degwch i Gymru ac rwyf wrth fy modd bod pobl wedi rhoi eu ffydd mewn pedwar ymgeisydd rhagorol i’w cynrychioli yn San Steffan.

“Er gwaethaf taflu popeth at Gaerfyrddin ac Ynys Môn, methodd ton Llafur ledled y DU yn wyneb ymgyrchoedd lleol cryf a dau ychwanegiad newydd rhagorol i rengoedd y Blaid yn San Steffan.

“Mae’r canlyniad hwn yn dangos mai Plaid Cymru yw’r dewis amgen clir i Lafur yng Nghymru ac mae ein ffocws bellach yn symud at gyflwyno gweledigaeth y gall mwy o bobl ei chefnogi yn Etholiad y Senedd yn 2026.”

05:45

Stuart Ladd

Ann Davies, Aelod Seneddol newydd Plaid Cymru, yn dathlu ei llwyddiant yng Nghaerfyrddin.

Lluniau: Stuart Ladd

05:39

Amser crynhoi yng Nghymru …

Llafur – gwych o ran seddi, ddim hanner cystal o ran canran y pleidleisiau … arwyddion o ddiffyg brwdfrydedd a phroblemau Vaughan Gething. 

Y Ceidwadwyr – dychrynllyd. Nid dim ond eu bod wedi colli seddi ond fod eu pleidlais wedi chwalu yn y rhan fwya’ o seddi.

Plaid Cymru. Gwych o ran seddi, eitha’ da o ran canran y pleidleisiau. Dydyn nhw ddim yn agos yn y Cymoedd ond mae’r cynnydd canrannau’n argoeli rhagor o seddi yno efo amodau cyfrannol etholiad 2026.

Reform – cry’ o ran canran pleidleisiau, dylanwadol mewn rhai seddi Ceidwadol … mae’n golygu y gallan nhw ennill seddi yn y Senedd, ond a oes yna nenfwd ar eu pleidlais?

Democratiaid Rhyddfrydol – ar y cyfan, siomedig, cynnydd bach yn y bleidlais mewn rhai mannau, gostyngiad mewn mannau eraill. Yr achubiaeth oedd sedd Brycheiniog, Maesyfed a Chwm Tawe ond mae eu her wedi diflannu yn eu hen gadarnleoedd yng Ngheredigion a Maldwyn. 

A’r gweddill … y bleidlais i rai ymgeiswyr annibynnol yn awgrymu maint y dadrithiad …

05:38

Yr olaf o seddi’r Ceidwadwyr yng Nghymru wedi mynd i’r Blaid Lafur wrth i Catherine Fookes gipio sedd David TC Davies. Yn Sir Fynwy, mae pleidlais Llafur wedi cynyddu 9.7% a phleidlais Reform wedi cynyddu 9.8%, tra bo’r gefnogaeth i’r Ceidwadwyr wedi gostwng 17.3%.

05:36

Ar sail canlyniadau eleni, dim ond dwy blaid sy’n gallu edrych ymlaen yn “weddol hyderus” at Etholiad 2026, sef Plaid Cymru a Reform, meddai Richard Wyn Jones ar S4C.

Dywed fod diffyg apêl at yr ieuenctid yn broblem i’r Ceidwadwyr tra bod amhoblogrwydd Vaughan Gething yn broblem i’r Blaid Lafur.

“Erbyn 2026, mae yna gyfle i Reform adeiladu ond does ganddyn nhw ddim peirianwaith.

“Mae gan Blaid Cymru’r adnoddau, a dw i’n meddwl, mae ganddyn nhw’r momentwm rŵan.”

05:32

Wrth i David T.C. Davies fynd i ddifancoll, does dim un Ceidwadwr ar ol mewn etholaeth yng Nghymru. I Lafur, dyma ganlyniad gorau’r blaid Gymreig efo’r bleidlais yn codi o 10%.