Etholiad Cyffredinol 2024 – y canlyniadau

Yr ymateb o Gymru a thu hwnt wrth gyfrif pleidleisiau etholiad San Steffan

Croeso i Blog Byw Etholiad Cyffredinol 2024 golwg360.

Byddwn ni’n dod â’r diweddaraf i chi ar ôl i’r gorsafoedd pleidleisio gau, gan gynnwys canlyniadau, y diweddaraf o rai o’r canolfannau cyfrif, a’r holl ymateb o bob cwr o Gymru a thu hwnt.

Gydol nos Iau ac oriau mân fore Gwener, bydd criw o ohebwyr, golygyddion, colofnwyr a sylwebwyr yn dod â phigion o bob cyfeiriad ynghyd yma, ac yn cadw golwg ar y sefyllfa yng Nghymru a thu hwnt yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Yn ogystal â golygyddion a gohebwyr golwg360, bydd yr academyddion Dr Huw Lewis (Prifysgol Aberystwyth) a Dr Edward Jones (Prifysgol Bangor), colofnwyr golwg360 Huw Prys Jones a Dylan Wyn Williams, sylfaenydd Golwg Dylan Iorwerth, y sylwebydd Elin Roberts, y colofnydd ac awdur Jason Morgan, a mwy yn cynnig dadansoddiadau a sylwebaeth hefyd. A bydd ambell un mewn etholaethau ledled Cymru wrth i ni agosáu at gyhoeddi’r canlyniadau.

Prif benawdau’r etholiad:

  • Llafur wedi ennill mwyafrif yn yr Etholiad Cyffredinol, Keir Stamer ar ei ffordd i Rif 10.
  • Y darlun llawn yng Nghymru – Llafur ar 27 sedd, Plaid Cymru â phedair a’r Democratiaid Rhyddfrydol gydag un.
  • Plaid Cymru wedi cipio Ynys Môn a Chaerfyrddin, a dal gafael ar Ddwyfor Meirionnydd a Cheredigion Preseli.
  • Alun Cairns o’r Ceidwadwyr yn colli sedd Bro Morgannwg i Kanishka Narayan o Lafur
  • Llafur gydag Andrew Ranger yn cipio etholaeth Wrecsam gan Sarah Atherton o’r Ceidwadwyr
  • Canlyniad olaf Cymru – Y Ceidwadwr David TC Davies yn colli’i sedd i Lafur yn Sir Fynwy.
  • Y Democratiaid Rhyddfrydol yn cipio Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe gan y Ceidwadwyr. 

Canlyniadau llawn etholaethau unigol Cymru ar waelod ein tudalen Etholiad.

05:24

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi ennill eu sedd gyntaf San Steffan ers i Mark Williams golli’i le yng Ngheredigion yn 2017. Dydy David Chadwick ond wedi cynyddu pleidlais y blaid gan 0.3% yn y sedd, tra bo’r gefnogaeth i Fay Jones, y cyn-Aelod Seneddol Ceidwadol, wedi gostwng 20.3%. Mae’n ymddangos bod y rhan fwyaf o’i phleidlais wedi mynd tuag at Reform, gyda chynnydd o 12.3% i’r blaid. Mae cynnydd bychan o 3.8% i’r Blaid Lafur hefyd.

05:24

Mae’n amser dechrau trafod y dyfodol … o ystyried maint y mwyafrif a chanrannau’r bleidlais mi fydd galw’n cynyddu am bleidleisio cyfrannol yn y Deyrnas Unedig … ond o’r dde yn ogystal a’r Democratiaid Rhyddfrydol, sy’n gymharol hapus. Ac, yng Nghymru, pwynt da gan Vaughan Roderick ar y BBC … mi fydd etholiad cwbl gyfrannol 2026 yn creu problemau ychwanegol i Lafur. Ac mi fydd Reform yn ennill seddi …

05:20

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru yn fyw … ar ol cadw Brycheiniog a Maesyfed a Chwm Tawe. Hynny o ganlyniad i chwalfa’r bleidlais Geidwadol ac mae’r Ceidwadwyr yn cydnabod eu bod wedi colli yn Sir Fynwy. Dim Ceidwadwr yng Nghymru, pedwar AS Plaid Cymru ac un i’r Democratiaid Rhyddfrydol.

05:18

Mae Vaughan Gething, Prif Weinidog Cymru, wedi gwadu bod Llafur wedi cael noson gymharol wael yng Nghymru. Er fod canran eu pleidlais wedi syrthio, roedd yn mynnu eu bod wedi ennill y seddi oedd angen eu hennill ac mai dyna bwrpas etholiad. Roedd yn mynnu hefyd fod “anonestrwydd” mewn rhai dadleuon diweddar … Ei neges arall oedd y byddai’r ddwy lywodraeth, yng Nghaerdydd a Llundain, yn gallu cydweithio yn hytrach na bod ymrafael cyson.

05:15

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cipio sedd Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawec gan y Ceidwadwyr.

05:11

Wrth dderbyn mai fo fydd y Prif Weinidog nesa’, mi gadarnhaodd Keir Starmer y byddai Llafur yn llywodraethu fel yr ymgyrchodd hi – yn blaid ar newydd wedd. Ac mi ailadroddodd y mantra – gwlad yn gynta’, plaid yn ail,

05:07

Llafur yn dal gafael gref iawn ar sedd Blaenau Gwent a Rhymni, gyda mwyafrif o bron i 13,000 a chynnydd o 3.2% yn eu pleidlais. Niamh Salkeld wedi cynyddu pleidlais Plaid Cymru gan 6.4% hefyd, ac yn curo’r Ceidwadwyr i gyrraedd yr ail safle.

05:04

Starmer

Dylan Wyn Williams

Y Newid

05:04

Llafur wedi croesi’r trothwy o 325 o seddau a chadarnhau eu buddugoliaeth. Araith gan Keith Starmer yn diolch i’w gefnogwyr ac i’w etholwyr.

Yr un pryd, yr arch-Dori Jacob Rees-Mogg wedi colli ei sedd yng Ngwlad yr Haf.

05:03

Efo Llafur wedi croesi’r trothwy seddi, mi fydd peth o’r sylw yn troi at lefel y bleidlais … os bydd yn sylweddol is nag yn 2019, mi fydd yn tynnu rhywfaint oddi ar sglein y fuddugoliaeth trwy’r Deyrnas Unedig. 

O, ia, mae Jacob Rees Mogg, y chwarter Cymro, wedi mynd.