Etholiad Cyffredinol 2024 – y canlyniadau

Yr ymateb o Gymru a thu hwnt wrth gyfrif pleidleisiau etholiad San Steffan

Croeso i Blog Byw Etholiad Cyffredinol 2024 golwg360.

Byddwn ni’n dod â’r diweddaraf i chi ar ôl i’r gorsafoedd pleidleisio gau, gan gynnwys canlyniadau, y diweddaraf o rai o’r canolfannau cyfrif, a’r holl ymateb o bob cwr o Gymru a thu hwnt.

Gydol nos Iau ac oriau mân fore Gwener, bydd criw o ohebwyr, golygyddion, colofnwyr a sylwebwyr yn dod â phigion o bob cyfeiriad ynghyd yma, ac yn cadw golwg ar y sefyllfa yng Nghymru a thu hwnt yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Yn ogystal â golygyddion a gohebwyr golwg360, bydd yr academyddion Dr Huw Lewis (Prifysgol Aberystwyth) a Dr Edward Jones (Prifysgol Bangor), colofnwyr golwg360 Huw Prys Jones a Dylan Wyn Williams, sylfaenydd Golwg Dylan Iorwerth, y sylwebydd Elin Roberts, y colofnydd ac awdur Jason Morgan, a mwy yn cynnig dadansoddiadau a sylwebaeth hefyd. A bydd ambell un mewn etholaethau ledled Cymru wrth i ni agosáu at gyhoeddi’r canlyniadau.

Prif benawdau’r etholiad:

  • Llafur wedi ennill mwyafrif yn yr Etholiad Cyffredinol, Keir Stamer ar ei ffordd i Rif 10.
  • Y darlun llawn yng Nghymru – Llafur ar 27 sedd, Plaid Cymru â phedair a’r Democratiaid Rhyddfrydol gydag un.
  • Plaid Cymru wedi cipio Ynys Môn a Chaerfyrddin, a dal gafael ar Ddwyfor Meirionnydd a Cheredigion Preseli.
  • Alun Cairns o’r Ceidwadwyr yn colli sedd Bro Morgannwg i Kanishka Narayan o Lafur
  • Llafur gydag Andrew Ranger yn cipio etholaeth Wrecsam gan Sarah Atherton o’r Ceidwadwyr
  • Canlyniad olaf Cymru – Y Ceidwadwr David TC Davies yn colli’i sedd i Lafur yn Sir Fynwy.
  • Y Democratiaid Rhyddfrydol yn cipio Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe gan y Ceidwadwyr. 

Canlyniadau llawn etholaethau unigol Cymru ar waelod ein tudalen Etholiad.

04:44

Rishi Sunak yn cydnabod ei fod wedi colli’r etholiad ac yn dweud ei fod wedi llongyfarch Keir Starmer

04:43

Rishi Sunak wedi cadw ei sedd â mwyafrif mawr, a Jeremy Hunt yn dal gafael ar ei etholaeth o drwch blewyn

04:43

Mae buddugoliaeth Liz Saville Roberts yn cadarnhau stori Plaid Cymru – llwyddiant eithriadol yn y Gorllewin – er fod cyfanswm ei phleidlais ychydig yn is, roedd y ganran yn uwch a’r mwyafrif dros 15,000. Os na fydd David TC yn cadw Sir Fynwy, dim ond dwy blaid fydd yn cynrychioli Cymru yn San Steffan. Yr her i’r Blaid yn 2026 fydd dod yn brif her i Lafur yng ngweddill Cymru. Dydyn nhw ddim wedi dod yn agos yn unman arall (er cryfhau yn Llanelli) ac nae Reform am fod yn rhwystr.

A, gyda llaw, wrth ennill yn Richmond mae Rishi Sunak wedi cydnabod bod y Ceidwadwyr wedi colli ac mai Keir Starmer fydd y Prif Weinidog nesa’.

04:41

Llafur yn cipio Dwyrain Clwyd o ddwylo’r Ceidwadwyr. Dyma’r Canlyniadau’r llawn

04:40

Y cyfweliad cyntaf gyda Ben Lake, AS Ceredigion Preseli

04:39

Huw Lewis

Chwip o ganlyniad i Ben Lake a Phlaid Cymru yng Ngheredigion a Phenfro – 47% o’r bleidlais a bron pymtheg mil o fwyafrif.

Tra’n cydnabod y newid mewn ffiniau eleni, dyw Plaid Cymru erioed wedi llwyddo i sicrhau canran mor uchel o’r bleidlais yn y rhan hon o Gymru (42% oedd y gorau hyd yma mewn is-etholiad yn 2001), na chwaith wedi ennill dim byd tebyg i’r bron i 15 mil o fwyafrif a welwyd y tro hwn (ychydig dan saith mil nol ym 1997 oedd y gorau i tan eleni).

04:36

Mwyafrif enfawr o 15,876 i Liz Saville Roberts wrth i Blaid Cymru gadw gafael ar Ddwyfor Meirionnydd.

Plaid yn cynyddu 8% o’r bleidlais gyda Llafur yn cwympo 8%.

04:33

Llafur yn cadw gafael ar sedd Merthyr Tudful ac Aberdâr

04:32

Jason Morgan

Bydd Llafur ymhell ar y blaen i bob plaid yng Nghymru’n yr etholiad hwn, ac yn ennill llu o seddi, ond dwi’n meddwl bod angen rhoi sylw manwl i ba mor ddifrifol ydi rhai o’r canlyniadau iddi, hyd yn oed yn y seddi mae hi wedi’u cipio. Yn Nwyrain Caerdydd, mae pleidlais Jo Stevens (fydd bron yn sicr yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru) i lawr gan 18% ac mae’r canrannau ledled y wlad yn gorfod bod yn destun siom, mae hi lawr bron ymhobman. Roedd Llanelli’n agos iawn at fod yn ganlyniad trychinebus.

Yn sicr, bydd ambell Aelod o’r Senedd Llafur yn deffro bore ‘ma gydag un llygad ar etholiadau’r Senedd ymhen dwy flynedd, ac efo cryn bryder. Mae’n teimlo bod yna newid wedi bod yng Nghymru nas rhagwelwyd.

04:32

Dau arall aelod arall o Gabinet y Ceidwadwyr wedi colli eu seddi i Lafur – Thérèse Coffey, y cyn-Weinidog Iechyd, yn etholaeth Suffolk Coast a Johnny Mercer, y Gweinidog dros Gyn-Filwyr, yn Plymouth Moor View.