Etholiad Cyffredinol 2024 – y canlyniadau

Yr ymateb o Gymru a thu hwnt wrth gyfrif pleidleisiau etholiad San Steffan

Croeso i Blog Byw Etholiad Cyffredinol 2024 golwg360.

Byddwn ni’n dod â’r diweddaraf i chi ar ôl i’r gorsafoedd pleidleisio gau, gan gynnwys canlyniadau, y diweddaraf o rai o’r canolfannau cyfrif, a’r holl ymateb o bob cwr o Gymru a thu hwnt.

Gydol nos Iau ac oriau mân fore Gwener, bydd criw o ohebwyr, golygyddion, colofnwyr a sylwebwyr yn dod â phigion o bob cyfeiriad ynghyd yma, ac yn cadw golwg ar y sefyllfa yng Nghymru a thu hwnt yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Yn ogystal â golygyddion a gohebwyr golwg360, bydd yr academyddion Dr Huw Lewis (Prifysgol Aberystwyth) a Dr Edward Jones (Prifysgol Bangor), colofnwyr golwg360 Huw Prys Jones a Dylan Wyn Williams, sylfaenydd Golwg Dylan Iorwerth, y sylwebydd Elin Roberts, y colofnydd ac awdur Jason Morgan, a mwy yn cynnig dadansoddiadau a sylwebaeth hefyd. A bydd ambell un mewn etholaethau ledled Cymru wrth i ni agosáu at gyhoeddi’r canlyniadau.

Prif benawdau’r etholiad:

  • Llafur wedi ennill mwyafrif yn yr Etholiad Cyffredinol, Keir Stamer ar ei ffordd i Rif 10.
  • Y darlun llawn yng Nghymru – Llafur ar 27 sedd, Plaid Cymru â phedair a’r Democratiaid Rhyddfrydol gydag un.
  • Plaid Cymru wedi cipio Ynys Môn a Chaerfyrddin, a dal gafael ar Ddwyfor Meirionnydd a Cheredigion Preseli.
  • Alun Cairns o’r Ceidwadwyr yn colli sedd Bro Morgannwg i Kanishka Narayan o Lafur
  • Llafur gydag Andrew Ranger yn cipio etholaeth Wrecsam gan Sarah Atherton o’r Ceidwadwyr
  • Canlyniad olaf Cymru – Y Ceidwadwr David TC Davies yn colli’i sedd i Lafur yn Sir Fynwy.
  • Y Democratiaid Rhyddfrydol yn cipio Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe gan y Ceidwadwyr. 

Canlyniadau llawn etholaethau unigol Cymru ar waelod ein tudalen Etholiad.

04:21

Jason Morgan

Wel, doedden ni’n sicr ddim yn disgwyl i Geredigion Preseli fod mor anhygoel o unochrog â hynny. Ben Lake i mewn gyda mwyafrif o bron pymtheg mil, 47% o’r bleidlais a chynnydd o 16% yn eu pleidlais. Canlyniad arbennig o dda i Blaid Cymru, ond ar yr un pryd yn un sobor i Lafur (i lawr 9%) a’r Ceidwadwyr (i lawr 18%). Reform UK heb wneud ei farc yno chwaith, ar 11% a’r pedwerydd safle. Sedd wirioneddol saff.

 

04:20

Buddugoliaeth anferth i Ben Lake a Phlaid Cymru yng Ngheredigion a’r Preseli – mwyafrif o bron 15,000 a chynnydd yn y bleidlais o 16%. Yn nhraddodiad yr etholaeth, mae’n gyfuniad o gefnogi plaid a chefnogi person … er mai’r Democratiaid Rhyddfrydol oedd yn ail, mae’n ymddangos bod eu her wedi diflannu yn yr etholaeth.

04:17

Yn dawel bach, mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn cael canlyniad da iawn yn Lloegr, yn talu’r pwyth i’r Ceidwadwyr am ‘frad’ 2015 a’r polisi o gimics a chanolbwyntio ar ychydig seddi yn talu. Maen nhw eisoes tros 20 sedd.

Newyddion cymysg i Lafur – cipio Bury St Edmunds o bob man – ond colli sedd Thangam Debbonaire i’r Gwyrddion ym Mryste.

04:17

Cyhoeddiad Ceredigion Preseli newydd gyrraedd – Ben Lake o Blaid Cymru’n cadw’i sedd yn gyfforddus gyda 21,738 pleidlais. Canlyniad gwych arall i Blaid Cymru gyda chynnydd o 15.8% yn y bleidlais. Y cyn AS, Mark Williams o’r Democratiaid Rhyddfrydol yn gwella rhywfaint ar ei bleidlais i orffen yn ail gyda Llafur yn drydydd o drwch blewin uwchben Reform. 

04:15

Penny Mordaunt, wnaeth ymgeisio am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol ddwywaith yn 2022, yn colli sedd Gogledd Portmouth – eto i’r Blaid Lafur. Er ei bod hi wedi bod â sawl swydd yng nghabinet y Torïaid yn San Steffan, ei rôl ddiwethaf oedd un fel Arweinydd y Tŷ Cyffredin.

04:12

Llafur wedi cadw Alun a Glannau Dyfrdwy

04:09

Canlyniad Gorllewin Caerdydd – Llafur yn cadw’r sedd, ond yn colli 13.5% o’r bleidlais. Canlyniad gwych i Blaid Cymru wrth gynyddu 12.6% o’r bleidlais i orffen yn ail.

04:09

Llafur yn cael eu cosbi eto am ddewis dieithryn yng Ngorllewin Caerdydd a’r enillwyr mawr oedd Plaid Cymru, yn dod yn ail. Un ffactor yn yr etholiad yma ydi fod y myfyrwyr ar eu gwyliau, ond mae gan y Blaid hefyd record o herio Llafur yn y sedd yma.

Mae llwyddiant Plaid Cymru hefyd yn dangos diffyg y polau piniwn Prydeinig ffansi … dydi hi ddim yn ymddangos eu bod nhw’n gallu delio efo amgylchiadau diwyllliannol gwahanol.

04:06

Canlyniad Castell-nedd a Dwyran Abertawe

04:04

Dylan Wyn Williams

‘Da ni angen Daniel Davies a’i fap rhyngweithiol yn ôl, wrth i Gymru droi’n fwyfwy coch a gwyrdd. Fydd ’na felyn yn etholaeth newydd Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe fel mae David Deans o BBC Wales yn awgrymu’n gryf?