Etholiad Cyffredinol 2024 – y canlyniadau

Yr ymateb o Gymru a thu hwnt wrth gyfrif pleidleisiau etholiad San Steffan

Croeso i Blog Byw Etholiad Cyffredinol 2024 golwg360.

Byddwn ni’n dod â’r diweddaraf i chi ar ôl i’r gorsafoedd pleidleisio gau, gan gynnwys canlyniadau, y diweddaraf o rai o’r canolfannau cyfrif, a’r holl ymateb o bob cwr o Gymru a thu hwnt.

Gydol nos Iau ac oriau mân fore Gwener, bydd criw o ohebwyr, golygyddion, colofnwyr a sylwebwyr yn dod â phigion o bob cyfeiriad ynghyd yma, ac yn cadw golwg ar y sefyllfa yng Nghymru a thu hwnt yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Yn ogystal â golygyddion a gohebwyr golwg360, bydd yr academyddion Dr Huw Lewis (Prifysgol Aberystwyth) a Dr Edward Jones (Prifysgol Bangor), colofnwyr golwg360 Huw Prys Jones a Dylan Wyn Williams, sylfaenydd Golwg Dylan Iorwerth, y sylwebydd Elin Roberts, y colofnydd ac awdur Jason Morgan, a mwy yn cynnig dadansoddiadau a sylwebaeth hefyd. A bydd ambell un mewn etholaethau ledled Cymru wrth i ni agosáu at gyhoeddi’r canlyniadau.

Prif benawdau’r etholiad:

  • Llafur wedi ennill mwyafrif yn yr Etholiad Cyffredinol, Keir Stamer ar ei ffordd i Rif 10.
  • Y darlun llawn yng Nghymru – Llafur ar 27 sedd, Plaid Cymru â phedair a’r Democratiaid Rhyddfrydol gydag un.
  • Plaid Cymru wedi cipio Ynys Môn a Chaerfyrddin, a dal gafael ar Ddwyfor Meirionnydd a Cheredigion Preseli.
  • Alun Cairns o’r Ceidwadwyr yn colli sedd Bro Morgannwg i Kanishka Narayan o Lafur
  • Llafur gydag Andrew Ranger yn cipio etholaeth Wrecsam gan Sarah Atherton o’r Ceidwadwyr
  • Canlyniad olaf Cymru – Y Ceidwadwr David TC Davies yn colli’i sedd i Lafur yn Sir Fynwy.
  • Y Democratiaid Rhyddfrydol yn cipio Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe gan y Ceidwadwyr. 

Canlyniadau llawn etholaethau unigol Cymru ar waelod ein tudalen Etholiad.

03:36

A ydi Llafur wedi talu pris am eu hagwedd at Gaza? Mae Jonathan Ashworth, un o’u llefarwyr mainc flaen wedi colli ei sedd yn Ne Caerlyr (Leicester South) i ymgeisydd annibynnol, Shockat Adam.

03:34

O fewn munudau i’w gilydd, Nigel Farage a Jeremy Corbyn yn ennill seddau, wrth i Corbyn guro Llafur fel ymgeisydd annibynnol yn Islington North. Mwyafrifoedd o tua 8,000 i’r ddau. 

 Farage yn debyg o fod yn fwy o fygythiad i’r Toriaid nag y bydd Corbyn i Lafur.

Ond dau ddyn sy’n haeddu llawer o’r bai am y llanast gwleidyddol rydan ni ynddo heddiw.

03:33

Tomos Dafydd Davies o’r Blaid Geidwadol yn dweud mai Ynys Mon oedd ei obaith mwya’ o gadw sedd yng Nghymru (tyrr David TC). Ond mae hefyd wedi awgrymu bod y cwymp yn eu pleidlais yn llai yng Nghymru nag yn Lloegr a bod hynny’n dangos rhywfaint mwy o gynhesrwydd yma at y Toriaid.

03:30

Nigel Farage wedi ennill sedd am y tro cyntaf erioed gyda buddugoliaeth yn Clacton. 

46% o’r bleidlais i Reform – 21,225 pleidlais, ymhell ar y blaen i Giles Watling o’r Ceidwadwyr gyda 12,820.

03:30

Farage yn ennill, Corbyn yn ennill, Galloway yn colli – 1-2 yn erbyn y Blaid Lafur.

03:27

Jason Morgan

Felly Virginia Crosbie ydi’r aelod seneddol cyntaf ar Ynys Môn i golli ei sedd ers y 1950au, ond mae hwn yn ganlyniad eithriadol o ddifyr.

Roedd hi’n agos tu hwnt yn y pen draw – cafodd Llinos Medi, oedd yn ei dagrau wrth areithio ar ôl y cyhoeddiad, fwyafrif o 637 dros Crosbie, neu 2%. Yn sicr, profodd Crosbie bwynt wrth i bawb drwy’r ymgyrch ddiystyru ei chyfleoedd a dweud mai ras dwy ffordd rhwng y cenedlaetholwyr a Llafur oedd hi.  

Roedd yna ddau sypreis yma hefyd. Torrodd Reform UK ddim mo’r 10%, er mae’n debyg i fi mai nhw sydd wedi sicrhau’r sedd i Blaid Cymru â’u 3,223 o bleidleisiau. Roedd canlyniad Llafur, a ymddangosodd yn hyderus yma, yn arbennig o sâl – 7,619 o bleidleisiau a gostyngiad o 6.7%.

Beth bynnag sy’n digwydd yng ngweddill seddi Cymru, mae’n amlwg fod rhywbeth wedi mynd o’i le i Lafur yng Nghymru heno, er gwaetha’r ffaith y byddan nhw ar eu hennill.

Wrth imi ysgrifennu hyn mae canlyniad Bangor Aberconwy wedi dod i’r amlwg. Eto, mae Llafur wedi colli pleidleisiau er ennill yn hawdd, gyda’r Ceidwadwyr yn cael chwalfa (-18%). Mae’r chwalfa honno wedi arwain at Catrin Wager o Blaid Cymru’n sicrhau’r ail safle, a dwi’n meddwl bod hwnnw’n rhyfeddol o annisgwyl.

 

03:27

Efo Ann Davies yn swnio’n obeithiol yng Nghaerfyrddin, mae’n ymddangos y bydd hi’n noson dda i Blaid Cymru, un o bob wyth sedd yng Nghymru a chynnydd mewn sawl ardal. Y diweddara oedd Catrin Wager yn Mangor ac Aberconwy yn codi’r bleidlais o 22% mewn sedd anodd.

03:26

Bangor Aberconwy – Claire Hughes o’r Blaid Lafur yn ennill y sedd gyda Catrin Elen Wager o Blaid Cymru’n ail a’r Ceidwadwyr yn drydydd. 

Pleidlais Llafur lawr 5%, ond canlyniad da i Blaid Cymru sydd fyny 6%.  

03:26

Yn amlwg mae cipio Ynys Môn yn ganlyniad arbennig o dda i Blaid Cymru, ond mae’r canlyniad yma yn adeiladu ar batrwm sydd wedi’i bod yn amlygu’n raddol yn y canlyniadau Cymreig eraill hyd yma, sef cynnydd bach – ond cyson – yn y ganran o’r bleidlais i Blaid Cymru.

O ystyried hyn mae’n bosib y gallai heno fod yn noson llwyddiannus i Blaid Cymru a hynny mewn etholiad a oedd, o ystyried y newidiadau i’r ffiniau etholaethol, yn argoeli i fod yn un reit anodd i’r blaid. 

Pe bai’r sïon cadarnhaol sydd wedi bod yn dod gan y Blaid o Gaerfyrddin yn cael eu cadarnhau hefyd, bydd lle gan Rhun ap Iorwerth i deimlo’n ddigon bodlon gyda’i ymgyrch etholiadol gyntaf fel arweinydd y blaid.

03:19

Llinos Medi ym Mon hefyd yn annog merched ifanc i’w dilyn hi, gan ddweud bod popeth yn bosib. Pleidlais y Blaid fymryn yn uwch na’r tro diwetha’, y Ceidwadwyr wedi cynnal yn rhyfeddol o gymharu a llefydd eraill ond her Llafur wedi methu a chwymp yn eu pleidlais.