Etholiad Cyffredinol 2024 – y canlyniadau

Yr ymateb o Gymru a thu hwnt wrth gyfrif pleidleisiau etholiad San Steffan

Croeso i Blog Byw Etholiad Cyffredinol 2024 golwg360.

Byddwn ni’n dod â’r diweddaraf i chi ar ôl i’r gorsafoedd pleidleisio gau, gan gynnwys canlyniadau, y diweddaraf o rai o’r canolfannau cyfrif, a’r holl ymateb o bob cwr o Gymru a thu hwnt.

Gydol nos Iau ac oriau mân fore Gwener, bydd criw o ohebwyr, golygyddion, colofnwyr a sylwebwyr yn dod â phigion o bob cyfeiriad ynghyd yma, ac yn cadw golwg ar y sefyllfa yng Nghymru a thu hwnt yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Yn ogystal â golygyddion a gohebwyr golwg360, bydd yr academyddion Dr Huw Lewis (Prifysgol Aberystwyth) a Dr Edward Jones (Prifysgol Bangor), colofnwyr golwg360 Huw Prys Jones a Dylan Wyn Williams, sylfaenydd Golwg Dylan Iorwerth, y sylwebydd Elin Roberts, y colofnydd ac awdur Jason Morgan, a mwy yn cynnig dadansoddiadau a sylwebaeth hefyd. A bydd ambell un mewn etholaethau ledled Cymru wrth i ni agosáu at gyhoeddi’r canlyniadau.

Prif benawdau’r etholiad:

  • Llafur wedi ennill mwyafrif yn yr Etholiad Cyffredinol, Keir Stamer ar ei ffordd i Rif 10.
  • Y darlun llawn yng Nghymru – Llafur ar 27 sedd, Plaid Cymru â phedair a’r Democratiaid Rhyddfrydol gydag un.
  • Plaid Cymru wedi cipio Ynys Môn a Chaerfyrddin, a dal gafael ar Ddwyfor Meirionnydd a Cheredigion Preseli.
  • Alun Cairns o’r Ceidwadwyr yn colli sedd Bro Morgannwg i Kanishka Narayan o Lafur
  • Llafur gydag Andrew Ranger yn cipio etholaeth Wrecsam gan Sarah Atherton o’r Ceidwadwyr
  • Canlyniad olaf Cymru – Y Ceidwadwr David TC Davies yn colli’i sedd i Lafur yn Sir Fynwy.
  • Y Democratiaid Rhyddfrydol yn cipio Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe gan y Ceidwadwyr. 

Canlyniadau llawn etholaethau unigol Cymru ar waelod ein tudalen Etholiad.

03:16

Y Blaid yn cipio’u sedd darged gynta’ ym Mon. Llinos Medi yn curo Virginia Crosbie o tua 600. Llafur 3,000 y tu ol. Mi wnaeth hi adleisio geiriau Ron Davies adeg y Refferendwm … “bore da i Ynys Mon a bore da iawn i fi”.

03:16

03:16

Douglas Alexander, cyn weinidog cabinet i Tony Blair yn copio East Lothian oddi ar yr SNP o 23,000 i 10,000. Pe bai hyn yn adlewyrchu’r hyn sy’n digwydd drwy’r Alban ddiwydiannol byddai’n noson ddifrifol o siomedig i’r SNP.

03:15

Canlyniad Ynys Môn, ac mae’n un arwyddocaol iawn! 

Llinos Medi o Blaid Cymru’n cipio’r sedd o ddwylo Virginia Crosbie o’r Ceidwadwyr. 

Llinos Medi yn amlwg yn emosiynol iawn wrth wneud ei haraith. Wrth ddyfynu sgwrs gyda rhywun yn gynharach yn y dydd a ddywedodd wrthi ei bod yn falch ei bod am fod yn MP, meddai:

“…dwi ddim isio bod yn MP, dwi ddim ond isio cynrychioli Ynys Môn dwi’n caru gymaint.”

32% o’r bleidlais i Blaid Cymru, cwta 637 o fwyafrif dros y Ceidwadwyr. Gogwydd 4.5% o’r Ceidwadwyr i Blaid Cymru. 

03:11

Yr Ysgrifennydd Amddiffyn Grant Shapps yn cael ei guro gan Lafur yn Welwyn Hatfield ar gyrion Llundain

03:09

Caerffili a Rhondda Ogwr eto … y stori amlwg ydi fod cefnogwyr Llafur a’r Ceidwadwyr wedi symud neu aros gartre’, ond mae’r syfleini Llafur yn ddigon cry’ ar hyn o bryd i gadw’r seddi. Os na fydd Keir Starmer (sydd newydd gael ei ethol) yn llwyddo’n sydyn, mi fydd Llafur yn poeni am etholiad y Senedd yn 2026.

03:06

Canlyniad o Rhondda ac Ogwr – dim syndod bod Chris Bryant wedi cadw ei sedd

Caerffili – Chris Evans o Lafur yn mynd â hi, gyda Lynsay Whittle o Blaid Cymru yn ail. 

03:05

Rhys Owen (Gohebydd Gwleidyddol)

Y stori hyd yn hyn…

Mae’r Ceidwadwyr yn edrych fel ei bod wedi’u chwalu ar draws y wlad, gyda Reform yn bwyta i mewn i’w pleidlais fwy ac yn fwy. 

Ar y pwynt o ysgrifennu hwn mae Keir Starmer jest wedi ennill yn Hoburn a St Pancras a does ddim amheuaeth bod o wedi bod yn noson ardderchog i’w blaid. 

Yng Nghymru, mae Reform wedi dangos grym yn y de sydd yn mynd i fod yn bwysig yn Senedd 2026 os mae’r momentwm yn parhau i dyfu dros yr 18 mis nesaf. 

Rydym rŵan yn aros ar etholaethau ymylol yng Nghymru i weld os mae Plaid yn gallu cadw 4 sedd, hyd yn oed ar ôl newid y ffiniau, ac os mae pleidiau fel y Gwyrddion yn gallu dangos twf mewn ardaloedd trefol fel Caerdydd. 

Mi fyddai’n cadw ar draws hyn ar ôl i bleidlais Ynys Môn gael ei gyhoeddi pen ryw 10 munud.

03:04

Gan Sara Wheeler yn Wrecsam

Yn ei araith mi wnaeth Charles Dodman ddweud ei bod yn ganlyniad gwych, o ystyried fod y blaid Reform UK ddim ond wedi bodoli ers 6 wythnos

Dyma’r canlyniad llawn:

Ceidwadwyr – 9888

Llafur – 15836

Plaid Cymru- 4138

Dems Rhydd – 1777

Gwyrddion – 1339

Abolish – 480

Reform – 6915

03:03

Buddugoliaeth rwydd i Keir Starmer yn ei etholaeth Kings Cross & St Pancras yn Llundain, wrth i enillion cynyddol gan Lafur yn Lloegr gadarnhau y bydd yn Brif Weinidog o fewn oriau