Etholiad Cyffredinol 2024 – y canlyniadau

Yr ymateb o Gymru a thu hwnt wrth gyfrif pleidleisiau etholiad San Steffan

Croeso i Blog Byw Etholiad Cyffredinol 2024 golwg360.

Byddwn ni’n dod â’r diweddaraf i chi ar ôl i’r gorsafoedd pleidleisio gau, gan gynnwys canlyniadau, y diweddaraf o rai o’r canolfannau cyfrif, a’r holl ymateb o bob cwr o Gymru a thu hwnt.

Gydol nos Iau ac oriau mân fore Gwener, bydd criw o ohebwyr, golygyddion, colofnwyr a sylwebwyr yn dod â phigion o bob cyfeiriad ynghyd yma, ac yn cadw golwg ar y sefyllfa yng Nghymru a thu hwnt yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Yn ogystal â golygyddion a gohebwyr golwg360, bydd yr academyddion Dr Huw Lewis (Prifysgol Aberystwyth) a Dr Edward Jones (Prifysgol Bangor), colofnwyr golwg360 Huw Prys Jones a Dylan Wyn Williams, sylfaenydd Golwg Dylan Iorwerth, y sylwebydd Elin Roberts, y colofnydd ac awdur Jason Morgan, a mwy yn cynnig dadansoddiadau a sylwebaeth hefyd. A bydd ambell un mewn etholaethau ledled Cymru wrth i ni agosáu at gyhoeddi’r canlyniadau.

Prif benawdau’r etholiad:

  • Llafur wedi ennill mwyafrif yn yr Etholiad Cyffredinol, Keir Stamer ar ei ffordd i Rif 10.
  • Y darlun llawn yng Nghymru – Llafur ar 27 sedd, Plaid Cymru â phedair a’r Democratiaid Rhyddfrydol gydag un.
  • Plaid Cymru wedi cipio Ynys Môn a Chaerfyrddin, a dal gafael ar Ddwyfor Meirionnydd a Cheredigion Preseli.
  • Alun Cairns o’r Ceidwadwyr yn colli sedd Bro Morgannwg i Kanishka Narayan o Lafur
  • Llafur gydag Andrew Ranger yn cipio etholaeth Wrecsam gan Sarah Atherton o’r Ceidwadwyr
  • Canlyniad olaf Cymru – Y Ceidwadwr David TC Davies yn colli’i sedd i Lafur yn Sir Fynwy.
  • Y Democratiaid Rhyddfrydol yn cipio Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe gan y Ceidwadwyr. 

Canlyniadau llawn etholaethau unigol Cymru ar waelod ein tudalen Etholiad.

02:46

Canlyniad Gŵyr ydy’r nesaf o Gymru, a dim syndod wrth Tonia Antoniazzi o’r Blaid Lafur yn cadw ei sedd gyda mwyafrif o 11,567.

Llafur yn colli 2% o’r bleidlais, ond y Ceidwadwyr lawr 21% hefyd. Reform fyny 13% a Phlaid Cymru hefyd fyny 3%

02:45

Dylan Wyn Williams

Yng nghanol caseg eira o ganlyniadau o Gymru, beth am fynd nôl i Ben-y-bont am eiliad. Adrian Masters ITV yn nodi fod AS Llafur newydd, Kanishka Narayan sy’n enedigol o Gaerdydd a bellach o’r Barri, wedi creu hanes – fel yr Aelod Seneddol ethnig leiafrifol cyntaf erioed o Gymru.

Croeso i 2024!

02:44

Canlyniad Torfaen – Llafur a Nick Thomas-Symonds yn cadw’r sedd, ond gogwydd 4.5% yn y bleidlais o Llafur i Reform. 

02:43

Buddugoliaeth ysgubol i Ed Davey, arweinydd y Lib Dems yn Kingston a Surbiton – dyblu ei fwyafrif

02:42

Fideo o ganlyniad Wrecsam gan Sara Wheeler

02:41

Rhys Owen (Gohebydd Gwleidyddol)

Mae Wrecsam wedi pleidleisio i ethol Andrew Ranger o’r blaid Lafur. O edrych ar y pleidleisiau mae Sarah Atherton sydd wedi dod yn 2ail efo 6,000 yn llai na gafwyd yn 2019 – yr union faint mae Reform wedi ennill yn y sedd y tro hwn yn 3ydd. 

Cyd-ddigwyddiad?

02:41

Jason Morgan

Mae canlyniadau noson etholiad yng Nghymru fel bysus, tydyn – mae’n anodd iawn dal i fyny!

Mae’r patrwm o’r chwe sedd sydd wedi’u cyhoeddi yng Nghymru hyd yma’n ddifyr tu hwnt, ac yn ymylu ar ryfeddol.

Dydi Llafur ddim yn torri tir newydd o gwbl ac yn wir mae hi’n mynd am yn ôl – mewn blwyddyn y mae hi’n ei chwalu hi ar lefel Brydeinig. Dwi bellach yn meddwl bod y posibiliad a soniais amdano’n gynharach o Lafur yn gwneud yn well yn Lloegr na Chymru’n fwy tebygol.

Gostyngodd ei phleidlais gan 10% yng Ngorllewin Abertawe a dros 5% ym Mhontypridd.

Mae’r Ceidwadwyr yn gwneud yn sobor o wael a dwi’m yn meddwl bod amheuaeth bellach y byddan nhw’n drydydd o ran nifer y pleidleisiau, tu ôl i Reform UK. Fel ym 1997 a 2001, bosib bod achubiaeth Gymreig y blaid yng Nghymru yn gorwedd ym Mae Caerdydd.

Mae Reform UK eu hunain yn gwneud yn arbennig o dda, hwyrach fymryn yn well nag oedden ni’n ei ddisgwyl, er nad ydyn nhw’n debygol o ennill sedd. Ond mae perfformiad Plaid Cymru hyd yma’n nodedig hefyd, mae hi wedi cynyddu ei phleidlais ymhob sedd, a hynny mewn seddi sydd ddim yn agos at fod yn seddi targed iddi, nac yn rhai lle mae ganddi fawr o bresenoldeb ynddynt.

02:40

Mae’n rhyfeddol fel y mae pobol yn pleidleisio’n debyg mewn gwahanol etholaethau, hollol wahanol bell oddi wrth ei gilydd. Y Ceidwadwyr sy’n colli yng Nghymru, nid Llafur yn ennill. Mae lefel y pleidleisio a chynnydd y pleidiau llai yn dangos y diffyg ffydd mewn gwleidyddiaeth.

Yn Lloegr, mae’n ymddangos bod y symudiad at Lafur yn gryfach – arwydd o broblemau Llywodraeth Cymru a Vaughan Gething?

Penrhyn Gwyr a Thorfaen yn dilyn y patrwm – mae am fod yn noson undonog yng Nghymru. Y diddordeb ydi maint cwymp y Ceidwadwyr a faint y mae Reform yn ei gael – roedden nhw’n ail yn Nhorfaen.

02:40

Llafur yn cipio Kilmarnock oddi ar yr SNP – yn weddol gyffyrddus

02:39

George Galloway wedi colli Rochdale i Lafur. Neil Kinnock yn ei ddisgrifio fel ‘repellent, repulsive character’. Hyd yn oed Neil Kinnock yn gallu siarad yn gall weithiau!