Etholiad Cyffredinol 2024 – y canlyniadau

Yr ymateb o Gymru a thu hwnt wrth gyfrif pleidleisiau etholiad San Steffan

Croeso i Blog Byw Etholiad Cyffredinol 2024 golwg360.

Byddwn ni’n dod â’r diweddaraf i chi ar ôl i’r gorsafoedd pleidleisio gau, gan gynnwys canlyniadau, y diweddaraf o rai o’r canolfannau cyfrif, a’r holl ymateb o bob cwr o Gymru a thu hwnt.

Gydol nos Iau ac oriau mân fore Gwener, bydd criw o ohebwyr, golygyddion, colofnwyr a sylwebwyr yn dod â phigion o bob cyfeiriad ynghyd yma, ac yn cadw golwg ar y sefyllfa yng Nghymru a thu hwnt yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Yn ogystal â golygyddion a gohebwyr golwg360, bydd yr academyddion Dr Huw Lewis (Prifysgol Aberystwyth) a Dr Edward Jones (Prifysgol Bangor), colofnwyr golwg360 Huw Prys Jones a Dylan Wyn Williams, sylfaenydd Golwg Dylan Iorwerth, y sylwebydd Elin Roberts, y colofnydd ac awdur Jason Morgan, a mwy yn cynnig dadansoddiadau a sylwebaeth hefyd. A bydd ambell un mewn etholaethau ledled Cymru wrth i ni agosáu at gyhoeddi’r canlyniadau.

Prif benawdau’r etholiad:

  • Llafur wedi ennill mwyafrif yn yr Etholiad Cyffredinol, Keir Stamer ar ei ffordd i Rif 10.
  • Y darlun llawn yng Nghymru – Llafur ar 27 sedd, Plaid Cymru â phedair a’r Democratiaid Rhyddfrydol gydag un.
  • Plaid Cymru wedi cipio Ynys Môn a Chaerfyrddin, a dal gafael ar Ddwyfor Meirionnydd a Cheredigion Preseli.
  • Alun Cairns o’r Ceidwadwyr yn colli sedd Bro Morgannwg i Kanishka Narayan o Lafur
  • Llafur gydag Andrew Ranger yn cipio etholaeth Wrecsam gan Sarah Atherton o’r Ceidwadwyr
  • Canlyniad olaf Cymru – Y Ceidwadwr David TC Davies yn colli’i sedd i Lafur yn Sir Fynwy.
  • Y Democratiaid Rhyddfrydol yn cipio Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe gan y Ceidwadwyr. 

Canlyniadau llawn etholaethau unigol Cymru ar waelod ein tudalen Etholiad.

02:40

Llafur yn cipio Kilmarnock oddi ar yr SNP – yn weddol gyffyrddus

02:39

George Galloway wedi colli Rochdale i Lafur. Neil Kinnock yn ei ddisgrifio fel ‘repellent, repulsive character’. Hyd yn oed Neil Kinnock yn gallu siarad yn gall weithiau! 

02:38

Canlyniad o Wrecsam! 

Llafur yn cipio – Andrew Ranger yn bachu’r sedd gan Sarah Atherton o’r Ceidwadwyr. 

Y Ceidwadwyr yn colli 22% o’r bleidlais, gyda Llafur yn dal eu tir (+1%). 11.5% o ogwydd. Reform yn drydydd – Plaid Cymru (+4%) a’r Dems Rhydd (+4%) yn cynyddu eu cyfran o’r bleidlais. 

02:37

Y patrwm yn parhau ym Mhontypridd a Wrecsam – chwalfa’r Ceidwadwyr yn dangos bod pobol am eu cosbi nhw ond methiant Llafur i godi (neu hyd yn oed gwympo) yn dangos diffyg brwdfrydedd atyn nhw. Y pleidiau llai i gyd yn ennill rhyw ychydig bron bob tro. Mi fydd y diffyg awydd yn bryder a phroblem i Lafur, waeth faint fydd eu mwyafrif.

02:33

02:33

Canlyniadau Cymru’n dechrau llifo mewn bellach – Pontypridd nesaf. 

Alex Davies-Jones o’r blaid Lafur yn cadw ei sedd.

02:27

Dylan Wyn Williams

Ydi Mark Drakeford yn dal yn stiwdio S4C? Difyr fydd ei ymateb i fuddugoliaeth Torsten Bell yng Ngorllewin Abertawe – un o ddau ymgeisydd wedi’u parasiwtio o Millbank i Gymru ar draul doniau lleol – fel Alex Barros-Curtis. Roedd oedd Drakeford wedi gwrthod yn lân â rhannu swyddfa etholaethol ag o.

Reform yn ail. Eto.

02:27

Mae yna batrwm yn dechrau ymddangos ar ol dim ond tri chanlyniad yng Nghymru – pleidlais y Ceidwadwyr yn cwympo’n sylweddol, Llafur yn ei hunfan neu hyd yn oed yn colli tir, Plaid Cymru’n codi ychydig hefyd hyd yma … ond Reform sy’n gwneud gwahaniaethg.

Yng Ngorllewin Abertawe, mae’r patrwm yn cynnal ond yn fwy eithafol a Llafur yn cael ei chosbi am ddewis ymgeisydd o bell, heb ymgynghori.

02:27

02:26

Canlyniad o Orllewin Abertawe – Torsten Bell o’r Blaid Lafur yn cael ei ethol i’r sedd.

Reform yn ail yn y sedd yma gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol yn drydydd. Y Ceidwadwyr yn bumed yn yr etholaeth yma gyda Plaid Cymru’n bedwerydd. 

Roedd ymateb cymysg i ddweud y lleiaf i’r penderfyniad i ddewis Bell fel ymgeisydd yn y sedd hon.