Etholiad Cyffredinol 2024 – y canlyniadau

Yr ymateb o Gymru a thu hwnt wrth gyfrif pleidleisiau etholiad San Steffan

Croeso i Blog Byw Etholiad Cyffredinol 2024 golwg360.

Byddwn ni’n dod â’r diweddaraf i chi ar ôl i’r gorsafoedd pleidleisio gau, gan gynnwys canlyniadau, y diweddaraf o rai o’r canolfannau cyfrif, a’r holl ymateb o bob cwr o Gymru a thu hwnt.

Gydol nos Iau ac oriau mân fore Gwener, bydd criw o ohebwyr, golygyddion, colofnwyr a sylwebwyr yn dod â phigion o bob cyfeiriad ynghyd yma, ac yn cadw golwg ar y sefyllfa yng Nghymru a thu hwnt yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Yn ogystal â golygyddion a gohebwyr golwg360, bydd yr academyddion Dr Huw Lewis (Prifysgol Aberystwyth) a Dr Edward Jones (Prifysgol Bangor), colofnwyr golwg360 Huw Prys Jones a Dylan Wyn Williams, sylfaenydd Golwg Dylan Iorwerth, y sylwebydd Elin Roberts, y colofnydd ac awdur Jason Morgan, a mwy yn cynnig dadansoddiadau a sylwebaeth hefyd. A bydd ambell un mewn etholaethau ledled Cymru wrth i ni agosáu at gyhoeddi’r canlyniadau.

Prif benawdau’r etholiad:

  • Llafur wedi ennill mwyafrif yn yr Etholiad Cyffredinol, Keir Stamer ar ei ffordd i Rif 10.
  • Y darlun llawn yng Nghymru – Llafur ar 27 sedd, Plaid Cymru â phedair a’r Democratiaid Rhyddfrydol gydag un.
  • Plaid Cymru wedi cipio Ynys Môn a Chaerfyrddin, a dal gafael ar Ddwyfor Meirionnydd a Cheredigion Preseli.
  • Alun Cairns o’r Ceidwadwyr yn colli sedd Bro Morgannwg i Kanishka Narayan o Lafur
  • Llafur gydag Andrew Ranger yn cipio etholaeth Wrecsam gan Sarah Atherton o’r Ceidwadwyr
  • Canlyniad olaf Cymru – Y Ceidwadwr David TC Davies yn colli’i sedd i Lafur yn Sir Fynwy.
  • Y Democratiaid Rhyddfrydol yn cipio Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe gan y Ceidwadwyr. 

Canlyniadau llawn etholaethau unigol Cymru ar waelod ein tudalen Etholiad.

01:53

Llafur yn cipio Darlington yn ôl oddi ar y Toriaid, un o’r seddau a drodd yn las yn 2019. Ond y fuddugoliaeth i’w phriodoli’n fwy i ogwydd o’r Toriaid i Reform nag at Lafur

01:47

Disgwyl buddugoliaeth ysgubol i’r Gwyrddion yng nghanol Bryste – er na fydd y canlyniad yn cael ei gyhoeddi am o leiaf awr arall

01:47

Sedd gyntaf y noson i’r Ceidwadwyr yn Reyleigh a Wickford! Ond eu pleidlais yn cwympo’n sylweddol yno, -36%.

01:47

Dylan Wyn Williams

Sbec sydyn ar BBC One Wales lle mae Nick Servini y tu ôl i ddesg onglog mewn seiat drafod efo Felicity Evans, Gareth a’r Athro Laura McAllister, a Teleri Glyn Davies ar y soffa wadd efo Tom Giffard a Carwyn Jones yn piciad draw ar ôl cyfrannu’n Gymraeg. Rhaid deud bod stiwdio criw S4C yn ymddangos yn fwy golau eang braf. Mae’n teimlo fel gwasanaeth cenedlaethol, tra bod stamp mwy rhanbarthol ar y set Saesneg – er eu bod nhw dan yr un to yn Sgwâr Canolog Caerdydd.

Canlyniad Bro Morgannwg “o fewn chwarter mawr” medd Bethan Rhys Roberts.

01:43

Canlyniad Harrogate & Knaresborough – sedd gyntaf y noson i’r Democratiaid Rhyddfrydol ac i Tom Gordon. Pleidlais y Dems Rhydd fyny 11.5% – gogwydd o 15.8%. Ceidwadwyr yn ail (lawr 20.7) a Reform yn drydydd – turnout da o 67% fan hyn.

01:39

Democratiaid Rhyddfrydol yn cipio Harrogate oddi ar y Torîaid efo mwyafrif clir. Gogwydd oddi wrth y Toriaid atyn nhw a hefyd at Reform

01:38

Felly, y cwesiwn pwysicaf heno…beth ydy tactegau bwydo pawb dros nos i gynnal lefelau egni? Granola efo ffrwythau a choffi ydy snac sylweddol gynt’r noson fan hyn!

01:37

Gyda rhagolygon o enillion sylweddol yn ne Lloegr (dim sôn am Gymru eto) mae’n ymddangos fod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi dod yn fwy llwyddiannus am ganolbwyntio’u hymdrechion a’u hadnoddau mewn seddau lle mae ganddyn nhw obaith o ennill. Isel iawn yw eu pleidlais yn y seddau sydd wedi eu cyhoeddi hyd yma. 

01:32

Rhys Owen (Gohebydd Gwleidyddol)

Mwy am turnout (sori does na ddim llawer i ddweud ar hyn o bryd o Gymru)

Does na ddim etholaeth hyd yn hyn uwchlaw 62% o nifer sydd wedi pleidleisio. Yn 2019, roedd y ffigwr yna yn 66%.

Am y tro, dyna ni ar turnout. Mwy i ddod gan y pleidiau pen chydig.

01:26

@LeenaSFarhat yng nghyfri Ynys Môn heno:

Dwi mor falch o bobl sydd wedi bod yn ymgyrchu dros y Democratiaid Rhyddfrydol – dydi o ddim yn fater o ariannu efo ni, mae o oherwydd bod pobl wir yn poeni am y sefyllfa rydym mewn.

Ar y mater o symud ymlaen o oes y glymblaid fel mater ar y stepen ddrws, dywed ei bod hi’n “fater sy’n genhedlaethol” mewn natur. Dywed bod sgandalau’r Ceidwadwyr wedi tynnu sylw oddi ar faterion mwy hanesyddol fel y glymblaid.