Etholiad Cyffredinol 2024 – y canlyniadau

Yr ymateb o Gymru a thu hwnt wrth gyfrif pleidleisiau etholiad San Steffan

Croeso i Blog Byw Etholiad Cyffredinol 2024 golwg360.

Byddwn ni’n dod â’r diweddaraf i chi ar ôl i’r gorsafoedd pleidleisio gau, gan gynnwys canlyniadau, y diweddaraf o rai o’r canolfannau cyfrif, a’r holl ymateb o bob cwr o Gymru a thu hwnt.

Gydol nos Iau ac oriau mân fore Gwener, bydd criw o ohebwyr, golygyddion, colofnwyr a sylwebwyr yn dod â phigion o bob cyfeiriad ynghyd yma, ac yn cadw golwg ar y sefyllfa yng Nghymru a thu hwnt yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Yn ogystal â golygyddion a gohebwyr golwg360, bydd yr academyddion Dr Huw Lewis (Prifysgol Aberystwyth) a Dr Edward Jones (Prifysgol Bangor), colofnwyr golwg360 Huw Prys Jones a Dylan Wyn Williams, sylfaenydd Golwg Dylan Iorwerth, y sylwebydd Elin Roberts, y colofnydd ac awdur Jason Morgan, a mwy yn cynnig dadansoddiadau a sylwebaeth hefyd. A bydd ambell un mewn etholaethau ledled Cymru wrth i ni agosáu at gyhoeddi’r canlyniadau.

Prif benawdau’r etholiad:

  • Llafur wedi ennill mwyafrif yn yr Etholiad Cyffredinol, Keir Stamer ar ei ffordd i Rif 10.
  • Y darlun llawn yng Nghymru – Llafur ar 27 sedd, Plaid Cymru â phedair a’r Democratiaid Rhyddfrydol gydag un.
  • Plaid Cymru wedi cipio Ynys Môn a Chaerfyrddin, a dal gafael ar Ddwyfor Meirionnydd a Cheredigion Preseli.
  • Alun Cairns o’r Ceidwadwyr yn colli sedd Bro Morgannwg i Kanishka Narayan o Lafur
  • Llafur gydag Andrew Ranger yn cipio etholaeth Wrecsam gan Sarah Atherton o’r Ceidwadwyr
  • Canlyniad olaf Cymru – Y Ceidwadwr David TC Davies yn colli’i sedd i Lafur yn Sir Fynwy.
  • Y Democratiaid Rhyddfrydol yn cipio Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe gan y Ceidwadwyr. 

Canlyniadau llawn etholaethau unigol Cymru ar waelod ein tudalen Etholiad.

01:23

Jason Morgan

Lot o sïon i’w gweld ar y we a’r cyfryngau cymdeithasol. Mae Reform UK yn hyderus am ddod yn ail yn Wrecsam, gyda’r Ceidwadwr Sarah Atherton yn colli ei sedd a dod yn drydydd.

Mae Plaid Cymru i weld yn gynyddol hyderus am Gaerfyrddin ond mae hi wedi bod yn llai awyddus i drafod Ynys Môn – o ystyried record bleidleisio’r ynys bosib fod hwnnw’n gall!

Hefyd adroddiadau difyr o Lanelli. Y sôn ydi ei bod yn agos rhwng Reform UK a Llafur gyda Phlaid Cymru’n drydydd cryf.

Wrth gwrs, fel gyda holl sibrydion noson etholiad, dydyn nhw ddim o reidrwydd yn wir…!

01:23

Dylan Wyn Williams

“Y ganran isaf o bleidleiswyr” ym Môn ers etholiad 1974 – geiriau Liam Evans o Langefni rwan hyn. Ras tri cheffyl o hyd rhwng Plaid-Llafur-Ceidwadwyr ond difaterwch yn deyrn.

“Agos rhwng Llafur a Reform” yn Llanelli.

Elliw Gwawr yn dweud bod Plaid Cymru yn “obeithiol iawn” yng Nghaerfyrddin.

01:20

Bu gostyngiad o 5.5 pwynt canran ar gyfartaledd yn y ganran a bleidleisiodd ar draws y chwe etholaeth gyntaf i ddatgan eu canlyniadau. Mae diweithdra yn uchel yn yr etholaethau hyn o gymharu â rhannau eraill o’r DU.

01:15

Hywel Williams o Blaid Cymru ar S4C yn dweud ei bod yn edrych yn ‘addawol’ i’r Blaid yng Nghaeryrddin ac Ynys Môn. 

01:13

Ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol Leena Farhart wedi bod yn siarad yn y cyfri yn Ynys Môn: 

“Dwi mor falch o bobl sydd wedi bod yn ymgyrchu dros y Democratiaid Rhyddfrydol – dydi o ddim yn fater o ariannu efo ni, mae o oherwydd bod pobl wir yn poeni am y sefyllfa rydym mewn.

Ar y mater o symud ymlaen o oes y glymblaid fel mater ar y stepen ddrws, dywed ei bod hi’n “fater sy’n genhedlaethol” mewn natur.

Dywed bod sgandalau’r Ceidwadwyr wedi tynnu sylw oddi ar faterion mwy hanesyddol fel y glymblaid.

Ar y canlyniad yr etholiad yn genedlaethol, dywed ei bod hi ddim yn diystyru’r posibilrwydd o Sir Ed Davey fel arweinydd yr wrthblaid nes bod pob pleidlais wedi’u cyfri.

01:12

Cadarnhad o’r nifer sydd wedi bwrw pleidlais yn Wrecsam gan Sara Wheeler:

57.64% turnout yn Wrecsam – 40,501 o bapurau pleidlais o gyfanswm 70,269 allai fod yn pleidleisio

01:08

Gan Hana Taylor yng Nghaerffili:

52.84% turn out yng Nghaerffili!

01:04

Dylan Wyn Williams:

Cyn brif weinidog y Senedd yn sedd chwilboeth S4C. Carwyn Jones yn cael ei holi’n dwll gan Bethan Rhys Roberts ar ddiffyg ymrwymiad Starmer i ariannu teg i Gymru, celc HS2, datganoli mwy o rymoedd cyfraith a threfn. Yr Athro Richard Wyn Jones yn ei atgoffa am beth ddwedodd Jo Stevens, Aelod Seneddol Canol Caerdydd, nad oes angen “ffidlan” efo pwerau plismona.

Arwydd o’r cwestiynau caled i ddod am y berthynas rhwng Llafur Llundain a Llafur Caerdydd.

01:00

Aled Thomas, ymgeisydd y Ceidwadwyr yng Ngheredigion Preseli yn siarad ar S4C gan gydnabod ei bod hi’n noson anodd i’r Ceidwadwyr ac yn awgrymu bod angen i’r blaid yng Nghymru gael mwy o ‘bellter’ rhyngddyn nhw a’r blaid yn San Steffan.

00:55

Dr Edward Jones:

Ni all y llywodraeth newydd ganolbwyntio ar dwf economaidd yn unig, oherwydd mae’r buddion yn tueddu i beidio â llifo’n effeithiol i rannau helaeth o gymdeithas. O ran trawsnewid cymdeithas nid oes unrhyw atebion sy’n osgoi treth a gwariant.