Etholiad Cyffredinol 2024 – y canlyniadau

Yr ymateb o Gymru a thu hwnt wrth gyfrif pleidleisiau etholiad San Steffan

Croeso i Blog Byw Etholiad Cyffredinol 2024 golwg360.

Byddwn ni’n dod â’r diweddaraf i chi ar ôl i’r gorsafoedd pleidleisio gau, gan gynnwys canlyniadau, y diweddaraf o rai o’r canolfannau cyfrif, a’r holl ymateb o bob cwr o Gymru a thu hwnt.

Gydol nos Iau ac oriau mân fore Gwener, bydd criw o ohebwyr, golygyddion, colofnwyr a sylwebwyr yn dod â phigion o bob cyfeiriad ynghyd yma, ac yn cadw golwg ar y sefyllfa yng Nghymru a thu hwnt yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Yn ogystal â golygyddion a gohebwyr golwg360, bydd yr academyddion Dr Huw Lewis (Prifysgol Aberystwyth) a Dr Edward Jones (Prifysgol Bangor), colofnwyr golwg360 Huw Prys Jones a Dylan Wyn Williams, sylfaenydd Golwg Dylan Iorwerth, y sylwebydd Elin Roberts, y colofnydd ac awdur Jason Morgan, a mwy yn cynnig dadansoddiadau a sylwebaeth hefyd. A bydd ambell un mewn etholaethau ledled Cymru wrth i ni agosáu at gyhoeddi’r canlyniadau.

Prif benawdau’r etholiad:

  • Llafur wedi ennill mwyafrif yn yr Etholiad Cyffredinol, Keir Stamer ar ei ffordd i Rif 10.
  • Y darlun llawn yng Nghymru – Llafur ar 27 sedd, Plaid Cymru â phedair a’r Democratiaid Rhyddfrydol gydag un.
  • Plaid Cymru wedi cipio Ynys Môn a Chaerfyrddin, a dal gafael ar Ddwyfor Meirionnydd a Cheredigion Preseli.
  • Alun Cairns o’r Ceidwadwyr yn colli sedd Bro Morgannwg i Kanishka Narayan o Lafur
  • Llafur gydag Andrew Ranger yn cipio etholaeth Wrecsam gan Sarah Atherton o’r Ceidwadwyr
  • Canlyniad olaf Cymru – Y Ceidwadwr David TC Davies yn colli’i sedd i Lafur yn Sir Fynwy.
  • Y Democratiaid Rhyddfrydol yn cipio Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe gan y Ceidwadwyr. 

Canlyniadau llawn etholaethau unigol Cymru ar waelod ein tudalen Etholiad.

00:49

Sara Wheeler wedi bod yn sgwrsio gyda Tim Green, ymgeisydd y Gwyrddion yn Wrecsam:

Mae heno wedi bod yn ddiddorol iawn, gweld y broses ayyb. Dyma fy nhro gyntaf yn sefyll, dw i wastad wedi pleidleisio o’r blaen, ond dyma fy nhro gyntaf fel ymgeisydd.

Tydan ni ddim yn disgwyl wneud yn dda iawn heno yma – mae’n rhwystredig achos mae pobl yn dweud eu bod nhw yn deall y materion ac yn cytuno gyda’r polisiau OND…ac mae yna wastad OND – tydach chi ddim yn mynd i ennill nac ydych? A’r prif consyrn gan rhan fwyaf o bobl yw i gael y toriaid allan, dyna mae pobl yn poeni amdanno, ac felly mae yna pleidleisio tacdegol.

A chi’n gwybod mae hi mor bwysig i ni ddechrau gwneud rhywbeth rwan – tydi hi ddim o bwys bai pwy ydi o, y cenhedlaeth nesaf sydd yn mynd i ddioddef, gan fod yn llai iach – dw i yn gweithio yn maes iechyd, felly dw i yn gweld iechyd y cyhoedd yn dirywio.

A be dw i eisiau gwybod yw sut fedre ni sicrhau fod fwy o’ pobl sydd yn credu yn ein polisiau ac yn deall y materion yn pleidleisio hefo ni. Sut fedre ni gael i mewn i’r Senedd a dechrau gwneud gwahaniaeth.

00:48

Tra ein bod yn aros am fwy o ganlyniadau mae’n werth nodi y gallai heno fod yn noson ddiddorol yng Ngogledd Iwerddon. 

Nol yn 2019 enillodd Sinn Féin saith sedd yn San Steffan, un yn llai na’r DUP, y brif blaid unoliaethol.

Fodd bynnag, mae’r DUP ar chwâl ar hyn o bryd yn dilyn ymadawiad disymwth Jeffery Donaldson o’r arweinyddiaeth ac fe allai golli tir eleni, er enghraifft yn sedd Dwyrain Belfast ble mae Gavin Robertson yn cael ei herio gan Naomi Long arweinydd plaid yr Alliance.

O ganlyniad, hyd yn oed os mai dim ond adennill yr un saith wnaiff Sinn Féin heno, gallai orffen fel plaid fwyaf Gogledd Iwerddon yn San Steffan.

Byddai hyn yn nodi ‘hatric’ o fuddugoliaethau etholiadol i Sinn Féin – hi fyddai’r blaid fwyaf yn Senedd San Steffan, yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon a hefyd ar lefel llywodraeth leol yng Ngogledd Iwerddon.

Amser a ddengys …

00:43

Dylan Wyn Willams

Dyfyniad y noson hyd yma gan Alastair Campbell ar C4: “Honestly Nadine (Dorries), you’ve got to get over Boris Johnson!”

00:42

Canlyniad o Ganol a Gorllewin Newcastle – Llafur yn cadw. Chi Onwurah – 18,875, gyda Reform yn ail (7,815)

00:39

Mae marchnadoedd ariannol yn debygol o gael eu calonogi gan y posibilrwydd o ganlyniad etholiad clir. Gyda’r etholiadau yn Ffrainc a’r Unol Daleithiau yn achosi llawer o ansicrwydd, mae’n bosibl y bydd y DU yn fuan mewn sefyllfa anarferol o sefyll allan am ei sefydlogrwydd gwleidyddol a chyllidol.

00:35

Plaid Cymru am fod ar bigau’r drain am yr oriau nesaf. Yr unig ffordd y gallan nhw gael pedair sedd, fel sy’n cael ei ddarogan, fydd trwy ennill Môn a Chaerfyrddin. Heb wybodaeth benodol am y ddwy etholaeth yma, dydi’r rhagolygon yn golygu dim. Sioned Williams yn rhyfeddol o ochelgar ar BBC Cymru, yn mynnu y byddai dal dwy sedd yn unig yn llwyddiant ynddo’i hun.

00:32

Mae Reform yn dweud ei bod hi’n “anodd dweud sut mae’n mynd” iddyn nhw yng Nghaerffili, yn ôl Hana Taylor.

Mae hi wedi bod yn siarad â’r ymgeisydd Joshua Kim yno, ac mae hwnnw’n dweud eu bod nhw’n disgwyl dod yn drydydd o leiaf.

“Nid Llafur yw’r ateb” yw ei neges yno, meddai.

Mae disgwyl i’r blaid berfformio’n dda yn ardaloedd Cymoedd y De – mae yna reswm pam eu bod nhw wedi dewis lansio’u hymgyrch ym Merthyr, cofiwch…

00:26

Dylan Wyn Williams

Gyda drama’r canlyniadau yng Nghymru rhyw ddwy awr i ffwrdd, beth am ystyried rhai o wleidyddon ffuglennol mwya cofiadwy ar y bocs. Roedd Byw Celwydd (2016-18) yn hynod boblogaidd ar nosweithiau Sul, lle’r Ffion Gwallt Dafis yn actio arweinydd y Cenedlaetholwyr, Mark Lewis Jones yn un o’r Democratiaid a Richard Elfyn yn ei elfen fel y Snichyn o fos Ceidwadol yn y Bae. Roedd y ffin rhwng gwir a gau yn denau iawn, gyda Mathew Gravelle y SpAD yr un sbit â Stephen Kinnock, a gwerthwyd y gyfres i’r Almaen a’r Swistir.

Denmarc oedd canolbwynt un o oreuon BBC Four, Borgen, lle gwelsom Birgitte Nyborg yn llamu i’r brig fel Statsminister benywaidd cyntaf Denmarc ar draul ei bywyd teuluol. Roedd ganddi gryn heriau, o ffermwyr moch anniddig i alwadau gan pobl yr Ynys Las am fwy o annibyniaeth, wrth i’w staff Kasper a Katrine garu a checru bob wythnos.

Ond y diweddaraf sydd wedi hoelio’r sylw ydi Pandora o Wlad Belg gan wasanaeth ffrydio Walter Presents/C4, lle mae gwleidydd a barnwres (Mark Van Dyck a Claire Delval) yn mynd ben-ben wedi ymosodiad rhywiol ger swyddfeydd y darpar lywodraeth. Mae’r tensiynau rhwng carfanau Fflemeg a Ffrengig y wlad yn ychwanegu at chwip o gyfres â graffeg a cherddoriaeth agoriadol sydd gyda’r gorau a welais yn ddiweddar.

00:25

Jason Morgan

O ystyried yr ychydig wybodaeth sydd gennym hyd yma, dwi dal am fentro dweud bod yna ddau bosibiliad difyr yng Nghymru:

Yn gyntaf, o ystyried bod natur yr etholwyr yng Nghymru ddim yn gwbl annhebyg i ogledd Lloegr, gallai’r tri chanlyniad cyntaf a gyhoeddwyd fod yn gliw i ddyfalu perfformiad Reform mewn nifer o rannau o Gymru, i’r graddau dydi hi ddim y tu hwnt i realiti y gallai’r blaid honno oddiweddyd y Ceidwadwyr o ran pleidleisiau a dod yn ail.

Ac yn ail, mae’n gwbl bosib y bydd Llafur, am y tro cyntaf ers cenedlaethau, wedi gwneud yn waeth yng Nghymru nag yn Lloegr, yn enwedig os ydi Reform yma’n dwyn pleidleisiau oddi arnynt yn eu cadarnleoedd, yn enwedig yn y Cymoedd a’r dinasoedd.

Byddai’r naill neu’r llall yn hanesyddol – efallai’n annhebygol, ond yn sicr yn bosib.

00:24

Mae canlyniad Swindon South yn arwyddocaol, nid yn unig gan fod y cyn-weinidog Ceidwadol Robert Buckland wedi colli ei sedd.

Dyma un o’r seddi ‘swing’ traddodiadol sy’n aml yn newid dwylo pan fo’r etholiad yn arwain at ethol llywodraeth newydd ac felly mae gweld Llafur yn cipio’r sedd hon yn gadarnhad pellach ei bod ar ei ffordd at fuddugoliaeth glir.