Etholiad Cyffredinol 2024 – y canlyniadau

Yr ymateb o Gymru a thu hwnt wrth gyfrif pleidleisiau etholiad San Steffan

Croeso i Blog Byw Etholiad Cyffredinol 2024 golwg360.

Byddwn ni’n dod â’r diweddaraf i chi ar ôl i’r gorsafoedd pleidleisio gau, gan gynnwys canlyniadau, y diweddaraf o rai o’r canolfannau cyfrif, a’r holl ymateb o bob cwr o Gymru a thu hwnt.

Gydol nos Iau ac oriau mân fore Gwener, bydd criw o ohebwyr, golygyddion, colofnwyr a sylwebwyr yn dod â phigion o bob cyfeiriad ynghyd yma, ac yn cadw golwg ar y sefyllfa yng Nghymru a thu hwnt yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Yn ogystal â golygyddion a gohebwyr golwg360, bydd yr academyddion Dr Huw Lewis (Prifysgol Aberystwyth) a Dr Edward Jones (Prifysgol Bangor), colofnwyr golwg360 Huw Prys Jones a Dylan Wyn Williams, sylfaenydd Golwg Dylan Iorwerth, y sylwebydd Elin Roberts, y colofnydd ac awdur Jason Morgan, a mwy yn cynnig dadansoddiadau a sylwebaeth hefyd. A bydd ambell un mewn etholaethau ledled Cymru wrth i ni agosáu at gyhoeddi’r canlyniadau.

Prif benawdau’r etholiad:

  • Llafur wedi ennill mwyafrif yn yr Etholiad Cyffredinol, Keir Stamer ar ei ffordd i Rif 10.
  • Y darlun llawn yng Nghymru – Llafur ar 27 sedd, Plaid Cymru â phedair a’r Democratiaid Rhyddfrydol gydag un.
  • Plaid Cymru wedi cipio Ynys Môn a Chaerfyrddin, a dal gafael ar Ddwyfor Meirionnydd a Cheredigion Preseli.
  • Alun Cairns o’r Ceidwadwyr yn colli sedd Bro Morgannwg i Kanishka Narayan o Lafur
  • Llafur gydag Andrew Ranger yn cipio etholaeth Wrecsam gan Sarah Atherton o’r Ceidwadwyr
  • Canlyniad olaf Cymru – Y Ceidwadwr David TC Davies yn colli’i sedd i Lafur yn Sir Fynwy.
  • Y Democratiaid Rhyddfrydol yn cipio Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe gan y Ceidwadwyr. 

Canlyniadau llawn etholaethau unigol Cymru ar waelod ein tudalen Etholiad.

00:01

Mwy gan Hana Taylor yng Nghaerffili:

Mae hi wedi bod yn siarad â Brandon Gorman, ymgeisydd y Ceidwadwyr.

Mae’r bobol wedi siarad, a dyna’r peth pwysig. Dydy’r canlyniadau ddim fel oedden ni’n disgwyl iddyn nhw edrych.

23:55

Mae Rhys Owen, ein Gohebydd Gwleidyddol, hefyd yn trydar draw ar Rhys Owen (@RhysOwen1234) / X – dilynwch ei ddiweddariadau yn y fan honno hefyd.

23:52

Draw ar #C4BritainDecides, mae’r cyfranwyr o Syr Vince Cable (Dem Rhydd) i Mhairie Black (SNP) yn poeni’n arw am ail safle Reform yn y ddwy etholaeth a gadarnhawyd hyd yma sydd, fel y nododd y cyflwynydd Emily Maitlis, yn dwyn pleidleisiau Llafur heb sôn am y Torïaid disgwyliedig.

Ac wele ddadl ffyrnig rhwng Alastair Campbell a’r cyn-Weinidog Ceidwadol Nadhim Zahawi, gyda Nadine Dorries (cofio hi?) yn torri ar draws yn gyson.

23:47

Mae Hana Taylor, myfyrwraig Newyddiaduraeth yn JOMEC ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi bod yn siarad â Phlaid Cymru yng Nghaerffili.

Dydyn nhw ddim yn disgwyl ennill heno gan fod eu pleidleisiau wedi disgyn yn gyson dros y blynyddoedd. Ond maen nhw’n gobeithio cynyddu eu cyfran y tro hwn, meddai ffynhonnell wrth golwg360.

23:44

Rhys Owen (Gohebydd Gwleidyddol) 

Wedi bod yn siarad â swyddog cyfathrebu o fewn Plaid Cymru sydd yn dweud bod yr arolygon “yn edrych yn bositif”, ond ddim yn barod i alw Caerfyrddin nag Ynys Môn.

Dywed bod yn wyneb y “don goch” sydd i’w weld gan Lafur bydd ennill yng Ngheredigion Preseli a Dwyfor Meirionydd yn “llwyddiant” hefyd. 

23:39

Sibrydion fod cyn-ysgrifennydd Cymru Robert Buckland wedi colli ei sedd yn Swindon

23:35

Llafur yn dal cadarnle arall yng ngogledd-ddwyrain Lloegr, ond gogwydd bach iawn atynt. Reform yn ail gweddol, ac yn sylweddol ar y blaen i’r Torïaid.

23:34

Rhys Owen (Gohebydd Gwleidyddol)

Aelod tu fewn i’r Blaid Lafur yn chwarae lawr unrhyw debygolrwydd difrifol o golli yng Nghaerfyrddin ac Ynys Môn.

23:32

Mae Sara Louise Wheeler yn Wrecsam yn dweud bod Ian Bancroft, y Swyddog Canlyniadau yn Wrecsam, newydd gadarnhau bod y bocs papurau olaf wedi’i dderbyn.

23:30

Rhywbeth allai fod yn nodedig am Sunderland ydi nid y canlyniad ei hun ond y niferoedd drodd allan i fwrw pleidlais – gostyngiad o 6% oddi ar 2019. Mae’n annoeth cymhwyso hynny ar lefel genedlaethol heb sôn am un Gymreig, ond os ydi’r duedd honno’n parhau mae’n debyg mai Ceidwadwyr arhosodd adref, sy’n gwneud gwaith Llafur yn haws, gan gynnwys yng Nghymru.

Fodd bynnag, os ydi’r adroddiadau’n gywir fod Llafur wedi gweld gostyngiad bach yn eu pleidlais yma, gallai’n hawdd awgrymu mwyafrifoedd llai a chanlyniadau agos mewn ambell etholaeth, ac o bosib Llafurwyr hefyd yn aros adref.