Etholiad Cyffredinol 2024 – y canlyniadau

Yr ymateb o Gymru a thu hwnt wrth gyfrif pleidleisiau etholiad San Steffan

Croeso i Blog Byw Etholiad Cyffredinol 2024 golwg360.

Byddwn ni’n dod â’r diweddaraf i chi ar ôl i’r gorsafoedd pleidleisio gau, gan gynnwys canlyniadau, y diweddaraf o rai o’r canolfannau cyfrif, a’r holl ymateb o bob cwr o Gymru a thu hwnt.

Gydol nos Iau ac oriau mân fore Gwener, bydd criw o ohebwyr, golygyddion, colofnwyr a sylwebwyr yn dod â phigion o bob cyfeiriad ynghyd yma, ac yn cadw golwg ar y sefyllfa yng Nghymru a thu hwnt yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Yn ogystal â golygyddion a gohebwyr golwg360, bydd yr academyddion Dr Huw Lewis (Prifysgol Aberystwyth) a Dr Edward Jones (Prifysgol Bangor), colofnwyr golwg360 Huw Prys Jones a Dylan Wyn Williams, sylfaenydd Golwg Dylan Iorwerth, y sylwebydd Elin Roberts, y colofnydd ac awdur Jason Morgan, a mwy yn cynnig dadansoddiadau a sylwebaeth hefyd. A bydd ambell un mewn etholaethau ledled Cymru wrth i ni agosáu at gyhoeddi’r canlyniadau.

Prif benawdau’r etholiad:

  • Llafur wedi ennill mwyafrif yn yr Etholiad Cyffredinol, Keir Stamer ar ei ffordd i Rif 10.
  • Y darlun llawn yng Nghymru – Llafur ar 27 sedd, Plaid Cymru â phedair a’r Democratiaid Rhyddfrydol gydag un.
  • Plaid Cymru wedi cipio Ynys Môn a Chaerfyrddin, a dal gafael ar Ddwyfor Meirionnydd a Cheredigion Preseli.
  • Alun Cairns o’r Ceidwadwyr yn colli sedd Bro Morgannwg i Kanishka Narayan o Lafur
  • Llafur gydag Andrew Ranger yn cipio etholaeth Wrecsam gan Sarah Atherton o’r Ceidwadwyr
  • Canlyniad olaf Cymru – Y Ceidwadwr David TC Davies yn colli’i sedd i Lafur yn Sir Fynwy.
  • Y Democratiaid Rhyddfrydol yn cipio Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe gan y Ceidwadwyr. 

Canlyniadau llawn etholaethau unigol Cymru ar waelod ein tudalen Etholiad.

23:32

Mae Sara Louise Wheeler yn Wrecsam yn dweud bod Ian Bancroft, y Swyddog Canlyniadau yn Wrecsam, newydd gadarnhau bod y bocs papurau olaf wedi’i dderbyn.

23:30

Rhywbeth allai fod yn nodedig am Sunderland ydi nid y canlyniad ei hun ond y niferoedd drodd allan i fwrw pleidlais – gostyngiad o 6% oddi ar 2019. Mae’n annoeth cymhwyso hynny ar lefel genedlaethol heb sôn am un Gymreig, ond os ydi’r duedd honno’n parhau mae’n debyg mai Ceidwadwyr arhosodd adref, sy’n gwneud gwaith Llafur yn haws, gan gynnwys yng Nghymru.

Fodd bynnag, os ydi’r adroddiadau’n gywir fod Llafur wedi gweld gostyngiad bach yn eu pleidlais yma, gallai’n hawdd awgrymu mwyafrifoedd llai a chanlyniadau agos mewn ambell etholaeth, ac o bosib Llafurwyr hefyd yn aros adref.

23:25

Mae De Sunderland, lle daeth Reform yn ail, yn ardal gyda diweithdra dros 4% ac mae bron i un o bob tri eiddo yn dai cymdeithasol, medd Dr Edward Jones.

23:20

Owain Sion (Gohebydd Môn360) a Rhys Owen (Gohebydd Gwleidyddol) wedi clywed bod Virgina Crosbie yn anhebygol o wneud cyfweliad efo neb heno… arwydd o noson ddrwg i’r Ceidwadwyr ar yr Ynys.

23:19

Os felly, perfformiad Reform yn Sunderland yn arwydd o’r hyn i ddod yng nghymoedd y de?

Lowri Jones
Lowri Jones

Nid jyst yng nghymoedd y de…

Mae’r sylwadau wedi cau.

23:17

Y canlyniad cyntaf – Llafur yn cadw un o seddau Sunderland yng ngogledd-ddwyrain Lloegr. Reform yn ail da. Tybed ydi o’n arwydd y byddan nhw wedi cymryd pleidleisiau oddi ar Lafur yn ogystal â’r Toriaid?

23:16

Rhys Owen (Gohebydd Gwleidyddol)

Mae Andrea Leadsom wedi ceisio troelli y canlyniad sydd ar y gweill fel “clod enfawr” i ddemocratiaeth oherwydd bod y gwahaniaeth o ganlyniad 2019 i heno yn rywbeth sydd yn arwyddocaol o ddemocratiaeth sydd yn parhau i “fyw”. 

Fel mae sbin yn mynd, chwarae teg. 

23:15

Canlyniad cynta’r noson

Houghton a De Sunderland yw’r etholaeth gyntaf i ddatgan eu canlyniad. Llafur wedi dal gafael ar y sedd.

23:15

John Curtice yn dweud bod y cwymp yng nghefnogaeth yr SNP yn waeth na’r hyn oedd y poliau wedi eu darogan. Ond yntau hefyd yn rhybuddio nad yw’r ffigurau yn rhy ddibynadwy ar hyn o bryd. Un sylw diddorol arall ganddo oedd bod cefnogaeth yr SNP wedi gostwng llai yn yr ardaloedd lle’r oedd hunaniaeth Albanaidd gryfaf.

23:13

Mae canlyniad y pôl ymadael yn argoeli’n dda iawn i Lafur o ran cyfanswm seddi gan awgrymu bod y blaid ar ei ffordd i sicrhau mwyafrif ysgubol  o yn San Steffan. Fodd bynnag nid oes sicrwydd y bydd y ganran o’r bleidlais y mae’r blaid yn llwyddo i’w sicrhau yr un mor ysgubol.

Un posibilrwydd o ystyried tuedd yr arolygon barn dros yr wythnosau diwethaf yw y gallai Llafur sicrhau mwyafrif sylweddol o seddi tra’n sicrhau tua 40% o’r bleidlais, sy’n reit agos at yr hyn enillodd nol yn 2017 dan arweinyddiaeth Jeremy Corbyn.

Pe bai hyn yn digwydd byddai’n adlewyrchu’r modd y mae’r bleidlais Lafur wedi’i dosbarthu’n effeithiol ar draws Prydain, sy’n fantais eithriadol pan yn ymladd etholiad o dan y drefn bleidleisio cyntaf i’r felin.