Etholiad Cyffredinol 2024 – y canlyniadau

Yr ymateb o Gymru a thu hwnt wrth gyfrif pleidleisiau etholiad San Steffan

Croeso i Blog Byw Etholiad Cyffredinol 2024 golwg360.

Byddwn ni’n dod â’r diweddaraf i chi ar ôl i’r gorsafoedd pleidleisio gau, gan gynnwys canlyniadau, y diweddaraf o rai o’r canolfannau cyfrif, a’r holl ymateb o bob cwr o Gymru a thu hwnt.

Gydol nos Iau ac oriau mân fore Gwener, bydd criw o ohebwyr, golygyddion, colofnwyr a sylwebwyr yn dod â phigion o bob cyfeiriad ynghyd yma, ac yn cadw golwg ar y sefyllfa yng Nghymru a thu hwnt yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Yn ogystal â golygyddion a gohebwyr golwg360, bydd yr academyddion Dr Huw Lewis (Prifysgol Aberystwyth) a Dr Edward Jones (Prifysgol Bangor), colofnwyr golwg360 Huw Prys Jones a Dylan Wyn Williams, sylfaenydd Golwg Dylan Iorwerth, y sylwebydd Elin Roberts, y colofnydd ac awdur Jason Morgan, a mwy yn cynnig dadansoddiadau a sylwebaeth hefyd. A bydd ambell un mewn etholaethau ledled Cymru wrth i ni agosáu at gyhoeddi’r canlyniadau.

Prif benawdau’r etholiad:

  • Llafur wedi ennill mwyafrif yn yr Etholiad Cyffredinol, Keir Stamer ar ei ffordd i Rif 10.
  • Y darlun llawn yng Nghymru – Llafur ar 27 sedd, Plaid Cymru â phedair a’r Democratiaid Rhyddfrydol gydag un.
  • Plaid Cymru wedi cipio Ynys Môn a Chaerfyrddin, a dal gafael ar Ddwyfor Meirionnydd a Cheredigion Preseli.
  • Alun Cairns o’r Ceidwadwyr yn colli sedd Bro Morgannwg i Kanishka Narayan o Lafur
  • Llafur gydag Andrew Ranger yn cipio etholaeth Wrecsam gan Sarah Atherton o’r Ceidwadwyr
  • Canlyniad olaf Cymru – Y Ceidwadwr David TC Davies yn colli’i sedd i Lafur yn Sir Fynwy.
  • Y Democratiaid Rhyddfrydol yn cipio Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe gan y Ceidwadwyr. 

Canlyniadau llawn etholaethau unigol Cymru ar waelod ein tudalen Etholiad.

23:19

Os felly, perfformiad Reform yn Sunderland yn arwydd o’r hyn i ddod yng nghymoedd y de?

Lowri Jones
Lowri Jones

Nid jyst yng nghymoedd y de…

Mae’r sylwadau wedi cau.

23:17

Y canlyniad cyntaf – Llafur yn cadw un o seddau Sunderland yng ngogledd-ddwyrain Lloegr. Reform yn ail da. Tybed ydi o’n arwydd y byddan nhw wedi cymryd pleidleisiau oddi ar Lafur yn ogystal â’r Toriaid?

23:16

Rhys Owen (Gohebydd Gwleidyddol)

Mae Andrea Leadsom wedi ceisio troelli y canlyniad sydd ar y gweill fel “clod enfawr” i ddemocratiaeth oherwydd bod y gwahaniaeth o ganlyniad 2019 i heno yn rywbeth sydd yn arwyddocaol o ddemocratiaeth sydd yn parhau i “fyw”. 

Fel mae sbin yn mynd, chwarae teg. 

23:15

Canlyniad cynta’r noson

Houghton a De Sunderland yw’r etholaeth gyntaf i ddatgan eu canlyniad. Llafur wedi dal gafael ar y sedd.

23:15

John Curtice yn dweud bod y cwymp yng nghefnogaeth yr SNP yn waeth na’r hyn oedd y poliau wedi eu darogan. Ond yntau hefyd yn rhybuddio nad yw’r ffigurau yn rhy ddibynadwy ar hyn o bryd. Un sylw diddorol arall ganddo oedd bod cefnogaeth yr SNP wedi gostwng llai yn yr ardaloedd lle’r oedd hunaniaeth Albanaidd gryfaf.

23:13

Mae canlyniad y pôl ymadael yn argoeli’n dda iawn i Lafur o ran cyfanswm seddi gan awgrymu bod y blaid ar ei ffordd i sicrhau mwyafrif ysgubol  o yn San Steffan. Fodd bynnag nid oes sicrwydd y bydd y ganran o’r bleidlais y mae’r blaid yn llwyddo i’w sicrhau yr un mor ysgubol.

Un posibilrwydd o ystyried tuedd yr arolygon barn dros yr wythnosau diwethaf yw y gallai Llafur sicrhau mwyafrif sylweddol o seddi tra’n sicrhau tua 40% o’r bleidlais, sy’n reit agos at yr hyn enillodd nol yn 2017 dan arweinyddiaeth Jeremy Corbyn.

Pe bai hyn yn digwydd byddai’n adlewyrchu’r modd y mae’r bleidlais Lafur wedi’i dosbarthu’n effeithiol ar draws Prydain, sy’n fantais eithriadol pan yn ymladd etholiad o dan y drefn bleidleisio cyntaf i’r felin.

23:10

Mae’r SNP yn debygol o golli 38 sedd, er bod economi’r Alban wedi llwyddo i osgoi dirwasgiad technegol yn 2023 – yn wahanol i’r Deyrnas Unedig gyfan.

23:07

Er bod disgwyl i Lafur gipio buddugoliaeth ysgubol yn y ras am allweddi Rhif 10 Downing Street, mae eu cyfran o’r bleidlais i lawr 2% yng Nghymru, yn ôl adroddiadau.

23:01

Mae faint o ddifrod a wnaiff Reform i’r Toriaid am ddibynnu ar ddau ffactor allweddol – cyfanswm eu pleidleisiau ledled Prydain, ac a fydd Nigel Farage yn ennill sedd, ac mae hynny’n ymddangos yn debygol ar hyn o bryd. Mi fydd yn sicr yn ddraenen barhaus yn ystlys pwy bynnag Dori fydd digon gwirion i gymryd y dasg amhosibl o’u harwain. Ar y llaw arall mi fyddai’n rhaid i’r Toriaid fod yn llythrennol ar eu cefnau cyn y bydden nhw’n gwahodd Farage atyn nhw i’w hachub.

22:59

Jason Morgan

Un peth i’w nodi – os ydi’r pôl ola’n agos ati mae rhywun yn teimlo, er gwaetha’r ffaith na hwnnw fyddai’r canlyniad gwaethaf i’r Ceidwadwyr erioed, nad ydi’r blaid wedi cael ei chwalu’n llwyr. Mae ’na dal le iddi ail-adeiladu â thua 130 sedd. Ond efallai’n bwysicach mae’n gwneud i unrhyw ddêl â Reform UK, neu’r hostile takeover mae Farage yn gobeithio’i gyflawni, yn llai tebygol o lawer yn fy marn i.

Wrth gwrs, gallai hynny ddibynnu ar yn union ba Geidwadwyr fydd yn dal eu seddi. Gallai’r frwydr fewnol rhwng Torïaid cymedrol ac asgell dde’r blaid fod yn un werth i’w gwylio dros y misoedd nesaf.