Etholiad Cyffredinol 2024 – y canlyniadau

Yr ymateb o Gymru a thu hwnt wrth gyfrif pleidleisiau etholiad San Steffan

Croeso i Blog Byw Etholiad Cyffredinol 2024 golwg360.

Byddwn ni’n dod â’r diweddaraf i chi ar ôl i’r gorsafoedd pleidleisio gau, gan gynnwys canlyniadau, y diweddaraf o rai o’r canolfannau cyfrif, a’r holl ymateb o bob cwr o Gymru a thu hwnt.

Gydol nos Iau ac oriau mân fore Gwener, bydd criw o ohebwyr, golygyddion, colofnwyr a sylwebwyr yn dod â phigion o bob cyfeiriad ynghyd yma, ac yn cadw golwg ar y sefyllfa yng Nghymru a thu hwnt yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Yn ogystal â golygyddion a gohebwyr golwg360, bydd yr academyddion Dr Huw Lewis (Prifysgol Aberystwyth) a Dr Edward Jones (Prifysgol Bangor), colofnwyr golwg360 Huw Prys Jones a Dylan Wyn Williams, sylfaenydd Golwg Dylan Iorwerth, y sylwebydd Elin Roberts, y colofnydd ac awdur Jason Morgan, a mwy yn cynnig dadansoddiadau a sylwebaeth hefyd. A bydd ambell un mewn etholaethau ledled Cymru wrth i ni agosáu at gyhoeddi’r canlyniadau.

Prif benawdau’r etholiad:

  • Llafur wedi ennill mwyafrif yn yr Etholiad Cyffredinol, Keir Stamer ar ei ffordd i Rif 10.
  • Y darlun llawn yng Nghymru – Llafur ar 27 sedd, Plaid Cymru â phedair a’r Democratiaid Rhyddfrydol gydag un.
  • Plaid Cymru wedi cipio Ynys Môn a Chaerfyrddin, a dal gafael ar Ddwyfor Meirionnydd a Cheredigion Preseli.
  • Alun Cairns o’r Ceidwadwyr yn colli sedd Bro Morgannwg i Kanishka Narayan o Lafur
  • Llafur gydag Andrew Ranger yn cipio etholaeth Wrecsam gan Sarah Atherton o’r Ceidwadwyr
  • Canlyniad olaf Cymru – Y Ceidwadwr David TC Davies yn colli’i sedd i Lafur yn Sir Fynwy.
  • Y Democratiaid Rhyddfrydol yn cipio Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe gan y Ceidwadwyr. 

Canlyniadau llawn etholaethau unigol Cymru ar waelod ein tudalen Etholiad.

23:07

Er bod disgwyl i Lafur gipio buddugoliaeth ysgubol yn y ras am allweddi Rhif 10 Downing Street, mae eu cyfran o’r bleidlais i lawr 2% yng Nghymru, yn ôl adroddiadau.

23:01

Mae faint o ddifrod a wnaiff Reform i’r Toriaid am ddibynnu ar ddau ffactor allweddol – cyfanswm eu pleidleisiau ledled Prydain, ac a fydd Nigel Farage yn ennill sedd, ac mae hynny’n ymddangos yn debygol ar hyn o bryd. Mi fydd yn sicr yn ddraenen barhaus yn ystlys pwy bynnag Dori fydd digon gwirion i gymryd y dasg amhosibl o’u harwain. Ar y llaw arall mi fyddai’n rhaid i’r Toriaid fod yn llythrennol ar eu cefnau cyn y bydden nhw’n gwahodd Farage atyn nhw i’w hachub.

22:59

Jason Morgan

Un peth i’w nodi – os ydi’r pôl ola’n agos ati mae rhywun yn teimlo, er gwaetha’r ffaith na hwnnw fyddai’r canlyniad gwaethaf i’r Ceidwadwyr erioed, nad ydi’r blaid wedi cael ei chwalu’n llwyr. Mae ’na dal le iddi ail-adeiladu â thua 130 sedd. Ond efallai’n bwysicach mae’n gwneud i unrhyw ddêl â Reform UK, neu’r hostile takeover mae Farage yn gobeithio’i gyflawni, yn llai tebygol o lawer yn fy marn i.

Wrth gwrs, gallai hynny ddibynnu ar yn union ba Geidwadwyr fydd yn dal eu seddi. Gallai’r frwydr fewnol rhwng Torïaid cymedrol ac asgell dde’r blaid fod yn un werth i’w gwylio dros y misoedd nesaf.  

22:58

Un peth i’w nodi – os ydi’r pôl ola’n agos ati mae rhywun yn teimlo, er gwaetha’r ffaith na hwnnw fyddai’r canlyniad gwaethaf i’r Ceidwadwyr erioed, nad ydi’r blaid wedi cael ei chwalu’n llwyr. Mae ’na dal le iddi ail-adeiladu â thua 130 sedd. Ond efallai’n bwysicach mae’n gwneud i unrhyw ddêl â Reform UK, neu’r hostile takeover mae Farage yn gobeithio’i gyflawni, yn llai tebygol o lawer yn fy marn i.

Wrth gwrs, gallai hynny ddibynnu ar yn union ba Geidwadwyr fydd yn dal eu seddi. Gallai’r frwydr fewnol rhwng Torïaid cymedrol ac asgell dde’r blaid fod yn un werth i’w gwylio dros y misoedd nesaf.  

22:52

Elfen arall o ddatganoli ydi bod Jeremy Vine, “swltan y swingometer” chwadal BBC Wales, yn gweithio o Gaerdydd eleni. Ac mae’r map rhyngweithiol o’r Deyrnas Unedig fel bydysawd arall o gymharu â dyddiau’r pyndit David Butler a’i ddiagram saeth a map cardbord ym 1965. Ac fel y dengys fideo Cymru Fyw, mae’r Bonwr Vine yn “mwynhau fy amser i yn BBC Cardiff” ac wedi bod yn ymarfer adrodd rhai o’n hetholaethau ni gan gynnwys “Caerfyrddin” a’r ffaith bod “Torfaen” yn odli gyda’i gyfenw ei hun.

Gall ddysgu llawer i Mark Austin Sky News wnaeth fethu’n rhacs efo’i ‘Plaid Cwm-ray’ wythnos diwethaf.

Bydd adran graffeg BBC Cymru wrthi fel slecs heno, gan ein bod wedi gweld Daniel Davies yn symud o Tŷ’r Cyffredin rithwir i hongliad o 10 Downing Street g’neud i bwysleisio’r fath gagendor rhwng Keir Starmer a Rishi Sunak os ydi’r pol pinwn ola’n gywir.

22:51

Anthony Slaughter, arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, yn siarad efo’n Gohebydd Gwleidyddol, Rhys Owen:

“Dwi’n meddwl ei bod hi’n gydnabyddiaeth gadarnhaol o’r gwaith sydd wedi cael ei wneud yng Nghanol Bryste gan Carla Denyer.

“Bydd Bryste yn newid y gwelediad yn gyfan gwbl yng Nghymru, ac yn enwedig yng Nghaerdydd.

“Dwi yn hyderus bydd y blaid yn gallu ennill yn Ogledd Sir Henffordd hefyd.”

22:48

Nicola Sturgeon yn cyfaddef na fydd yn “noson dda” i’r SNP heno.

Yn ôl yr arolwg ymadael, bydd nifer o seddi’r SNP yn syrthio o 48 i 10, ac y lleiaf ers 2010 pan enillon nhw chwe sedd yn unig. 

Wrth siarad ar ITV, dywedodd cyn-arweinydd yr SNP, “Nid yw hon yn noson dda i’r SNP ar y canlyniadau hyn.

“Rwy’n meddwl y bydd cwestiwn a oedd digon yn yr ymgyrch, i bob pwrpas, i roi llais unigryw i’r SNP mewn etholiad a oedd yn ymwneud â chael y Torïaid allan a’u disodli â Llafur.”

22:47

O gymharu â rhai arolygon barn yr wythnos neu ddwy ddiwethaf, dydi’r exit poll ddim yn ymddangos  llawn mor drychinebus i’r Torīaid ag y gallai fod. Codi bwganod am Lafur wedi dal ychydig ar y llanw’n ôl efallai? Reform efo mwy o seddau na’r disgwyl, ond pe bai eu cyfanswm eu pleidlais wedi codi gymaint ag oedd rhai o’r poliau diweddar yn awgrymu, byddai cyfanswm seddau’r Toriaid i lawr yn dipyn is. Mae arbenigwyr yn rhybuddio y gallai nifer seddau Reform fod yn is na’r 13 a awgrymir hefyd. Os caiff y Toriaid 131 o seddau bydd eu safle fel y brif wrthblaid yn gwbl gadarn. Ar y llaw arall, go brin y byddai gobaith gan neb o’u llusgo’n ôl i’r tir canol gwleidyddol mor gyflym a wnaeth Keir Starmer ar ôl llanast Jeremy Corbyn. 

Y ffigurau cychwynnol yn ymddangos yn drychinebus i’r SNP hefyd – cawn weld yn nes ymlaen i ba raddau y gwireddir hyn.

22:46

Sion Wyn sydd yn Llandysul ar gyfer cyfrif sedd Ceredigion Preseli.

Dilynwch ei flog byw ar Aeron360 gydol y nos i gael y diweddara.

22:42

Un o’r seddi mwya tynn yng Nghymru ydy Ynys Môn.

Owain Siôn yw’r gohebydd bro sydd yn Llangefni, a bydd yn dod â’r sïon diweddaraf ar flog byw Môn360 o’r cyfrif.